A oedd Owain Glyndŵr yn ddylanwad ar Fidel Castro?

Lila Haines yn ysgwyd llaw Fidel Castro yn 1995
- Cyhoeddwyd
Mae 13 Awst eleni'n ganrif ers geni un o ffigyrau gwleidyddol mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif.
Ym mhentref Birán yn nwyrain Ciwba yn 1926 fe anwyd Fidel Alejandro Castro Ruz, yn fab i ffermwr, Ángel Castro, a'i wraig, Lina Ruz.
Mae'n ffigwr sy'n hollti barn – llawer yn ei weld fel chwyldroadwr a ymladdodd yn erbyn grym yr Unol Daleithiau, ac eraill yn ei ystyried fel unben a oedd yn rheoli ei ddinasyddion yn llym.
Un a gyfarfu â Fidel Castro ar sawl achlysur yw Lila Haines, ac fe rannodd hi ei phrofiadau gyda Cymru Fyw.
'Carismatig'
"Oeddwn i yn yr un stafell ag e nifer o weithiau, ond ges i sgwrs iawn gyda fe ar ddau achlysur", dywedodd Lila, a oedd yn Havana'n gweithio fel newyddiadurwr ac mewn derbyniad ble yr oedd Castro.
"Roedd e'n carismatig wrth gwrs ond roedd e'n wahanol ar lefel un-i-un na beth oedd e wrth roi araith o flaen torf fawr.
"Roedd e'n gallu siarad yn neis gyda phobl a gwenu, ac roedd yn dangos diddordeb yn y person roedd e'n siarad gyda."
Mae Lila'n Wyddeles o Arklow yn Sir Wicklow yn wreiddiol, ond mae hi wedi byw yng Nghymru ers 1974, yn gwbl rugl yn y Gymraeg ac wedi magu ei dwy ferch yma.
Gofynnodd Castro i Lila o ble roedd hi'n dod ac ymhle roedd hi'n byw.
"Wedi iddo ddarganfod fy mod i'n wreiddiol o Iwerddon fe siaradodd am y wlad, ond roedd e'n ddigon call i beidio trafod gwleidyddiaeth oherwydd y sefyllfa fregus yn Iwerddon yn y 1990au cynnar. Roedd well ganddo fe siarad am wisgi Iwerddon a dweud ei fod gymaint gwell na wisgi o Japan!"

Fidel Castro a Che Guevara yn 1958. Daeth Castro i rym yn 1959 gan ddisodli Arlywydd Ciwba, Fulgencio Batista
Trafod Cymru
"Ond fe roedd e'n hapus i drafod Cymru, ac fe soniodd am Owain Glyndŵr," medd Lila.
"O'n i'n gwybod bod Glyndŵr wedi bod ym meddyliau gwrthryfelwyr Ciwba, ac roedd e'n pwysleisio'r ffaith bod gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr a bod gennym ni iaith ein hunain."
Ar adeg arall mae'n debyg y gwnaeth Castro gyfeirio at Glyndŵr fel yr arweinydd gweryl-ryfel [guerrilla] effeithiol cyntaf, ac mae adroddiadau ei fod wedi cadw llyfrau am y Cymro.
"Rwy'n credu bod gwirionedd yn y ffaith bod Glyndŵr wedi bod yn ysbrydoliaeth i Castro, a dwi wedi clywed hynny gan haneswyr yn Ciwba. Doedd e ddim yn syndod i fi i glywed hyn i ddweud gwir achos roedd ei ddiddordeb e mewn materion gwahanol mor eang."
Credir bod Che Guevara wedi dilyn rhai o ddulliau Glyndŵr yn ystod y Chwyldro Ciwbaidd, ac yn ôl y sôn roedd gwaith yr athronydd Cymreig, Bertrand Russell, wedi cael cryn effaith ar y Guevara ifanc hefyd.

Castro'n annerch torf yn Havana, 1965
Gair Sbaeneg yw guerilla sy'n golygu 'rhyfel bach'. Mae tactegau rhyfela o'r fath yn dibynnu ar ennill cefnogaeth y werin, gallu symud yn gyflym mewn grwpiau bychain, ymosod ar fan a gadael yn gyflym, a defnyddio rhinweddau tirwedd y wlad wrth ymosod.
Cafodd gwŷr Glyndŵr gefnogaeth ymysg y werin yng Nghymru ac roedd yn cuddio mewn ardaloedd gwledig gan ymosod mewn grwpiau bychain ar fyddin Harri IV. Defnyddiodd Glyndŵr lethrau mynyddoedd Cymru i'w fantais wrth ennill Brwydr Hyddgen yn 1401 a Brwydr Bryn Glas yn 1402.
Yn yr un modd fe ganolbwyntiodd Che Guevara ar ennill cefnogaeth ymysg y boblogaeth werinol, cefn gwlad, gan ddefnyddio dulliau sabotage i dorri cyswllt ymysg rhengoedd y gelyn.
Roedd lluoedd Castro a Guevara hefyd yn symud mewn grwpiau bychain, gan ddefnyddiodd mynyddoedd a fforestydd trwchus y Sierra Maestra i guddio a lansio ymosodiadau yn erbyn byddin Fulgencio Batista.

Y chwyldroadwyr yn paratoi i ymosod o'r coedwigoedd; Fidel Castro yn sefyll yng nghanol y llun, gyda'i frawd Raúl yn penlinio o'i flaen, a Che Guevaera ail o'r chwith
Erbyn yr 1990au roedd y Rhyfel Oer yn dod i ben, a olygai bod rhaid i gyfundrefn Castro addasu rhywfaint i'r realiti gwleidyddol newydd.
"Pan 'nes i gwrdd â Castro y tro cyntaf yn 1992, roedd e'n ystod achlysur arbennig, achos dyna'r tro cyntaf i fusnesau o'r Unol Daleithiau gynnal trafodaethau yn Havana gyda'r arweinwyr yno," eglurodd Lila.
"Yr ail dro i mi siarad gyda Castro yn 1995, o'n i'n rhan o genhadaeth fasnach, dan arweiniad y Farwnes Janet Young, cyn-aelod o gabinet Margaret Thatcher.
"Roedd Castro wedi dechrau ei holi hi am yr argyfwng ariannol Ewropeaidd ar y pryd. Yn dilyn y cyfarfod aethon ni i'r lifft a dywedodd Janet Young 'If I'd known he was going to ask something like that I'd have read up on it!' Roedd e'n gwybod mwy na hi!
"Ond yn lwcus idd hi roedd 'na fancwyr yn y ddirprywiaeth a oedd yn gallu arwain y sgwrs."
'Cefndryd Celtaidd'
Yn Sbaeneg yr oedd Lila'n siarad â Castro, ond roedd yr unben yn siarad rhywfaint o Saesneg - mewn cyd-ddigwyddiad roedd ei athrawes Saesneg yn Wyddeles.
"'Nes i siarad llawer mwy eang a manwl gyda Castro yr ail waith imi gwrdd ag e – yn siarad am bob math o bethe gan gynnwys masnach a buddsoddi, ond hefyd am Iwerddon a Chymru.
"Dywedodd e fod rhaid iddo fe atgoffa pobl yn rheolaidd bod Cymru'n wahanol i Loegr. Ac yna fe wnaeth e ddatgan i'r ystafell gyfan ei fod e a fi'n gefndryd Celtaidd, am fy mod i'n Wyddeles a'i gyndeidiau e'n dod o Galicia yng ngogledd Sbaen.
"'Nes i wedyn meddwl, beth oedd e'n meddwl oedd e? Roedd e'n galw ei hun yn Gelt ac yn amlwg roedd hynny yn bwysig iddo. Oedd e'n Gomiwnydd? Yn Sosialydd?
"Mae gan bawb farn ohono ond dwi'n meddwl ei fod e'n wladgarwr pragmataidd yn gyntaf, yn y traddodiad cenedlaetholgar America Ladin, egalitaraidd.
"Yn yr 1990au roedd e'n ceisio denu buddsoddwyr tramor ac yn estyn allan i raddau i gyfalafiaeth fel yr opsiwn gorau i'w wlad."

Lila gyda Castro yn 1992
Roedd Raúl Castro, brawd Fidel, hefyd yn Arlywydd ar Giwba, ac yn Brif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Ciwba tan 2021. Mae bellach yn 95 oed ac wedi ymddeol o fywyd cyhoeddus. Mae Lila hefyd wedi cwrdd â Raúl:
"Mae e mor wahanol i'w frawd. O'n i mewn ystafell fach gyda Raúl am tua awr unwaith, a doedd e ddim yn gwmni da.
"Ond mae brawd arall ganddyn nhw, Ramón y ffermwr, ac pan 'nes i gwrdd ag e roedd e'n lot tebygach i Fidel, o ran ei olwg a'r ffordd yr oedd e."
Beirniadaeth o Castro
Mae Castro'n cael ei ystyried fel arwr gan lawer, ond roedd hefyd yn cael ei feirniadu am y ffordd roedd yn llywodraethu, yn aml yn llym ag unrhyw wrthwynebwyr.
"Fe wnaeth Castro benderfyniadau oedd ddim yn rhai call blynyddoedd yn ôl, ac wrth gwrs fe all pobl y wlad fod wedi cael cyfleoedd lot gwell," medd Lila.
Yn 2001 fe berfformiodd y Manic Street Preachers yn Havana o flaen Castro, gyda'r band yn cwrdd ag o wedi'r gyngerdd.
Fe ymddiheurodd y band o'r Coed Duon eu bod wedi creu gymaint o sŵn yn ystod y gig, gyda Castro'n ateb "All o ddim bod yn fwy swnllyd na rhyfel, na?"
Roedd aelodau o'r Manics yn cydnabod bod yna fethiannau a beiau wedi bod o fewn cyfundrefn Gomiwnyddol Ciwba, ond roeddent hefyd yn edmygu'r dycnwch o beidio ildio i 'imperialaeth' yr Unol Daleithiau.
Yn 2016 dywedodd James Dean Bradfield: "Everything has to be measured against the fact that, for the past 30 years, this tiny island has been bullied and intimidated by its superpower neighbour."
Roedd y band hefyd, fel Lila, wedi nodi sut yr oedd Castro'n llwyr ymwybodol o'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr.

Manics Street Preachers yn perfformio yn Havana yn 2001, gyda Fidel Castro yn y gynulleidfa
Cafodd Ciwba lwyddiannau heb os yng nghyfnod Castro wrth y llyw; gofal iechyd am ddim, llythrennedd o 99.8% ac addysg uwch am ddim i bawb oedd eisiau mynd i'r brifysgol – agweddau sy'n parhau i fod yn wir hyd heddiw.
Dioddefodd Ciwba am ddegawdau dan sancsiynau ariannol yr Unol Daleithiau, ac yn ôl Fabián Escalante, cyn-bennaeth Adran Diogelwch Llywodraeth Ciwba, roedd 638 ymgais i ladd Castro rhwng 1960 ac 2000.
Ar achlysur 100 mlwyddiant ei eni, mae bywyd a gwaddol gwleidyddol Fidel Castro yn parhau i fod yn un cymhleth a dadleuol.
Mae wedi dod yn symbol o wrthsefyll a rhyddid i rai, yn ymladd yn erbyn imperialaeth a chyfalafiaeth Americanaidd.
Ond i eraill caiff yr unben ei gofio am niweidio rhyddid gwleidyddol o fewn ei wlad, cyfyngu ar hawliau i brotestio a hefyd am y ffordd y cafodd ei wrthwynebwyr gwleidyddol eu trin.
Bu farw Fidel Castro yn Havana ar 25 Tachwedd, 2016, yn 90 oed.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Medi 2024

- Cyhoeddwyd7 Hydref 2016

- Cyhoeddwyd21 Mai
