Asesu'r 100 niwrnod cyntaf o lywodraeth Plaid Cymru

Mae'r llun yn dangos Rhun ap Iorwerth yn sefyll o flaen aelodau ei gabinet ar risiau pencadlys Llywodraeth Cymru. Mae'n ddiwrnod braf ac mae pawb yn gwenu.Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth newydd wedi bod wrth ei gwaith ers 100 o ddiwrnodau

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

"'Da ni'n barod i ddechre efo'r gwaith a thorchi llewys."

Geiriau Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth wrth annerch ei weinidogion ar ddechrau eu cyfarfod cabinet cyntaf ar 18 Mai.

Wedi 27 mlynedd o Lafur mewn grym yng Nghymru roedd hwn yn foment arwyddocaol arall yn dilyn etholiad hanesyddol.

Cyn yr etholiad fe gyhoeddodd Plaid Cymru ddwsinau o amcanion, dolen allanol i'w cyflawni o fewn 100 o ddiwrnodau pe bai'n ennill.

Yna, yn ei maniffesto, roedd blaenoriaethau Plaid Cymru'n glir gan gynnwys torri rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, ehangu'r ddarpariaeth gofal plant am ddim, a chefnogi busnesau.

Bydd dydd Mercher 26 Awst yn nodi union 100 o ddiwrnodau ers i'r gweinidogion newydd eistedd wrth y bwrdd yna am y tro cyntaf, sy'n rhoi cyfle i bwyso a mesur misoedd cyntaf Plaid Cymru wrth y llyw.

Iechyd: 'Rhy gynnar i weld yr effaith'

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod rhestrau aros ar gyfer triniaeth wedi codi ers yr etholiad.

Ond yn ôl gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke "byddai'n annheg rhoi'r bai am hynny ar y llywodraeth newydd".

"Mae £145m ychwanegol wedi'i glustnodi ond bydd hi'n fisoedd eto cyn ein bod ni'n gallu gweld ac asesu'r effaith," meddai Owain.

"Mae rhai o brif addewidion y 100 niwrnod cyntaf wedi cael eu gwireddu: penodi gweinidog iechyd cyhoeddus, cynnal archwiliad fan hyn ac uwchgynhadledd fan draw.

"Ond pa effaith fydd cleifion wedi ei weld? Dim llawer eto am wn i."

Yn ôl Owain bydd y "gwir brawf" yn dod pan fyddwn ni wedi anghofio tywydd braf yr haf ac yn teimlo straen blynyddol afiechydon y gaeaf ar y gwasanaeth iechyd.

"Dyna pryd bydd y cyhoedd yn gofyn beth yn union sydd wedi newid," meddai.

Gofal plant: 'Maint yr her yn fwy amlwg'

Mae'r llun yn dangos Rhun ap Iorwerth a'i ddirprwy Sioned Williams yn cyfarfod â mamau a'u plant mewn meithrinfa.Ffynhonnell y llun, ATHENA
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Rhun ap Iorwerth i feithrinfa ym Merthyr Tudful ar ei ymweliad cyntaf fel prif weinidog

Mae'n siŵr taw prif bolisi Plaid Cymru cyn yr etholiad oedd yr addewid uchelgeisiol i gynnig 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed, bob wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn.

Ond yn ôl gohebydd addysg a theulu BBC Cymru Bethan Lewis, mae "maint yr her o ddelifro'r polisi os rywbeth wedi dod hyd yn oed yn fwy amlwg" ers yr etholiad.

Mae hynny achos bod yn rhaid i'r llywodraeth yn gyntaf gwblhau'r gwaith o gyflwyno polisi gofal plant y llywodraeth flaenorol, sef cynnig 12.5 awr o ofal yr wythnos am ddim i bob plentyn dwy oed.

Dim ond tri awdurdod lleol yng Nghymru oedd yn cynnig hynny'n llawn ar ddechrau'r tymor seneddol yma, ond mae'r llywodraeth newydd yn dweud bydd y gwaith yna wedi ei gwblhau ar draws y wlad cyn diwedd Mawrth 2027.

Ers dod i rym mae'r llywodraeth wedi parhau i wynebu cwestiynau am fforddiadwyedd ei pholisi gofal plant, a bydd y gwaith craffu yna'n parhau, yn ôl Bethan.

"Bydd y gwrthbleidiau'n cadw llygad agos iawn ar y polisi yma achos mae e wedi bod mor flaenllaw i blatfform Plaid Cymru - yr amseru wrth gwrs ond hefyd yr ariannu achos mae e'n costio cannoedd o filiynau o bunnau," meddai.

Yr economi: 'Cyrff a strwythurau newydd'

Ym maes yr economi mae'r llywodraeth newydd wedi canolbwyntio ar "sefydlu cyrff a strwythurau newydd yn hytrach na chyhoeddi y pethau manwl sy'n mynd i helpu busnesau bach yn syth", yn ôl gohebydd busnes BBC Cymru, Huw Thomas.

Sefydlu Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i gefnogi busnesau a denu buddsoddiad oedd prif bolisi economaidd Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad.

Mae gweinidog yr economi Adam Price bellach wedi penodi cadeirydd panel arbenigol fydd yn edrych ar sefydlu'r asiantaeth.

Yn ddiweddar cyhoeddodd y llywodraeth y byddai tasglu newydd yn edrych ar ffyrdd o adfywio'r stryd fawr hefyd.

Ac mae'r llywodraeth wedi gosod targed ar gyfer haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, fydd yn rhoi "ffordd o fesur llwyddiant y llywodraeth yn yr hir-dymor", meddai Huw.

'Mae isie dechre gweld canlyniadau'

Llun o geffylau'n rasio yn Ffos Las ar ddiwrnod braf.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rasys Ffos Las yn gyfle i edrych yn ôl ar ras yr etholiad

Ar ôl i etholwyr Cymru fetio ar geffyl newydd ym mis Mai, cymysg oedd y farn yn rasys Ffos Las ger Trimsaran am fisoedd cyntaf Plaid Cymru'n dal yr awenau.

"Sai'n credu bod nhw'n neud yn rhy dda - so nhw'n neud dim byd i helpu pobl," meddai Dawn Mellis.

"Sdim lot wedi digwydd rili oes e?" meddai Vera Kenny, sy'n gyn-gynghorydd Llafur ar Gyngor Sir Gâr.

"'Wi wedi gweld [Rhun ap Iorwerth] yn y steddfod a pethe fel'na. Gobeithio neith e'n oreit ar gyfer Cymru."

Mae'r llun yn dangos menyw yn edrych at y camera. Mae ganddi wallt gwyn ac mae hi'n gwisgo crys glas a siaced wen.
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Vera Kenny ddim yn credu bod llawer wedi newid ers yr etholiad

Yn ôl Derek Rees mae'r llywodraeth newydd "wedi addo lot" ond dydy 100 o ddiwrnodau "ddim yn ryw amser hir iawn i wneud pethe sy'n hir-gyrhaeddol".

"Ond 'wi'n credu bod isie dechre cael canlyniadau nawr."

Mae'r llun yn dangos dyn yn edrych ar y camera. Mae e'n gwisgo het a chrys siec goch, gwyn a glas tywyll.
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gweld canlyniadau'n fuan, yn ôl Derek Rees

Mae David Bennett, sy'n cefnogi'r Ceidwadwyr, yn credu bod y llywodraeth newydd yn "'neud yn rhagorol o dda".

"Maen nhw'n cael siawns nawr i redeg y wlad a gobeithio nawn nhw'n dda."

I gadw at y thema o rasio ceffylau mae'r llywodraeth newydd wedi baglu'n barod ers ennill y ras fawr ym mis Mai.

Fe gollodd hi bleidlais bwysig fis diwethaf ar ei chynlluniau gwario - ei phrawf fawr gyntaf ers yr etholiad.

Roedd y canlyniad yn tanlinellu maint yr her o geisio arwain llywodraeth leiafrifol heb unrhyw fath o gytundeb ag un o'r gwrthbleidiau.

Mae yna wers i'w dysgu os ydy Rhun ap Iorwerth am oresgyn y rhwystrau sydd i ddod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.