'Cyfle olaf' i wella Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - gweinidog

- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn uniongyrchol er mwyn delio â phroblemau ym mwrdd iechyd gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr.
Yn y Senedd brynhawn Mawrth dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, y bydd y llywodraeth yn comisiynu grŵp annibynnol i ganfod ffaeleddau yn hytrach nag ymddiried yn y bwrdd eu hunain.
Dywedodd mai "dyma gyfle olaf y bwrdd i ddangos y gallant ddarparu'r safonau gofal uchel cyson y mae pobl gogledd Cymru yn ei haeddu".
Ychwanegodd bod "pob opsiwn ar gael os nad yw'r cynnydd ar y raddfa a'r cyflymder yr ydym yn disgwyl ei weld".

Dyma'r cyfle olaf i'r bwrdd, meddai Mabon ap Gwynfor
Mae'r gweinidog wedi gofyn i gorff Perfformiad a Gwella GIG Cymru, dolen allanol gefnogi'r bwrdd iechyd i leihau arosiadau hir am driniaeth canser, mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo ambiwlansys ac arosiadau dwy flynedd am ofal wedi'i gynllunio.
Bydd tîm hefyd yn cael ei sefydlu i geisio gwneud gwelliannau mewn gofal brys ac argyfwng.
Y mis diwethaf, adroddodd yr arolygiaeth iechyd fod adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn wasanaeth sydd "angen gwelliannau sylweddol" - a hynny lai na dwy flynedd ar ôl iddo ddod allan o graffu arbennig am faterion tebyg.
Er bod pob adran achosion brys ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd lleihau'r niferoedd sy'n aros yn hirach na phedair neu 12 awr cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, mae dau o'r ysbytai sy'n perfformio waethaf yng ngogledd Cymru.
Ar lawer o fesuriadau perfformiad allweddol y GIG, mae Betsi yn parhau i fod y gwaethaf yng Nghymru.
Mae tua dwy ran o dair o'r 3,694 o gleifion sy'n aros yn hirach na dwy flynedd am ofal wedi'i gynllunio yng Nghymru, yn byw yn ardal y bwrdd iechyd hwn.
Yn natganiad dydd Mawrth, canmolodd ap Gwynfor y staff a dywedodd eu bod nhw "cymaint yn ddioddefwyr y saga druenus hon â'r cleifion".
Ychwanegodd: "Rwyf wedi blino ar Betsi yn gyfystyr â chamweithrediad a safonau sy'n gostwng.
"Nid oes ail gyfleoedd i'r rhai mewn swyddi cyfrifoldeb ac awdurdod."
'Cryfhau disgwyliadau'
O fewn y rheolau presennol, mae gan weinidogion yr opsiwn i ddefnyddio pwerau brys i gael gwared â rheolaeth y bwrdd iechyd fel dewis olaf.
Nid yw'r gweinidog iechyd wedi mynd mor bell â hynny heddiw.
Mewn gwirionedd, mae ei ddatganiad yn nodi'n benodol fod yn rhaid i aelodau presennol y bwrdd a'r tîm gweithredol "gymryd perchnogaeth o'r problemau hirhoedlog".
Mae cyhoeddiad heddiw yn "cryfhau disgwyliadau" penaethiaid y bwrdd iechyd meddai, yn hytrach na'u rhyddhau o gyfrifoldeb.

Dyfed Edwards - cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd - yw cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru a Pherfformiad a Gwella'r GIG i sicrhau ein bod yn parhau i wneud gwelliannau i bobl gogledd Cymru.
"Fel bwrdd rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel ac i ddysgu gan arbenigedd annibynnol a fydd yn helpu i gryfhau ein sefydliad."
Ar ran Reform, dywedodd James Evans, "mae'r dystiolaeth eisoes yno, mae'r methiant eisoes yn hysbys.
"Y cwestiwn yw a yw'r gweinidog mewn gwirionedd yn barod i ddefnyddio pob lifer sydd ar gael i'w drwsio, neu a fydd hwn yn fwrdd arall sy'n nodi'r methiannau ac yn cyflawni dim?"
Dywedodd Arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates: "Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi pam eich bod yn cymryd y mesurau hyn, ond yr hyn sy'n peri pryder i mi yw bod y mesurau wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol, er mewn gwahanol ffurfiau.
"I raddau helaeth, gwelwyd ymyrraeth yn y gorffennol heb fawr o fudd, neu ddim budd o gwbl, neu o leiaf heb unrhyw fudd cynaliadwy yn y tymor hir."
Ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Natasha Asghar: "Rwy'n cefnogi eich angerdd i droi pethau o gwmpas yn y bwrdd... [ond] sut bydd eich dull chi, mewn gwirionedd, yn helpu i ddod o hyd i ganlyniad gwell? Mae'n teimlo fel adolygiadau ar faterion sydd eisoes wedi'u hadolygu."
Sut mae gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr?
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
'Ffordd bell i fynd' i fwrdd iechyd sy'n parhau dan fesurau arbennig
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2025
Uned frys Ysbyty Glan Clwyd 'angen gwella'n sylweddol'
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi wynebu problemau sylweddol ers eu sefydlu gan weinidog iechyd Llafur dan lywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn 2009.
Ers hynny mae'r bwrdd wedi treulio'r rhan fwyaf o'r amser mewn mesurau arbennig sef y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru.
Ym Mis Mawrth 2026 fe wnaeth y bwrdd iechyd gydnabod bod gormod o bobl yn aros yn rhy hir am eu triniaethau ond roedd rheolwyr yn mynnu fod yna welliant sylweddol wedi digwydd i ostwng rhestrau aros a bod ymdrechion mawr wedi digwydd i geisio lleihau'r straen ar unedau brys.
Dadansoddiad
Owain Clarke, Gohebydd Iechyd
Ar ddiwedd ei ddatganiad i'r Senedd mae'r gweinidog iechyd yn nodi ei fod yn rhoi un "cyfle olaf" i fwrdd iechyd y gogledd i wella gwasanaethau.
Mae'r datganiad yn nodi rhwystredigaeth amlwg Mabon ap Gwynfor - sef er bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi treulio cyhyd (cyfanswm o dros 9 mlynedd a hynny dros ddau gyfnod) mewn mesurau arbennig nad yw hyn wedi llwyddo i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf amlwg.
Addewid y llywodraeth felly yw y byddan nhw'n ymyrryd yn fwy uniongyrchol yng ngwaith y bwrdd yn hytrach nag ymddiried yn y bwrdd iechyd i wella pethau'n fewnol.
Yn benodol fe fydd tîm newydd o arbenigwyr yn cael eu hanfon, ac adolygiad pellach gan banel annibynnol yn edrych ar heriau ymarferol, safon gofal a chyfeiriad strategol. Fe fydd hwn yn adrodd erbyn yr hydref.
Ond mae'r mesurau yma, yn fy marn i. yn debyg i'r math o ymdrechion sydd wedi digwydd sawl gwaith yn y gorffennol.
Yr hyn y bydd cleifion a'u teuluoedd yn y gogledd am wybod yw beth fydd yn newid ar lawr gwlad.
Pa sicrwydd sydd yna y bydd penaethiaid yn atebol os na fydd 'na welliant amlwg y tro hwn?
Beth fydd yn digwydd os yw'r ymdrechion diweddaraf yma yn methu?
Dyw hynny ddim yn amlwg iawn i fi ar hyn o bryd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.