Ceidwadwyr ddim am gydweithio â Phlaid ar gynlluniau gwariant

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth angen cefnogaeth gan blaid arall i basio cyllideb atodol y llywodraeth

GanElliw Gwawr
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud na fydden nhw'n gweithio gyda Phlaid Cymru ar eu cynlluniau gwariant cyntaf fel llywodraeth.

Mae Rhun ap Iorwerth yn wynebu ei brawf mawr cyntaf fel Prif Weinidog, ar 14 Gorffennaf, pan fydd angen cefnogaeth gan blaid arall i basio cyllideb atodol y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wrth y BBC "nad ydym wedi cael unrhyw sgyrsiau o gwbl gyda'r llywodraeth", gan ychwanegu y byddai aelodau'r blaid yn pleidleisio yn erbyn cyllideb ganol blwyddyn y llywodraeth.

Mae'r penderfyniad yn golygu mai Llafur yw'r unig bartner posib ar gyfer cytundeb gwerth £294m, sy'n cynnwys £40m ar gyfer atgyweirio ysgolion a £100m ar gyfer amseroedd aros y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd ffynhonnell yn y Blaid Lafur bod sgyrsiau "adeiladol" yn digwydd rhyngddyn nhw a'r llywodraeth, ond eu bod yn parhau i fod "ymhell ar wahân" i Blaid Cymru ar hyn o bryd.

Mae Llafur wedi galw am fwy o arian i fynd tuag at anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn ysgolion.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth y Senedd ddydd Mawrth ei fod yn barod i siarad â Reform yn ogystal ag eraill.

Fodd bynnag, mae cytundeb rhwng y ddwy blaid yn cael ei ystyried yn annhebygol o ystyried bod Plaid Cymru wedi diystyru gweithio gyda phlaid Nigel Farage yn ystod yr etholiad diwethaf.

Nid oes gan Blaid Cymru ddigon o aelodau i basio'r gyllideb mewn pleidlais yn y Senedd - fe gollodd y llywodraeth bleidlais yn ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yr wythnos diwethaf.

'Amlwg na fydd gan y llywodraeth gefnogaeth'

Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, gofynnodd arweinydd Reform, Dan Thomas, os oedd Rhun ap Iorwerth yn fodlon gweithio gyda Reform.

Fe honnodd Mr Thomas ei bod yn "amlwg o'r ymateb cychwynnol gan yr holl wrthbleidiau, os yw'r pleidleisio'n cyd-fynd â'r rhethreg, na fydd gan y llywodraeth gefnogaeth i'w chyllideb atodol, ac na fydd yn mynd trwodd".

"Felly a wnaiff y prif weinidog ddatgelu a ydych chi'n cynnal unrhyw drafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol eraill, a oes unrhyw le i gyfaddawd o fewn y gyllideb atodol ac a fyddech chi'n fodlon gweithio gyda Reform?"

Esboniodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn fodlon cael sgyrsiau gydag "arweinwyr Reform, y Ceidwadwyr, Llafur a'r Blaid Werdd".

Roedd yn cydnabod y bydd angen cefnogaeth gan blaid arall er mwyn pasio'r gyllideb, gan alw ar aelodau i gefnogi eu mesurau i leihau rhestrau aros a chynyddu gwariant ar ofal plant.

Dan ThomasFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gofynnodd arweinydd Reform, Dan Thomas, os oedd Rhun ap Iorwerth yn fodlon gweithio gyda Reform

Yn ôl ffynonellau o fewn y blaid Geidwadol does yna ddim trafodaethau wedi digwydd rhyngddyn nhw a'r llywodraeth.

Dywedodd Dan Thomas bod gan Reform nifer o linellau coch; maen nhw eisiau sicrwydd o swydd i bob myfyriwr nyrsio a bydwraig, cynyddu gwariant ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal â rhoi'r gorau i holl wariant Llywodraeth Cymru dramor.

Mae Elin Jones wedi cyhoeddi £294m mewn gwariant newydd yn ei chyllideb atodol, gyda £40m i fynd ar atgyweirio ysgolion, £55m ar ofal plant, a £100m ar gyfer amseroedd aros.

Daw'r arian ychwanegol o ganlyniad i arian a wariwyd gan lywodraeth y DU - yn bennaf i dalu dyledion cynghorau Lloegr yn sgil gwariant ar gefnogi pobl ifanc ag anghenion addysg arbennig ac anableddau.

Mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar y llywodraeth i wario'r arian yma ar anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig