Ydy diwydiant gwin Cymru yn elwa o'r tywydd poeth?

Gwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Gwen Davies dyfu grawnwin yn Nyffryn Clwyd ar gyfer cynhyrchu gwin yn 2018

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Nid pawb sydd wedi bod yn hapus efo'r tywydd poeth di-bendraw sydd wedi taro Cymru dros yr haf, ar wahân i un diwydiant efallai.

Un sydd i weld yn ffynnu ar hyn o bryd yw'r un cynhyrchu gwinoedd.

Ond roedd Gwen Davies o Winllan y Dyffryn yn Sir Ddinbych yn pwysleisio fod y ffin yn denau iawn rhwng llwyddiant a methiant gyda gwin mewn tywydd mor sych.

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru:

"Mae'n stori gymysg, ar y cyfan mae'r gwinwydd yn ymdopi'n dda efo'r amodau sych.

"Mae'n saith mlynedd ers i ni blannu'n gwinllan yma yn Nyffryn Clwyd felly mae'r gwinwydd wedi cael amser i ddatblygu gwreiddiau twfn," meddai.

Mae rhai cynhyrchwyr gwin yn darogan y bydd 2026 y flwyddyn orau o ran lefelau siwgwr y gwinoedd ac o ran tyfiant y grawnwin.

Mae Llinos Rowlands yn rhedeg cwmni Gwin Dylanwad yn Nolgellau ac mae hithau hefyd yn credu y gall 2026 fod yn flwyddyn lwyddiannus ond i gynhyrchwyr gymryd pwyll.

"Mae'n wir fod tywydd poeth a sych yn helpu ond y peryg yw y gallai'r grawnwin losgi sydd wedyn yn cynhyrchu blas chwerw ar y gwin.

"Beth sy'n digwydd hefyd yw fod lefel yr alcohol yn cynyddu sydd wedyn yn effeithio ar lefel y dreth mae cynhyrchwyr gwin yn gorfod ei dalu.

"Ond mae'n wir i ddweud y gallai ambell i winllannoedd yng Nghymru weld bumper crops eleni," meddai.

Llinos RowlandsFfynhonnell y llun, Tom Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Rowlands yn rhedeg cwmni Gwin Dylanwad yn Nolgellau

O ran golwg y gwrawnwin yn Sir Ddinbych, mae Gwen yn credu bod plannu saith mlynedd yn ol wedi bod o fydd iddyn nhw ac mae hi'n gweld "bechod" dros rai gwinllannoedd sydd newydd blannu rhai o'r grawnwin sydd ddim eto wedi sefydlu eu gwreiddiau.

"Mae grawnwin yma'n edrych yn iach ac mae 'na lai o risg o glefyd pan mae'r tywydd yn sych a phoeth.

"Mae'r siwgr yn uwch na ble maen nhw fel arfer, rydym yn monitro hwnna rŵan.

"Siŵr fydden ni yn cynaeafu'r grawnwin bythefnos yn gynt eleni i wneud yn siŵr nad yw'r grawnwin yn mynd yn rhy aeddfed.

"Mae rhaid cadw golwg hefyd ar y tywydd. Mae rhai gwinllannoedd sydd wedi plannu eleni neu y llynedd heb gael y gwreiddiau i lawr yn iawn.

"Mae'n gymysg dros y wlad i gyd o ran y pridd a'r lleoliad," meddai.

Wedi'r tywydd sych mae Gwen yn gobeithio y bydd 'na fymryn o law cyn hir er mwyn cael y balans yn iawn o ran y tyfiant.

"Tydan ni heb gael llawer o law o gwbwl. Mae'r caeau yn frown iawn yma yn Nyffryn Clwyd.

"'Dan ni wedi dewis grawnwin penodol i hinsawdd Cymru, maen nhw yn dygymod yn iawn bob blwyddyn ond efallai y gwnaiff pethau newid o ran sut mae'r hinsawdd yn newid," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: