Canmoliaeth i'r fyddin sy'n helpu i ddiffodd y tanau mawr yng Nghymru

Aelodau o'r fyddin sy'n helpu i ddiffodd tanau
- Cyhoeddwyd
Mae prif swyddog tân wedi canmol y milwyr sy'n helpu gyda'r gwaith o ddiffodd tanau gwyllt yn ne Cymru.
Dywedodd Fin Monahan fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru dan bwysau mawr ac felly ei fod yn hynod ddiolchgar i saith gwasanaeth tân arall ac i'r fyddin am eu cymorth.
Mae tua 200 o aelodau o amrywiol gatrawdau yn rhan o'r gwaith ac mae timau o Lundain, Cumbria a mannau eraill hefyd wedi bod yn cynorthwyo.
Dywedodd Fin Monahan wrth y BBC fod llywodraethau'r DU a Chymru wedi cymryd "cam difrifol iawn" wrth alw ar y fyddin, ond bod angen y "cymorth ychwanegol" wrth i dimau frwydro yn erbyn degau o danau ar draws y wlad.
Mewn cyfweliad fore Sul dywedodd fod gan ei ddiffoddwyr tân "sgiliau arbenigol iawn" i fynd i'r afael â thanau gwyllt ond bod cymorth milwrol yn eu galluogi i "ganolbwyntio'r ymdrechion yn y lle iawn".
Mae milwyr wedi bod yn darparu cefnogaeth ymarferol gan gynnwys dosbarthu dŵr i gynorthwyo'r diffoddwyr a chloddio ffosydd pwrpasol.

Mae criwiau o'r Gelli Gandryll wedi bod yn rhannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol
Yn ne Cymru mae criwiau yn parhau i ddelio â thua 14 o danau ddydd Sul.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod criwiau'n delio â thanau yn Rhandirmwyn a Rhydaman yn Sir Gâr ac yn y Gelli Gandryll ac Aberhonddu ym Mhowys, ddydd Sul.
Maen nhw hefyd yn delio â thanau yn Ngorseinon (Abertawe) a Dinbych-y-pysgod yn ogystal â digwyddiad yn ymwneud â mwg yn Llanelli.
Dywedodd Chris Bryant, AS Rhondda ac Ogwr, fod y tân yn Nhreherbert, Rhondda Cynon Taf, wedi bod yn "ofnadwy" a diolchodd i griwiau o Lundain a oedd wedi rhoi cymorth.
"Diolch byth, mae injans tân o bob rhan o'r DU yno ac mae dau hofrennydd wedi bod ar waith drwy'r prynhawn.
"Rwyf yn hynod o falch o waith y diffoddwyr tân. Ond ni all hyn fod yn 'normal newydd' i ni," meddai mewn neges ar ei gyfrif X.
Tanau'r Rhondda yn 'gwbl frawychus' a phedwar yn cael eu harestio
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Rhybudd brys am 'berygl difrifol' o dân a'r fyddin yn cael eu galw
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Ychwanegodd Fin Monahan mai rhan o waith y fyddin wrth i system ddŵr Cymru fod o dan bwysau oedd symud dŵr o ardaloedd eraill.
Dywedodd hefyd bod y neges a anfonwyd gan lywodraeth y DU i ffonau symudol yng Nghymru a Lloegr nos Wener yn "gwbl angenrheidiol" ond ei fod yn siomedig nad yw rhai pobl o hyd yn sylweddoli cymaint yw'r peryglon o gynnau tân.
"Yn syth wedi'r neges welais i rywun yn llosgi teiars o dan goeden. Mae hynna'n ymddygiad anghyfrifol," meddai.