Cordia: 'Anodd credu'r flwyddyn 'da ni wedi'i chael'

Cordia ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las 2026Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Cordia ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las 2026

GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae'n anodd credu'r flwyddyn 'da ni wedi'i chael wrth edrych yn ôl. Os bysa rhywun wedi deud wrthym llynedd ein bod ni am gloi Llwyfan y Maes mewn llai na blwyddyn, mi fysa ni wedi chwerthin yn eu gwynebau siŵr o fod."

Dyma eiriau Manon Fflur Williams o grŵp pop Cordia, y triawd o Ynys Môn wnaeth ail-ffurfio yn 2025 ac yna chloi yr wythnos ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las.

Bu'r grŵp, sef Ffion Elin Davies, Ffion Wynn Davies a Manon Fflur Williams, yn edrych yn ôl ar flwyddyn fythgofiadwy gyda Cymru Fyw, gan gychwyn drwy hel atgofion o'r noson arbennig yn Awst yn Llantwd, fel mae Ffion Wynn yn sôn: "Oedda ni'n gwybod bod cael y cynnig i gloi Llwyfan y Maes yn gyfle i ddangos i bawb ein potensial o ran perfformio, felly roedden ni'n ei ystyried yn fwy o gynhyrchiad na gig arferol.

"Dechreuon ni baratoi'r set nôl ym mis Mawrth. Roedd hi'n bwysig iawn i ni bod y gynulleidfa'n mwynhau'r set, felly roedden ni'n gwybod bod angen i ni roi sioe ymlaen a meddwl am ambell i syrpreis ar hyd y ffordd, gan gynnwys y bêl ddisgo fawr!

"Roedden ni hefyd yn meddwl ei bod hi'n bwysig dangos ein harmonïau gyda'r caneuon sy'n cyfleu mwy o emosiwn, fel Cariad Cyntaf. Roedd perfformio gyda Alys Williams ac aelodau o Fand Pres Llareggub yn brofiad fythgofiadwy.

"Cawson ni eiliad fach tuag at ddiwedd y set wrth ganu Dim Ond Un, lle roedd gweld môr o oleuadau'n disgleirio'n ôl atom ni a chlywed pawb yn canu ein caneuon yn gwneud hi'n anodd peidio â theimlo'n emosiynol!"

Ffion Elin Davies ac Alys Williams ym mherfformiad Llwyfan Y Maes 2026Ffynhonnell y llun, Nia Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ffion Elin Davies ac Alys Williams ym mherfformiad Llwyfan Y Maes 2026

Bu'r band yn perfformio ym Maes B yn ogystal ag ar Lwyfan y Maes ac roedd cynulleidfa dra wahanol yno, yn ôl Manon Fflur: "Gan bod llai na dwy flynedd ers i ni ryddhau ein sengl gyntaf, Sylw, mae gweld y gynulleidfa'n canu ein caneuon nôl ata ni'n deimlad arbennig iawn.

"Roedd y gynulleidfa ym Maes B yn union fel roedden ni'n ei ddisgwyl – gwallgo!

"Roedd egni Maes B fel petai pawb wedi dod yno am barti - a parti gafo ni! Roedd yr egni yn y gynulleidfa yn ddigon i neud i ni fwynhau'r vibe, a rhoi diweddglo perffaith i gig olaf Eisteddfod y Garreg Las."

Perfformiad Llwyfan Y Maes 2026Ffynhonnell y llun, Cerys Davies

Ail-ffurfio

Ffurfiwyd y band yn wreiddiol ar gyfer cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn 2015 ac yn 2016 cawson nhw lwyddiant drwy ennill Cân i Gymru a'r Ŵyl Ban Geltaidd gyda'r gân Dim Ond Un.

Ar ôl cymryd seibiant er mwyn mynd i'r brifysgol, ailffurfiodd y triawd gyda gweledigaeth wahanol ac maen nhw wedi ymuno efo label Côsh erbyn hyn.

Meddai Ffion Elin: "Erbyn heddiw, mae'r weledigaeth wedi aeddfedu hefo ni. 'Da ni'n llawer mwy bwriadol yn ein dull o 'sgwennu a chyflwyno ein cerddoriaeth, ac mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi'n galluogi ni i ddangos mwy o'n personoliaethau. Mae hynny wedi bod yn help mawr wrth i ni ddarganfod cynulleidfa newydd."

Yn haf 2025 mi wnaeth y triawd ryddhau eu halbwm cyntaf o'r enw ADFYW.

Meddai Ffion Wynn: "Yn naturiol, oeddan ni'n nerfus i ddod yn ôl ar y sîn gan bod gymaint o amser wedi mynd heibio, felly oedd yr imposter syndrome wedi cicio fewn ag odda ni'n poeni os oedd pawb am fwynhau'r miwsig newydd.

"Ond yn bendant roedd hi'n teimlo fel yr amser iawn i neud, gan ein bod i gyd yn byw a gweithio nôl yng ngogledd Cymru, a'r peth pwysicaf i ni oedd ein bod ni'n mwynhau'r broses o ddysgu'r caneuon newydd, meddwl am syniadau a chael recordio caneuon efo'n gilydd. Mae o'n teimlo fel mwy o hobi yn hytrach na gwaith!"

Cordia cyn perfformiadFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Gweledigaeth

Mae'r dair yn dweud fod yr albwm ADFYW yn cynrychioli dechrau newydd ac adfywiad creadigol i'r band.

Meddai Ffion Elin: "'Da ni isho parhau i adeiladu ar hynny, tyfu ein cynulleidfa ac ysbrydoli eraill i greu cerddoriaeth yn y Gymraeg. Dyna ydy'r weledigaeth erbyn heddiw.

"Mae 'na dipyn o bobl yn gofyn i ni, "Pam newch chi ddim dechrau canu yn Saesneg a trio torri mewn i'r sîn bop ar draws Prydain?" Ond 'da ni wastad yn ateb drwy ddweud bod 'na sîn gerddoriaeth Gymraeg gryf iawn yma yng Nghymru 'da ni'n mwynhau bod yn rhan ohoni.

"'Da ni'n gallu canu a 'sgwennu yn ein mamiaith, a 'da ni'n teimlo'n lwcus iawn o allu gwneud hynny.

"Y peth pwysica' i ni ydy bo' ni'n mwynhau efo'n ffrindia gora, yn ysbrydoli eraill i 'sgwennu cerddoriaeth Gymraeg, ac yn denu mwy o bobl i wrando arni a, gobeithio, i ddysgu'r iaith hefyd."

Ffion Elin a Rhys Jones oedd yn cyfansoddi'r caneuon ar gyfer ADFYW ac mae'r band yn mynd i gyd-ysgrifennu gyda Yws Gwynedd ar gyfer yr albwm nesaf.

Diwrnod ffilmio fideo Gweld Yn GlirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod ffilmio fideo Gweld Yn Glir

Ysbrydoliaeth

Mae'r triawd yn dweud fod y sîn pop yng Nghymru wedi newid ers iddynt ffurfio yn 2015.

Meddai Ffion Wynn: "Mae'r sîn wedi newid lot ers i ni sefydlu Cordia yn bymtheg oed. Mae lot mwy o ferched yn y sîn erbyn hyn, sy'n hyfryd i weld. Pan 'da ni'n cofio 'nôl i'r gigs oedden ni'n mynd iddyn nhw pan oedda ni'n 16/17 oed, dim ond bandiau bechgyn oedd o'n cwmpas ni. Oedda ni'n ffans mawr o Candelas a Swnami!

"Doedd Eden ddim yn ein cyfnod ni chwaith, felly'r unig grwpiau oedd yn ein hysbrydoli ni ar y cychwyn oedd grwpiau Saesneg. Oeddan ni'n ffans mawr o The Saturdays a Little Mix.

"'Da ni hefyd yn mwynhau gwrando nôl ar ganeuon Bando a Caryl Parry Jones. Mae Caryl yn un o frenhinesau pop Cymru, ac mae hi'n sicr wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni, yn enwedig yn fwy diweddar."

Cordia yn gadael Llwyfan y Maes ar ddiwedd y perfformiadFfynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Cordia yn gadael Llwyfan y Maes ar ddiwedd y perfformiad

Beth nesaf i Cordia felly?

Meddai Ffion Elin: "Er bod yr haf prysur wedi dod i ben, tydy'r gwaith ddim yn stopio. Mae diwrnod cyntaf 'nôl yn y stiwdio yn 'sgwennu a recordio dechrau fis Medi.

"Roedd cloi Llwyfan y Maes yn freuddwyd yn 2025… pwy a ŵyr be' ddaw i Cordia yn 2027…"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb