'Mae dysgu Cymraeg wedi hollol newid bywyd fi'

Joe MorganFfynhonnell y llun, Joe Morgan
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Cwta bedair blynedd yn ôl, penderfynodd Joe Morgan ddilyn cwrs Lefel A Cymraeg ail-iaith, er nad oedd o wedi cael fawr o flas ar y pwnc yn ystod ei TGAU.

Nawr, mae'n defnyddio'r iaith yn ei fywyd cymdeithasol a'i waith bob dydd, yn cynhyrchu podlediad sy'n trafod cerddoriaeth Gymraeg, a methu gweld dyfodol heb yr iaith Gymraeg.

Syrthio mewn cariad â'r Gymraeg

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Joe ar fin dechrau ar ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae'n astudio cyfryngau a chyfathrebu, yr unig fyfyriwr ail-iaith ar ei gwrs.

Doedd y Gymraeg ddim yn rhan bwysig o'i fywyd wrth dyfu i fyny, meddai. Ond er ei fod wedi gwneud cwrs TGAU Cymraeg ail-iaith, yn ystod ei gwrs Lefel A y dechreuodd ei berthynas ddwfn â'r iaith o ddifri', meddai, a hynny drwy ddysgu mwy am hanes a diwylliant Cymru.

Bellach mae'n byw y rhan helaeth o'i fywyd drwy'r Gymraeg.

"Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith dwi'n ei 'neud oherwydd mod i'n siarad Cymraeg. Mae'n ffrindiau i'n siarad Cymraeg. Dwi'n siarad Cymraeg efo brawd a'n mam i.

"Mae'r iaith Gymraeg wedi hollol newid bywyd fi achos dwi'n methu gweld dyfodol heb y Gymraeg."

Yn 2025 enillodd Joe Fedal Bobi Jones yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dur a Môr; gwobr sy'n cael ei rhoi i unigolyn sy'n dangos brwdfrydedd tuag at y Gymraeg a'r effaith mae dysgu'r iaith wedi ei gael ar eu bywydau.

Joe MorganFfynhonnell y llun, Joe Morgan

Er mai dim ond ers ychydig o flynyddoedd mae wedi bod yn dysgu'r iaith o ddifri', mae Joe yn rhugl ei Gymraeg. Ond dydy o ddim eisiau cael gwared ar y label 'dysgwr' wrth ei ddisgrifio, chwaith, eglurai.

"Dwi'n gallu gweithio yn broffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg – dwi'n gallu sgwennu, dwi'n gallu siarad, popeth rili. Ond dwi hefyd isho galw fy hun yn ddysgwr, achos mae'n dangos i eraill be' mae modd i'w wneud...

"Mae 'na fwlch yn y canol rhwng pobl sy'n dechrau dysgu a rhai sy'n rhugl yn Gymraeg, ond efallai dwi'n gallu dangos iddyn nhw ti'n gallu siarad lot o Wenglish. Ti'n gallu siarad Cymraeg slang a dal bod yn ddysgwr neu'n eitha' rhugl."

Dysgu Cymraeg drwy ganeuon

Un elfen o ddiwylliant Cymraeg sydd wedi bod yn gwbl hanfodol wrth i Joe ddysgu'r iaith, meddai, yw cerddoriaeth Gymraeg.

"'Nes i ddechrau gwrando, ac roedd e fel mae ffans K-Pop; do'n i ddim yn deall beth oedden nhw'n sôn am!

"Y mwya' o Gymraeg o'n i'n ei dysgu a'r mwya' o gerddoriaeth o'n i'n gwrando ar, y mwya' o'n i'n deall negeseuon tu ôl y caneuon, beth maen nhw'n ei olygu pan maen nhw'n canu.

Joe Morgan gydag Osian Williams, a CandelasFfynhonnell y llun, Joe Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Joe yn cyfarfod Osian Williams ac yna'n ei wylio'n perfformio gyda Candelas

"O'n i'n creu playlists o ganeuon Cymraeg, wedyn dechrau mynd i stwff fel Tafwyl. A mae hwnna'n hiwj ac am ddim, ac yn adnodd rili da i rywun fel fi sydd yn caru cerddoriaeth Gymraeg. O'n i'n trio dysgu drwy hwnna.

"Dwi'n berson sy'n gwrando ar gerddoriaeth tra'n gwneud unrhywbeth, ac mae e wedi bod yn llawer o exposure i'r iaith.

"Dwi jyst yn joio'r ffaith fod lot o wyliau cerddoriaeth Gymraeg am ddim; es i i Gŵyl Tawe, Gŵyl Canol Dre a Tafwyl eleni. Mae'n wych gallu mynd i'r gigs 'ma a joio a gweld dy hoff artistiaid - dwi'n meddwl mae e'n rili sbesial.

Joe MorganFfynhonnell y llun, Joe Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe wrth ei fodd fod gwyliau am ddim fel Tafwyl, Gŵyl Tawe a Gŵyl Canol Dre yn galluogi pobl i glywed eu hoff artistiaid - a darganfod rhai newydd

"Dwi'n masif pop ffan - dwi'n obsesd efo Cordia ar hyn o bryd, a dwi'n chwarae Gweld yn Glir drwy'r amser! A dwi hefyd yn licio pobl fel Candelas, Gwilym, Fleur de Lys, Eden.

"Mae'n rili neis i weld pobl newydd yn dod i'r sîn hefyd, yn rhyddhau eu cerddoriaeth nhw, yn dod â rhywbeth newydd i'r sîn."

Joe gyda CordiaFfynhonnell y llun, Joe Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Joe gyda Cordia - mae wrth ei fodd gyda sengl newydd y band o Fôn ar hyn o bryd, meddai, ac yn ei chwarae drosodd a throsodd!

Podlediad addas i bawb

Ei obaith yw i weithio fel cyflwynydd neu "unrhyw swydd yn y cyfryngau", meddai, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae eisioes yn hen gyfarwydd â gwneud cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ac mae wedi cyfuno hynny gyda'i gariad tuag at gerddoriaeth Gymraeg.

Mae ei bodlediad Sŵntrack gyda Joe, lle mae'n sgwrsio â rhai o enwau mwya'r sîn gerddoriaeth, wedi cael ei enwebu am wobr y Podlediad Cymraeg Gorau yn y British Podcast Awards eleni.

"Dwi'n gwneud popeth fy hun – sgriptio, cynllunio, gwahodd gwesteion, trefnu lleoliad, recordio, golygu, rhyddhau, stwff hyrwyddo... mae'n sioe un-dyn! Mae'n crazy bod ar restr lle mae lot o bodlediadau rili enwog.

"Ac mae'r gwobrau yn masif! Dwi'n falch o'r llwyddiant yna.

"Dwi ddim yn siŵr os dwi am ennill achos mae'r gystadleuaeth yn galed ond dwi'n falch o gael mynd i'r noson yn Llundain a dathlu."

Joe MorganFfynhonnell y llun, Joe Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Joe yn cyfweld Efan o'r band Dadleoli ar gyfer ei bodlediad

"O'n i eisiau rhoi fy hun mas yn y byd a gallu siarad am gerddoriaeth Gymraeg. Ar y radio, ti'n cael sgwrs eitha cyflym, a falle ddim rili yn siarad â nhw am eu cerddoriaeth, pam bod nhw'n sgwennu eu caneuon.

"Felly mae'r podediad yn siawns i gael sgwrs bach mwy dwfn, ond dal reit ysgafn fel gall pawb gael mynediad at y podlediad; pobl sy'n rhugl, pobl iaith gynta', pobl ail iaith, pobl sy'n dysgu, pobl sy'n gwybod lot am y sîn, pobl ddim ddim.

"Gall pawb wrando ar y podlediad a ffeindio gwerth ynddo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.