Llywodraeth Cymru'n methu â phasio ei chyllideb atodol ar ôl colli pleidlais

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth 44 aelod bleidleisio o blaid y gyllideb atodol, gyda 49 yn erbyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â phasio ei chyllideb atodol ar ôl colli pleidlais yn y Senedd.

Am nad oes gan Blaid Cymru fwyafrif yn y Senedd, roedd yn rhaid iddyn nhw gael cefnogaeth plaid arall er mwyn gallu pasio'r cynllun gwariant gwerth £300m.

Ond fe wnaeth Llafur bleidleisio yn erbyn yn dilyn anghydfod am wario mwy ar addysg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd Llafur wedi galw ar y llywodraeth i dynnu eu cyllideb atodol yn ôl wedi iddi ddod i'r amlwg eu bod yn gwrthod cefnogi'r llywodraeth.

Dywedodd y gweinidog cyllid Elin Jones ei bod "methu credu" safbwynt Llafur, gan eu cyhuddo o ymddwyn fel "gwrthblaid ddinistriol".

Fe wnaeth 44 aelod bleidleisio o blaid y gyllideb atodol, gyda 49 yn erbyn.

Beth yw'r cefndir?

Cafodd manylion y gyllideb atodol ei chyhoeddi dair wythnos yn ôl.

Mae'r cynllun yn cynnwys cyllid i leihau rhestrau aros y GIG ac ehangu darpariaeth gofal plant.

Dyma gyfle cyntaf Plaid Cymru i adolygu gwariant y llywodraeth ers ennill yr etholiad fis Mai.

Mae'r gweinidogion hefyd wedi clustnodi £247m ymhellach ar gyfer gwariant dydd i ddydd, ond dyw'r arian yma ddim wedi'i addo'n benodol ar gyfer unrhyw adran hyd yma.

Mae Llafur wedi bod yn galw am wario £100m ohono ar anghenion dysgu ychwanegol eleni.

Maen nhw wedi gwrthod "cynnig terfynol" Plaid Cymru i wario £40m y flwyddyn am y tair blynedd nesaf.

Fore Mawrth daeth i'r amlwg bod undebau NAHT Cymru ac ASCL Cymru mewn anghydfod â'r llywodraeth ynghylch cynnig codiad cyflog o 3.5% ac "argyfwng parhaus" mewn cyllid anghenion dysgu ychwanegol.

'Hurt' cyflwyno cyllideb heb gytundeb

Yn y drafodaeth, a oedd yn danllyd ar adegau nos Fawrth, dywedodd Huw Thomas o'r blaid Lafur fod "awgrym na fyddai mwy o arian yn cael ei roi i anghenion dysgu ychwanegol" am y tro os yw'r gyllideb atodol yn methu.

"Os yw hynny'n gywir, yna mae'n niweidiol, mae'n ddialgar ac mae'n mynd i arwain at weithredu diwydiannol eang," meddai.

Dywedodd Cai Parry Jones na fyddai ei blaid ef, Reform, yn cefnogi'r gyllideb am ei bod yn mynd yn erbyn nifer o "linellau coch" y blaid, gan gynnwys torri gwariant tramor.

"Ni chawsom ein hethol i gymeradwyo cyllidebau llywodraeth sydd, yn ein tyb ni, yn methu cyflawni dros bobl Cymru."

Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol, Darren Millar, ei bod yn "hurt" i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r gyllideb atodol i'r Senedd pan nad oedd cytundeb wedi'i gyrraedd.

"Dyma'r realiti gwleidyddol," meddai, gan ychwanegu oherwydd natur aelodau'r Senedd, "nid oes modd cytuno ar gyllidebau na deddfwriaeth Llywodraeth Cymru heb gytundeb trawsbleidiol".

Elin JonesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Jones bod Llafur yn ymddwyn fel "gwrthblaid ddinistriol"

Dywedodd Elin Jones wrth BBC Cymru: "Dyw'r Senedd ddim wedi gallu dod at ei gilydd er mwyn pleidleisio i gefnogi polisïau blaengar yn y Senedd.

"Rwy'n edifar hynny. Dydw i methu credu newid safbwynt Llafur a'u rôl yn hyn oll."

Pan ofynnwyd iddi a ddylai Plaid Cymru fod wedi rhagweld na fyddai'n broses syml, dywedodd: "Dyw gwleidyddiaeth byth yn syml, rwy'n gwybod hynny, ond rwy'n gwybod natur dod i gytundeb hefyd.

"Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hynny mewn Senedd ble mai pur anaml mae llywodraeth fwyafrifol.

"Rydw i wedi gweld y cytundebau hynny yn cael eu gwneud yn y gorffennol - rydw i wedi bod yn rhan ohonyn nhw fel gwrthblaid."

Gan gyhuddo Llafur o ymddwyn fel "gwrthblaid ddinistriol", dywedodd fod gan y blaid "lawer i'w ddysgu am ddod i gytundebau" os oedden nhw eisiau bod yn rhan o "cynghrair flaengar" yn y Senedd.

Cyn y bleidlais fe wnaeth Reform UK a'r Ceidwadwyr ddweud nad oedden nhw mewn trafodaeth gyda'r llywodraeth.

Fe wnaeth y ddwy blaid bleidleisio yn erbyn y gyllideb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.