Oedd Elizabeth I yn gallu siarad Cymraeg?

- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi ei bod hi'n debygol fod Elizabeth I yn medru dipyn o Gymraeg?
Ac mae'r diolch am hynny i Blanche Parry, a oedd yn gweithio iddi am y rhan fwyaf o'i bywyd.
Y Gymraes a fagodd Elizabeth
Mae plwyf Bacton bellach yn rhan o Sir Henffordd, bum milltir dros y ffin yn Lloegr.
Ond yn y 16eg ganrif roedd hi'n gartref i'r Cymry Cymraeg, lle roedd tŷ crand teulu Blanche Parry yn cynnal ciniawau aruchel ac yn denu beirdd fel Guto'r Glyn i ddiddanu'r gwesteion.
Ac yno yn New Court – plasdy sydd bellach wedi ei ddymchwel – y cafodd Blanche ei geni tua 1507.

Hen lun o ddarlun artist o Blanche Parry - mae'r llun ei hun wedi bod ar goll ers rhai blynyddoedd
Aeth o'i chartref yn Bacton i lys y Tuduriaid pan roedd Elizabeth yn dywysoges ifanc. Roedd modryb Blanche, yr Arglwyddes Troy, yno'n barod yn un o forwynion ffrind i Anne Boleyn.
Cyfrifoldeb Blanche a'i modryb oedd magu'r plant.
Yn ôl Ruth Richardson, hanesydd sydd wedi gwneud llawer o ymchwil i'r Gymraes a fagodd y frenhines, "Mae'n eitha' posib i'r plant naill ai ddysgu, neu o leia ddeall, hwiangerddi Cymraeg.
"Oherwydd dwy fenyw Gymreig a Chymraeg oedd yn gofalu amdanyn nhw, ac mae'n sicr yn bosib eu bod nhw wedi canu hwiangerddi Cymraeg i gael Elizabeth i gysgu."
Parhaodd y berthynas rhwng Blanche ac Elizabeth yn un agos wrth i'r dywysoges dyfu, eglurodd Ruth.
"Buodd hi'n un o staff personol Elizabeth; mi gymerodd hi drosodd fel Prif Fenyw y Siambr Breifat, sef Chief Gentlewoman of the Privy Chamber.
"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod yna gyfnod pan ddaeth ei chwaer, Mary, yn frenhines, fod Elizabeth wedi mynd i Dŵr Llundain. Er nad ydy Blanche wedi'i henwi yn benodol, doedd Elizabeth ond yn cael mynd ag un neu ddau o'i staff personol, a byddai Blanche wedi bod yn un ohonynt."
Cymreictod y llys
Un arall sy'n credu fod y si fod Blanche yn siarad Cymraeg ag Elizabeth yn wir, yw Dr Eleri Lynn, Prif Guradur Palasau Brenhinol Hanesyddol Prydain (Historic Royal Palaces).
"Hi oedd "Blanche, Ferch Harri" ac roedd hi gydag Elizabeth ers iddi fod yn ferch fach iawn, felly byddai Elizabeth efallai wedi clywed hwiangerddi Cymraeg.
"Ond hefyd roedd llys y Tuduriaid yn hoff iawn o ddefnyddio codau a chyfrinachau. Mae'n dda i feddwl y gallai Blanche ac Elizabeth fod wedi defnyddio bach o Gymraeg, ambell i air bach neu frawddeg, i ddweud 'O, fe allwch chi gael gwared ohono fe,' neu 'Dewch â'r un yma yn agosach'; rhywbeth a allai fod yn gyfrinach rhyngddyn nhw."
Yn 1563, cyflwynodd y frenhines gyfraith i sicrhau fod gan eglwysi yng Nghymru gyfieithiadau Cymraeg o'r Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Beibl.
Cafodd cyfieithiad o'r Llyfr Gweddi a'r Testament Newydd eu cwblhau gan William Salesbury erbyn 1567, yna'r Beibl cyfan gan William Morgan yn 1588.

Dr Eleri Lynn gyda'r tecstil sy'n dyddio o oes Elizabeth
Mae Eleri'n arbenigo mewn ffasiwn hanesyddol, ac mae hi'n credu fod brethyn a gafodd ei ddarganfod yn Bacton - man geni Blanche - yn brawf fod Cymreictod wedi parhau i esblygu yn llys Elizabeth.
Yn 2016, daeth hi o hyd i ddarn o decstil llawn brodwaith manwl yn crogi ar wal eglwys Sant Faith a'i gysylltu ag Oes y Tuduriaid.
Roedd Eleri yn gywir am wreiddiau'r brethyn. Cadarhaodd ei thîm mai hon ydy'r unig ffrog o gwpwrdd Elizabeth i oroesi; gwisg mor grand fel ei bod yn cynnwys edau o aur ac arian.
"Mae hwn yn oroesiad unigryw o wisg y llys o oes Elizabeth," meddai Eleri. "Yn y byd, does dim byd tebyg iddi.
"Mae ambell i ddarn bach wedi goroesi, fel bŵts ac esgidiau, ac ambell i eitem bach iawn. Ond dim byd ar y raddfa yma, a dim byd o'r safon neu'r statws yma.
Cafodd y defnydd ei arddangos yng gyhoeddus am y tro cyntaf yn 2019 ym Mhalas Hampton Court. Roedd mewn cyflwr rhyfeddol er iddo gael ei fframio a'i roi ar wal yr eglwys am dros 100 mlynedd.
Arddangos deunydd ffrog Elizabeth I
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2019
Tra'n ymchwilio i gymeriadau Cymreig llys Elizabeth, fe ddaeth Eleri yn gyfarwydd â Blanche Parry a'r brethyn oedd yn hongian yn eglwys ei phentref enedigol.
"Mae'r stori yma mor Gymreig mewn gymaint o ffyrdd.
"Roedd caniatâd gan y Frenhines i gael dillad wedi'u creu gan ddylunwyr penodol yn unig, oherwydd roedd y llys yn poeni y byddai anrhegion o ffrogiau wedi'u gwenwyno yn cyrraedd y Frenhines.
"A dim ond dau ddylunwr ffrogiau fu gyda hi trwy gydol ei chyfnod. Roedd hi'n ymddiried ynddyn nhw, ac rydyn ni'n gwybod mai'r dyn oedd yn gyfrifol pan gafodd y ffrog yma ei chreu oedd Cymro o'r enw William Jones."

Cafodd Blanche Parry ei chladdu yn Llundain yn ar ôl iddo farw yn 82 oed yn 1590. Cyn ei marwolaeth, comisiynodd y cerflun yma ohoni hi (chwith) gyda Brenhines Elizabeth I ar gyfer Eglwys St Faith yn Bacton
O ystyried hanes y Tuduriaid - roedd ei thad-cu Harri Tudur (Harri VII) wedi ei eni yn Sir Benfro - dydy hi ddim yn rhyfedd fod Elizabeth wedi dewis cadw Cymry yn agos ati, esboniai Eleri.
"Roedd pobl Cymreig pwysig yn y llys, gan gynnwys William Cecil - yr Arglwydd Burghley - a Blanche Parry, ffrind agosaf Elizabeth, o'i chrud bron i'w bedd.
"Roeddyn nhw'n agos iawn. Roedd Blanche hyd yn oed yn cysgu yn yr un gwely ag Elizabeth, ac yn ail fam iddi mewn nifer o ffyrdd. Byth yn briod, roedd hi wastad wrth ei hymyl."
Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2018
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2025

- Cyhoeddwyd9 Awst 2024

- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020
