Siân Phillips: 80 mlynedd disglair ar lwyfan a sgrîn

Siân Phillips mewn dangosiad o I, Claudius yn 2022
- Cyhoeddwyd
Wrth i un o actorion amlycaf Cymru, y Fonesig Siân Phillips, gyhoeddi na fydd hi'n parhau i actio'n llawn-amser ar y llwyfan ar ôl profi anawsterau gyda'i chof, mae Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar ei gyrfa disglair ar lwyfan a sgrîn.
Yn ferch fferm o ardal Gwauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin, mae Siân Phillips wedi bod yn actio am dros 80 mlynedd gan wneud enw i'w hun yn rhyngwladol drwy actio mewn ffilmiau fel Becket (1964), Goodbye, Mr. Chips (1969), Murphy's Law (1971) a House of America (1997), yn ogystal â sawl cyfres deledu lwyddiannus fel I, Claudius.
Dyma rai o uchafbwyntiau ei bywyd a'i gyrfa:
Y dechrau
Mae'r darlledwr Hywel Gwynfryn, sy' wedi ysgrifennu llyfr am Siân Phillips, yn sôn am yr ysbrydoliaeth cynnar i fod yn actores:
"Pan oedd hi'n chwech oed fe aeth am dro efo'i Mamgu i Abertawe i weld ei phantomeim cyntaf ac fe gafodd ei chyfareddu.
"Ar ôl dychwelyd adre' fe ysgrifennodd mewn hen ddyddiadur, oedd yn y tŷ 'I am resolved to be an actress', ac fe gychwynnodd y daith tuag at wireddu'r nod hwnnw pan enillodd y wobr gynta' am lefaru yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybie yn 1944.
"Fe glywodd Nan Davies, a oedd yn gynhyrchydd gyda'r BBC ar y pryd, y ferch o Wauncaegurwen yn cystadlu ac fe recordiwyd ei llais ar gyfer y radio, ac erbyn 1953 roedd Siân yn aelod o'r BBC Repertory Company, yn actio gyda Rachel Tomos, Richard Burton, Dilys Davies, Prysor Williams a Clifford Evans.
"Yn ogystal â hyn roedd Siân hefyd yn gweithio i'r adran gyhoeddi, ac yn aelod o Gwmni Drama Cyngor y Celfyddydau yn teithio Cymru gyda dramâu Saunders Lewis, Gymerwch chi Sigarét? a Siwan."

Siân Phillips yn Goodbye Mr. Chips yn 1969
Ar lwyfan
Bu Siân Phillips yn sgwrsio â Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru yn 2021 ac wrth edrych yn ôl ar ddyddiau cynnar ei gyrfa bu'n cofio actio o dan arweiniad y dramodydd enwog, Samuel Beckett.
Dywedodd: "O'n i mewn drama yn y West End yn yr 1960au ac fe ddaeth yr alwad i mi gwrdd â Samuel Beckett er mwyn gwneud y ddrama Eh Joe. Jackie MacGowran oedd yn chwarae rhan y gŵr a oedd gyda fy llais i yn ei ben yn hala fe'n hurt.
"Roedd Beckett yn edrych yn wonderful, ro'dd e'n gwisgo dillad terrific, odd e'n neis iawn, ond odd e'n galed - yn eistedd o flaen y llwyfan yn edrych ac yn pwyntio'i fys."
Actio ar lwyfan oedd sut y dechreuodd Siân ei gyrfa, ac roedd hi'n mwynhau'r wefr o actio o flaen cynulleidfa fyw.
Meddai: "Mae rhaid gweithio drwy'r amser - chi'n mynd yn ofnus os nad ydych chi'n ymddangos ar y llwyfan. Oherwydd Covid doedd neb wedi bod yn y theatr am beth amser, ac felly pan aethon ni'n ôl doedd ddim ofn arno' ni ond roedd y muscle wedi mynd yn slac - roedd rhaid dod i arfer eto."

Hywel Gwynfryn a Siân Phillips ar ddiwrnod y cyfweliad
Plentyndod Cymreig
Meddai am ei magwraeth yn Sir Gaerfyrddin: "Roedd rhan fwya' o'm mhlentyndod i yn y Waun (Gwauncaegurwen), ac yna yn yr Allt Wen - doedd ddim un pentre' yn bell o'r nesa yn yr ardal. Ges i fy ngeni ar y fferm, ac fe gath mam ei geni yn yr un ystafell ac fy mam-gu ei geni yn yr un ystafell - roedd e'n hen fferm yn y teulu.
"O'n i'n dost drwy'r rhan fwya' o'n mhlentyndod, ac felly'n cael fy nala'n ôl yn y fferm i wella. Gwariais i lawer o amser ar ben fy hunan, a rwy'n unig blentyn hefyd - o'n i mas yn cerdded, yn darllen, yn 'whare, yn cael amser braf."
Roedd teulu yn agwedd bwysig o fywyd cynnar Siân ac meddai bod ei mam wedi bod yn hynod ddylanwadol. Ond doedd ei mam ddim am iddi fynd i actio, gan ei hannog i chwilio am swydd wahanol.
"Dwi ddim yn deall pam odd hi'n dysgu fi adrodd ond dim mynd 'mlaen i gael gyrfa'n actio. Dwi'n meddwl oedd hi'n deall pa mor anodd fydde pethe - roedd e'n annioddefol o galed.
"Roedden nhw i gyd (y teulu) yn eitha' nerfus drosta'i, ond o'n i'n gwybod y bydde fi'n iawn."
Tra yn Ysgol Ramadeg Pontardawe, athro Cymraeg Siân oedd Eic Davies, tad y darlledwr Huw Llywelyn Davies. Cafodd Eic Davies ddylanwad mawr ar Siân Phillips, gan ddylanwadu ar ei Chymraeg ac hyd yn oed ei henw perfformio.
"Wedodd e 'ma rhaid i chi newid eich enw nawr, ma' Jane yn enw Saesneg - Siân. Do'dd neb yn galw plant yn Siân y pryd hynny, doedd e ddim yn ffasiynol."
Cystadlu mewn Eisteddfodau
Daeth doniau Siân i'r amlwg wrth iddi gystadlu yn yr eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ond ddaeth y llwyddiant ddim dros nos.
Meddai: "Roedd ffordd Mam o ddysgu yn od i bawb arall, ac ar y dechrau doeddwn i ddim yn llwyddiannus o gwbl. Roedd hi'n licio bod pethe yn bod yn dawel ac yn rhesymol, ac roedd lot o actio'n mynd mlaen - roedd hi'n dweud 'peidiwch â gwneud hynna'.
"Ac yna dechreues i fod yn llwyddiannus ac o'n i'n cystadlu rhywle bob dydd Sadwrn - y cwestiwn mawr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Mair Rees a fi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandybie, honna oedd yr un cyntaf."

Siân Phillips ar lwyfan yn Llundain yn The Importance of Being Earnest
Yfed gwin gyda Saunders Lewis
Moment fawr ym mywyd Siân Phillips oedd pan wnaeth hi gyfarfod â Saunders Lewis. Roedd Siân yn ymarfer ar gyfer drama Saunders Lewis, Gymerwch Chi Sigarét? ar y pryd.
"Dwi'n cofio fe'n dod i'r rehearsals. Roedd e mor fach - yn ddyn bach, bach, gyda phen mawr. O'n i'n dwlu ar y ddrama ac felly 'nes i gwrdd â fe. Dechreuodd e ail-sgrifennu pethe i fi ac egluro pethe, a daethon ni'n ffrindiau - roedd e'n ddoniol iawn ac yn lyfli.
"Odd e'n mynd â fi mas am ginio ac odden ni o hyd yn mynd i 'run lle bob tro - ar y pier yn Tiger Bay, a oedd yn ardal beryglus yr adeg hynny. Dyna lle wnes i flasu gwin am y tro cyntaf."
Tair priodas

Siân Phillips a Peter O'Toole mewn dangosiad o'r ffilm Murphy's War yn 1971
Mae Siân wedi priodi deirgwaith, ond mae'n debyg mai ei phriodas gyda'r actor Gwyddelig, Peter O'Toole oedd yr un gafodd y mwyaf o sylw. Roedd hi'n briod ag O'Toole am ugain mlynedd, rhwng 1959 ac 1979, ac fe gafodd y ddau ddwy o ferched, Kate a Patricia.
Meddai: "O'n i wedi clywed lot amdano fe, ond roedd e wedi gadael RADA cyn i mi gyrraedd 'na.
"Daeth e lan i Lundain un penwythnos, ac o'n i mas i ginio gyda cwpl o ffrindie, ac o'dd un o nhw'n ei 'nabod e. Nes i gwrdd ag e ar y pafin a meddwl i fi'n hun 'na i briodi fe rhywbryd'.
"Feddylies i ddim amdano fe wedyn tan i ni gwrdd eto, ac fe briodon ni. Roedd e'n briodas anodd ar brydie, ond hefyd yn iawn ar brydie."
Uchafbwyntiau gyrfa
Mae Siân wedi chwarae rhannau mawr ar lwyfan, teledu a ffilm, ond beth mae hi'n fwyaf balch ohono?
Meddai: "Un o'r pethau o'n i'n mwynhau yn ofnadwy oedd pan 'nes i ddechrau musical theatre pan o'n i'n 40 oed - o'n i'n hen i fod yn dechre canu a dawnsio.
"Gorfod fi ddysgu disgyblaeth newydd ac fe ddechreuodd hynny fywyd newydd i mi. Rwy 'di gwneud wyth musical yn y West End a chael gyrfa o 15 mlynedd yn gwneud Cabaret hefyd, sydd wedi bod yn ddiddorol ofnadwy."
Dod 'nôl i Gymru
Mae Siân yn dweud ei bod yn hynod o falch o'i chefndir, ac yn arddel ei Chymreictod lle bynnag y mae hi: "Dwi ddim yn cael gymaint o gyfle i fynd adre â hoffen ni, ond rwy'n dwlu mynd adre' a meddwl am fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru - o'n i mor hapus yno."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd8 Awst 2015
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2025
