Mam o Gaernarfon: 'Yr haf yn ddrud a theimlo'n euog methu fforddio petha'
Llinos o Gaernarfon a'i tair merch
- Cyhoeddwyd
Mae gan Llinos Thomas o Gaernarfon dair o ferched a dwy swydd ond weithiau mae'n anodd "gweld y golau ar ddiwedd y twnnel yn ystod gwyliau'r haf", meddai yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
Mae arolwg diweddar gan Achub y Plant Cymru yn dangos bod 89% o rieni yng Nghymru yn teimlo bod gwyliau'r haf yn rhoi pwysau ariannol ac emosiynol sylweddol arnyn nhw - dywedodd un o bob pedwar rhiant eu bod yn cael trafferth prynu danteithion syml, fel hufen iâ.
"Mae'n anodd yn sefyllfa fi er bod gen i ddwy job 'neud petha' efo'r teulu ac ma' rywun yn teimlo mor euog wrth i'r plant weld eu ffrindiau yn cael gwneud pob math o betha'," ychwanegodd Llinos Thomas.
'Gwyliau haf - jyst byw yn un peth'
Mae Llinos yn gweithio mewn ysgol ac mewn cartref i bobl â dementia.
Roedd hi'n edrych ymlaen i gael seibiant dros wyliau'r haf ond yn sgil costau byw uchel mae'n gorfod gweithio mwy yn y cartref gofal er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.
"Mae bob dim yn newid yn ystod gwyliau'r haf. Ma' jyst byw yn un peth heb sôn am allu mynd â 'neud petha.
"Dan ni'n mynd i siopio falle ddwywaith yr wythnos. Dwi'n teimlo bob tro dwin mynd i siopa mae e jyst twtsh yn fwy bob tro."
Wyth oed yw'r hynaf o ferched Llinos ac ar hyn o bryd "does gan y plant ddim syniad beth yw gwerth dim byd na gwerth pres", ychwanegodd.
"Y cwestiwn bob bore yw 'Be 'dan ni'n 'neud heddiw? Maen nhw'n gweld eu ffrindiau nhw wedi bod yn rhywle a yna maen nhw isio 'neud yr un peth. Ydy mae o mor anodd."
'Isio 'neud mwy ond yn methu'
Dywed Llinos ei bod yn ffodus bod y plant yn cael mynd i nofio am ddim am eu bod yn cael gwersi nofio ond bod pethau wedi newid cryn dipyn ers pan oedd hi'n blentyn ifanc yn y dre.
"Pan o'n ifanc am bo fi'n byw yn dre neu cael mynd o'n i'n cael mynd ar y trên bach - does na'm byd felly heddiw a mae mynd i'r castell yn gymhleth."
Dywed hefyd bod eu merched wedi elwa o gynllun chwarae Eglwys Noddfa Caernarfon - cynllun sy'n para am bythefnos ac yn ddibynnol ar wirfoddolwyr.
"Chi ddim yn teimlo guilt pan maen nhw wedi bod yn cynllun chwarae Eglwys Noddfa. Oeddan nhw'n dod adre' wedi gwneud petha' gwahanol bob dydd. Mae hynna'n tynnu lot o straen oddi arnaf fi.
"Ti yn teimlo'n euog pan maen nhw'n clywed bod rhai pobl yn mynd i lefydd lle 'dan ni'n methu mynd. Dwi isio 'neud mwy ond yn methu.
"Mae gen i deulu sy'n gallu helpu i warchod felly dwin gallu cymryd mwy o shifts yn y lle gofal. Os ddim faswn i ddim yn gallu talu am ofal plant."
'Anodd denu a chadw gwirfoddolwyr' wrth i gostau byw frathu
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
Costau byw: 'Biliau a bwyd yn mynd yn ddrytach a drytach'
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2025
Daw sylwadau Llinos Thomas wrth i Achub y Plant Cymru lansio ffilm fer Gymraeg newydd, dolen allanol sy'n tynnu sylw at yr effaith gynyddol y mae gwyliau'r haf yn ei chael ar deuluoedd incwm isel.
Mae'r animeiddiad 90 eiliad, a grëwyd gan Alice Bowsher a Plastic Horse, yn adrodd stori plentyn sy'n poeni na fydd ganddo "ddim straeon newydd i'w hadrodd na dillad newydd i'w gwisgo" pan fydd yn dychwelyd i'r ysgol.
Dywedodd Mel Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru, "Mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn cael ei fagu mewn tlodi yr haf hwn. Mae'r ffilm yn adlewyrchu profiadau teuluoedd sy'n wynebu tlodi dros wyliau'r haf. Ni allwn anwybyddu'r 'eliffant yn yr ystafell' mwyach."
Mewn arolwg diweddar dywedodd un o bob pedwar rhiant (25%) eu bod yn cael trafferth prynu danteithion syml fel hufen iâ a dywedodd un o bob pump bod prynu hanfodion fel eli haul a hetiau yn anodd.
Dim ond un o bob pedwar (26%) oedd yn gallu darparu'r un profiad gwyliau'r haf i'w plant â'r hyn a gawson nhw pan oedden nhw'n yn iau.
Ychwanegodd Mel Simmonds: "Rydyn ni'n croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynnal cynllun peilot ar gyfer Cynnal – taliad wythnosol o £10 i blant ifanc mewn teuluoedd incwm isel – fel cam cyntaf tuag at Daliad Plant Cymru ar raddfa lawn.
"Bydd cynllun o'r fath yn ffordd bwerus i fynd i'r afael â thlodi plant a rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i deuluoedd er mwyn sicrhau bod plant yn cael y plentyndod maen nhw'n ei haeddu."
Bydd mwy ar y stori hon yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ar Radio Cymru ac yna ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.