Sefydlu tasglu newydd i geisio adfywio canol trefi Cymru

sian Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y tasglu yn cynnig argymhellion i Sian Gwenllian ddechrau 2027

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu newydd er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol trefi ar draws y wlad.

Dywedodd y Gweinidog Sian Gwenllian fod 'na "heriau mawr" ar hyn o bryd ond mai rôl y tasglu rŵan fydd gweithio ar draws sectorau i ganfod "datrysiadau".

Ond rhybuddio mae un economegydd blaenllaw fod llywodraethau a'r sector breifat wedi bod yn "rhy araf" i addasu i ofynion a newidiadau tueddiadau siopwyr dros y 15 mlynedd diwethaf a bod yn rhaid i'r tasglu newydd arwain at weithredu.

Mae'r tasglu wedi'i sefydlu fel ymrwymiad 100 niwrnod Llywodraeth Cymru gyda disgwyl y bydd yn adrodd 'nôl gydag argymhellion erbyn dechrau 2027.

Wrth ymweld â mentrau ym Mangor ddydd Mawrth dywedodd Sian Gwenllian fod Tamsin Ramasut a'r Athro Simon Gibson CBE wedi eu penodi'n gyd-gadeiryddion y Tasglu Canol Trefi.

"Mae 'na heriau mawr yn wynebu canol ein dinasoedd ni - 'dan ni gyd yn gweld hynny," meddai Sian Gwenllian, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

'Potensial anferth yma'

"Mae'r ffocws angen bod yn glir ar ffeindio datrysiadau i'r sefyllfaoedd yna a dyna fydd gwaith y tasglu sy'n cael ei gyhoeddi heddiw.

"Mae eisiau gweithredu i ddod ohono fo ac mae gan y tasglu ychydig fisoedd i edrych yn fforensig ar yr heriau - o gynllunio i drethi busnesau a sut i feddwl yn ddychmygus i adfer canol ein trefi.

"Dydyn ni ddim am ail-greu'r stryd fawr - dydyn ni ddim am allu denu'r enwau mawr corfforaethol. Mae'r [stryd fawr] yn newid – mae Bangor fel dwi'n gofio yn hollol wahanol ond mae 'na botensial anferth yma."

Ychwanegodd y bydd y tasglu yn cynnig argymhellion ddechrau'r flwyddyn nesaf er mwyn i'r llywodraeth weithredu arnynt.

Edward Thomas Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywodraethau, cynghorau a'r sector breifat wedi bod yn rhy araf wrth ymateb i heriau'r stryd fawr, yn ôl Edward Thomas Jones

Ond yn ôl yr economegydd Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor, mae nifer o'r heriau eisoes yn amlwg.

"Mae [sefydlu'r tasglu] yn edrych braidd yn rhyfedd oherwydd 'dan ni'n gwybod beth ydy'r problemau... beth 'dan ni angen ydy penderfyniadau gan y llywodraeth i gael effaith bositif ar y stryd fawr.

"Dwi'n gobeithio bydd o ddim yn 'siop siarad' a bydd o'n arwain at rywbeth cadarn a phenodol – mae 'na risg mai 'siop siarad' ydy o ac mi fyddai hynny yn siomedig iawn."

Dywedodd Mr Thomas Jones mai cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys newid i arferion siopa, siopa ar-lein a threthi busnes uchel, sydd wedi achosi'r problemau hyn.

"Mae'n rhaid i'r llywodraeth roi y tools – faint mae busnesau yn talu o ran trethi? Beth sydd ar y stryd fawr i ddenu pobl mewn?"

Awgrymodd ei bod hi'n deg dweud fod llywodraethau, cynghorau a'r sector breifat wedi bod yn "rhy araf" i addasu dros y blynyddoedd.

Nesta Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nesta Pritchard yn dweud bod stryd fawr Bangor yn edrych yn "drist" ar hyn o bryd

Stryd Fawr Bangor yw stryd fawr hiraf Cymru ac mae'r heriau o ran siopau'n cau a busnesau'n gadael y ddinas wedi eu cofnodi'n helaeth.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £654,000 ar gyfer gwelliannau i dir y cyhoedd hefyd yn y ddinas.

Mae £350,000 arall wedi'i gadarnhau i gefnogi'r gwaith o adfywio Canolfan Siopa'r Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ond yn ôl Nesta Pritchard, sy'n gweithio mewn siop ddillad ar y stryd fawr, mae'r heriau yn enfawr a'r stryd fawr wedi "dirywio gymaint".

'Angen andros o lot o arian'

"Mae hon yn siop lle mae pobl yn dod ac angen rhywbeth arbennig ond mae'r stryd fawr yn colli hynna, ac mae lot o siopau wedi cau lawr," meddai Ms Pritchard.

"Mae'n edrych yn drist a dweud y gwir, mi gafo' ni ddau gwsmer mewn heddiw o Loegr oedd yn dweud pa mor ddigalon mae'r stryd fawr yn edrych.

"'Dan ni bron iawn a deud 'does 'na ddim mynd yn ôl o hyn'.

"Mae angen andros o lot o arian i godi'r lle i'r un safon ag oedd hi a gostwng trethi - rhywbeth i helpu perchnogion sydd ar y stryd fawr ac annog pobl i agor busnesau bach sydd am ddenu pobl mewn."

Medi Parry Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Medi Parry Williams yn credu bod angen cynnig mwy o gefnogaeth i fusnesau yn yr ardal

Ategu sylwadau Ms Pritchard mae Medi Parry Williams, sy'n ymgynghorydd i fusnesau a phartneriaid lleol i wella ac adfywio Bangor.

"'Dan ni angen buddsoddiad, 'dan ni angen edrych ar gynllunio i 'neud pethau'n haws i fusnesau symud ar y stryd fawr.

"Maen nhw angen support cyn iddyn nhw ddod yma, support tra eu bod nhw yma a 'dan ni angen sbïo ar y business rates - felly mae digon o bethau yna sa'n gallu cael eu gwneud yn weddol sydyn."

Ychwanegodd ei bod yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.