Dyn tân o Nefyn ar y rheng flaen yn Sbaen

Aaron GomerFfynhonnell y llun, Aaron Gomer
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymro sydd wedi symud i fyw i'r Costa Blanca yn Sbaen wedi sôn am yr heriau o frwydro'n erbyn y tanau gwyllt cynyddol sy'n bygwth cymunedau arfordirol y wlad.

Fe ymgartrefodd Aaron Gomer, sy'n wreiddiol o Nefyn, yn Xàbia yn ne Sbaen tua tair blynedd yn ôl.

Erbyn hyn, mae'n gwirfoddoli gyda brigâd dân annibynnol lleol, Los Bomberos Voluntarios de Balcón al Mar, sy'n helpu i ddiogelu'r ardal dros misoedd poeth yr haf.

Voluntarios de Balcón al MarFfynhonnell y llun, Aaron Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd frigâd y Voluntarios de Balcón al Mar ei sefydlu yn yr 1980au gan griw o'r Swistir a oedd wedi ymgartrefu yn yr ardal

Newid yng nghefn gwlad ac 'urban wildfires'

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru, esboniodd Aaron fod y penderfyniad i symud yn un naturiol ar ôl cyfnod hir o dreulio amser yn yr ardal:

"Oedd o'n rhywle lle oedden ni'n dod ar wyliau yn gyson. Oeddan ni'n byw yng Nghaerdydd ond yn treulio mwy o amser yma yn Xàbia.

"Daeth yr amser, oedd hi'n benderfyniad rhwng mynd yn ôl i Ben Llŷn neu symud i'r Costa Blanca. A naethon ni benderfynu mai Costa Blanca oedd y lle i ni."

Ond er bod yr ardal yn atyniadol iawn i ymwelwyr, mae perygl y tânau gwyllt yn fygythiad cyson. Yr achos mawr dros y blynyddoedd diwethaf yw'r modd y mae poblogaethau wedi symud i'r trefi a'r dinasoedd.

neidio coelcerthFfynhonnell y llun, Aaron Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Pob haf yn Xàbia, fel rhan o ŵyl Fiesta del San Juan, mae noson yn cael ei chynnal o'r enw Nit del Foc ble mae pobl leol a thwristiaid yn neidio dros goelcerthi er mwyn lwc dda

"Be sy' 'di digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yn Sbaen ydi mae 'na bobl yn symud o gefn gwlad, a tydi'r tir wedyn ddim yn cael ei reoli.

"Does na'm pobl yn torri'r gwair na'n trin y tir, does 'na'm anifeiliaid yn pori, a does na'm pobl yn casglu'r priciau tân.

"Felly, be sy'n digwydd wedyn efo'r sychder 'na… os mae 'na rhywbeth yn cydio - mae'r tân wedyn yn cael ei egni gan y llystyfiant sych 'ma a mae hwnna'n ei wneud yn dân fwy cryf, a mi wnaiff o drafeilio'n bellach hefyd a llosgi am hirach."

Yn Xàbia, mae'r perygl hyd yn oed yn fwy oherwydd y modd y mae cartrefi wedi'u hadeiladu o amgylch y goedwig:

"Y broblem sydd gyda ni yn Xàbia ydy be 'dan ni'n galw yn urban wildfires.

"'Da chi 'di gweld y tanau ar gyrion Madrid dros y misoedd diwethaf - lle oedd y tân yn dechrau dod fewn i Madrid.

"Yn Xàbia mae hi'n dref sydd ar y Mediterranean ond mae'n eistedd mewn powlen o glogwyni a mynyddoedd a mae 'na goedwigoedd mawr yma. Mae gennych chi dai yn Xàbia a drws nesaf i'r tai rheiny mae 'na goedwigoedd.

"Trwy'r flwyddyn mae 'na rhyw 30,000 o bobl yn byw yma, ond oherwydd ei bod hi'n ardal boblogaidd - dros yr haf mae'r boblogaith yna'n mynd i fyny i dros 100,000.

"Allwch chi feddwl felly y gwaith sy' 'na i daclo'r tanau 'ma, ac i symud y bobl er mwyn eu cadw nhw'n saff."

Disgrifiad,

Awyren a hofrennydd yn ceisio diffodd tân goedwig ar droed mynydd Montgo ger Xàbia

Cysylltiad Cymreig yn y frigâd

Sefydlwyd brigâd Voluntarios Balcón al Mar yn yr 1980au gan drigolion o'r Swistir oherwydd bod gwasanaethau tân swyddogol gyfagos yn cymryd dros awr i gyrraedd yr ardal. Erbyn hyn, mae gan y brigâd orsaf eu hunain sy'n cydweithio'n agos gyda'r cyngor lleol.

Er bod y tîm yn cynnwys gwirfoddolwyr o ledled y byd - o Colombia ac America i'r Almaen ac Iwerddon - mae yna griw bach o Gymry ar y rheng flaen hefyd.

"Yn ein plith ni, mae yna dri Cymro-Cymraeg," meddai Aron, gan gyfeirio ato'i hun, Arwel Davies o Borthmadog, a Darryl Jones o Abertawe.

Voluntarios de Balcón al MarFfynhonnell y llun, Aaron Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Voluntarios de Balcón al Mar bellach yn gweithio'n agos gyda chyngor y dref, yr heddlu lleol, y Groes Goch yn Sbaen a'r Protección Civil. Mae eu gwaith gwirfoddol yn amhrisiadwy mewn ardal sy'n gweld problemau cynyddol gyda thanau gwyllt.

Er bod y gwaith yn gofyn am ofal a hyfforddiant arbennig, mae profiad Aaron fel cyn-filwr a sgiliau'r aelodau eraill yn help mawr i'r tîm wneud gwahaniaeth mewn ardal sy'n dygymod â natur anrhagweladwy'r hinsawdd yn yr oes sydd ohoni.

O Nefyn i'r Costa Blanca, mae'r frwydr yn erbyn y fflamau'n parhau. Ond i Aaron a'i gyd-wladwyr ar y rheng flaen, mae yna stori ryfeddol am griw bach o Gymry sydd bellach yn gweithio law yn llaw i ddiogelu eu cartref newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig