Rhybudd y gallai cynllun dychwelyd poteli gostio 50c y gwydr i gwsmeriaid

Fe all costau poteli gwydr godi 50c i gwsmeriaid yng Nghymru, yn ôl rhybudd gan y diwydiant diodydd
- Cyhoeddwyd
Gallai siopwyr yng Nghymru wynebu prisiau uwch a llai o ddewis o dan gynllun ailgylchu newydd, yn ôl rhybudd gan rai o arweinwyr y diwydiant.
Dywedodd y cynhyrchydd diodydd Radnor Hills ym Mhowys fod y cynlluniau yn "llanast llwyr", a rhybuddiodd ei bod yn anochel y byddai costau ailgylchu uwch yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid.
Gallai'r bwriad i gynnwys gwydr yng nghynllun dychwelyd blaendal Cymru ychwanegu tua 50c at gost rhai poteli, yn ôl Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain (BSDA).
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal y flwyddyn nesaf, tra bod Cadwch Gymru'n Daclus wedi beirniadu "gwybodaeth anghywir" am y cynlluniau.
'Prisiau uwch neu lai o ddewis'
Bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru yn golygu y bydd siopwyr yn talu blaendal ar boteli a chaniau diod, a fydd wedyn yn cael ei ad-dalu wrth eu dychwelyd i'w hailgylchu.
Bydd yn dod i rym ar 1 Hydref 2027.
Ond mae'r diwydiant diodydd yn dweud y bydd cynlluniau Cymru i gynnwys gwydr - yn wahanol i weddill y DU - yn cynyddu costau.
Dywedodd Andy Bagnall, cyfarwyddwr cyffredinol y BSDA, y byddai gofyn am gasglu gwydr ar raddfa lawn o'r cychwyn cyntaf yn cael "canlyniadau negyddol iawn i fusnesau a defnyddwyr".
Dywedodd y gallai ychwanegu "rhywbeth fel 50c y botel" at gostau i gynhyrchwyr.
"Byddai busnesau naill ai'n trosglwyddo'r gost honno i'r defnyddiwr, gan gynyddu'r pris i siopwyr, neu bydden nhw'n tynnu eu cynnyrch oddi ar y silffoedd yng Nghymru," meddai.
"Prisiau uwch neu lai o ddewis, nid yw'r naill na'r llall yn ganlyniad da i ddefnyddwyr."

Mae William Watkins yn un o arweinwyr y sector sy'n gwrthwynebu cynllun i gynnwys gwydr yn y system ailgylchu o'r cychwyn cyntaf
Disgrifiodd William Watkins, prif weithredwr cwmni Radnor Hills, y sefyllfa yng Nghymru fel "llanast llwyr", gan rybuddio y byddai gwahaniaethau rhwng systemau ar y naill ochr i'r ffin yn creu anawsterau mawr i gynhyrchwyr.
"Rhaid i ni gael system sydd yr un fath ar y ddwy ochr i'r ffin," meddai.
Rhybuddiodd Mr Watkins hefyd fod Cymru yn gyfran fach o farchnad diodydd ehangach y DU, sy'n golygu y gallai rhai cwmnïau benderfynu nad yw'n "werth chweil" cyflenwi rhai diodydd mewn poteli gwydr yma.
Cyn etholiad Senedd Cymru, roedd maniffesto Plaid Cymru yn addo bwrw ymlaen â "chynnwys gwydr pan fydd hyn yn ymarferol bosibl" yn y cynllun dychwelyd blaendal.
Ynghyd ag ymweliadau gan wleidyddion Plaid Cymru wrth ymgyrchu, dywedodd Mr Watkins ei fod wedi disgwyl ymateb "pragmatig" o'i gymharu â'r cynlluniau a ddaeth gan y llywodraeth Lafur flaenorol.
"Ro'n i wir yn obeithiol y bydden ni wedi gweld newid cyfeiriad llwyr," meddai.
Ond honnodd fod "realiti dod i rym, a dod ar draws rhai safbwyntiau sefydledig iawn" yn y gwasanaeth sifil wedi golygu bod y llywodraeth newydd yn parhau ag agenda'r weinyddiaeth flaenorol.

Pleidleisiodd aelodau'r Senedd o blaid cynnwys gwydr yn y system Gymreig
Fe wnaeth y gweinidog newydd Llyr Gruffydd wrthod cais BBC Cymru am gyfweliad ar y mater.
Mae'r BSDA a chwmnïau diodydd yn dweud bod gweinidogion yn wynebu dyddiad cau tynn i weithredu, gan rybuddio mai dim ond "wythnosau" sydd ar ôl i benodi corff i reoli'r system flaendal os yw Cymru am lansio cynllun ochr yn ochr â gweddill y DU ar 1 Hydref 2027.
Dim ond un sefydliad - Exchange for Change - sy'n ymddangos ei fod wedi gwneud cais i redeg y system yng Nghymru.
Maen nhw eisoes wedi cael eu penodi i redeg y cynlluniau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Er bod y ffenestr ar gyfer ceisiadau wedi cau ar 2 Mehefin, nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto.
Angen 3,500 peiriant, ond 100 yn cael eu cynnig
Mae BBC Cymru ar ddeall bod angen 3,500 o beiriannau gwerthu gwrthdro (reverse vending machines) ar Lywodraeth Cymru i drin gwydr ar ddechrau'r cynllun yng Nghymru, ond y cynnig gan Exchange for Change yw i lansio gyda 100 o beiriannau addas ledled y wlad.
Mae'r rhai sydd â gwybodaeth am y trafodaethau yn dweud bod hwn yn bwynt allweddol sy'n achosi trafferth.
Dywedodd Mr Bagnall nad oedd "amser ar ôl" bellach i ddylunio system Gymreig ar wahân o'r dechrau, sef yr opsiwn wrth gefn o fewn y rheoliadau os na ellir penodi corff i redeg y system.
"Mae angen penderfyniadau yn yr wythnosau nesaf os ydyn ni am gael unrhyw gyfle realistig o gael cynllun ar waith erbyn mis Hydref 2027," meddai.

Mae nifer o wledydd eraill yn Ewrop eisoes gyda systemau dychwelyd ernes
Mae Owen Derbyshire o gorff Cadwch Gymru'n Daclus yn galw ar lywodraeth newydd Cymru i fwrw ymlaen â'r cynlluniau, ac fe gyhuddodd y diwydiant diodydd o "gamwybodaeth".
"Y gwir amdani yw, os edrychwch ar unrhyw gynllun dychwelyd blaendal wrth iddo gael ei gyflwyno ym mhob un o'r 40 o wledydd y mae'n bodoli ar hyn o bryd, yr un dadleuon sy'n dod bob tro gan y diwydiant [diodydd].
"A'r gwir amdani yw, ar ôl eu sefydlu, nid yw'r un o'r straeon hynny, y cyhuddiadau hynny, byth yn dod i'r amlwg," meddai.
Ychwanegodd Mr Derbyshire fod yr ymdrech lobïo yn "gamwybodaeth" sydd ddim yn cyd-fynd â'r profiad yng ngwledydd eraill.
'Anghywir awgrymu bod oedi'
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant i sicrhau'r trefniadau yn iawn".
"Mae proses ffurfiol ar y gweill i benodi Sefydliad Rheoli Blaendaliadau," meddai llefarydd.
"Mae'n anghywir awgrymu bod oedi wedi bod, a byddai'n amhriodol rhagfarnu canlyniad y broses ffurfiol barhaus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.