Ateb y Galw: Glain Llwyd

Glain LlwydFfynhonnell y llun, Glain Llwyd
  • Cyhoeddwyd

Mae 2026 wedi bod yn flwyddyn dda i Glain Llwyd, sydd o Dal-y-bont ger Aberystwyth. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn a nawr fe fydd hi'n serennu yng nghynhyrchiad Y Cwmni o Calon - sioe gerdd jiwcbocs o ganeuon Caryl Parry Jones sy'n agor yng Nghanolfan y Mileniwm ddydd Iau 27 Mehefin.

Dyma gyfle i ddysgu mwy am Glain wrth iddi Ateb y Galw.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Fy mharti pen-blwydd yn dair oed. Cofio Mam yn disgwyl fy chwaer fach, a rhedeg draw ati i gwyno fod hi heb gyrraedd mewn pryd i ddod i'r parti.

Fi'n cofio bod yn offended iawn gan fod cacen siâp Sali Mali wedi ei 'neud ar gyfer y parti, ac o'n i ishe dangos hi i fy chwaer fach newydd.

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae gennai ddau! Un ydy Llwybr y Beirdd yn Llandre. O'n i'n arfer joio mynd â'r ci am dro yno a darllen y cerddi. Mae Llandre yn bentref llawn beridd, a fi'n credu o'dd Taffi, y ci, yn mwynhau sniffio o gwmpas y goedwig 'fyd!

Fi hefyd yn caru Womanby Street yng Nghaerdydd. Fi fel arfer yno ar nos Sadwrn yn sgwrsio 'da ffrindie neu'n mynd i wylio gig! Fi 'di gwario gormod o arian yn ffotobŵth Clwb Ifor Bach.

Lluniau Photobooth Clwb Ifor BachFfynhonnell y llun, Glain Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glain wedi cael sawl noson gofiadwy yn un o'i hoff lefydd yng Nghymru – Clwb Ifor Bach ar Womanby Street... Ac mae lluniau'r ffotobŵth i brofi!

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Glain Llwyd ar y llwyfan gyda Diffiniad yn TafwylFfynhonnell y llun, Anna Likeman
Disgrifiad o’r llun,

Glain yn perfformio gyda band ei thad, Diffiniad, yn Tafwyl 2025

Nos Sadwrn Tafwyl 2025. Nes i berfformio gyda Diffiniad ar y prif lwyfan a chau'r noson. Am brofiad anhygoel oedd cael gweld 15,000 o bobl yn mwynhau yng nghwmni ei gilydd yn canu caneuon Dad!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cymdeithasol, creadigol a crinj.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Mae lot i ddewis!

Un sy' wastad yn 'neud fi chwerthin yw wrth ffilmio peilot y gyfres Gwagle, eistedd mewn car gyda Gwion Ifan y trio peidio chwerthin wrth iddo gael meltdown yn y car.

Yn lwcus, dim ond cefn fy mhen oedd yn cael ei ffilmio ond fi'n cofio dagrau yn llifo wrth i Gwion wneud yr olygfa. Os chi heb wylio hi, ewch i 'neud, mae fe'n gomedi gold.

Atgof arall yw cerdded o gwmpas Machynlleth gyda fy ffrind, Heledd pan oeddwn i tua naw oed, a gweld dyn yn mynd â dafad am dro ar dennyn. Fi'n cofio chwerthin am orie am hynna – peintio syniad da o Fachynlleth i chi, rili!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?

O gosh! Afterparty Cân i Gymru 2024 lle nes i fwynhau'r gwin am ddim. Fi'n ffan o'r band Bromas ers o'n i'n blentyn, ac ar ôl fy 100fed glasied o win, dyma fi'n penderfynu canu Ela Mai gan Bromas i Llewelyn Hopwood (un o gyn-aelodau Bromas), yn ganol yr afterparty.

Oedd e bach yn ofn fi'n credu. Sori Llewelyn, fi'n addo sai'n crazy o'n i just 'di cael gormod o sauvy b!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Fi'n crio lot, fi'n berson emosiynol iawn. 'Na i grio yn gwylio TikToks. Nes i gael yn emosiynol yn Maes B 'leni, yn gwylio fy chwaer yn perfformio gyda Lafant, (band y Steddfod rhaid i fi ddweud). Oedd hi mor llawn yno, a pawb yn mwynhau ac oedd Miri yn seren. O'n i just mor browd!

Glain a'i chwaer yn Maes BFfynhonnell y llun, Mirain Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Glain, gyda'i chwaer cyn Maes B 2026

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fi'n colli pethe o hyd. Fi'n rili gwael am roi rhywbeth lawr ac anghofio yn syth le fi 'di rhoi e. Mae gyda fi habit gwael o golli ffy ffôn. Colles i hi yn Steddfod 'leni, heb sylwi! Diolch i Jason o griw'r stiwardiaid am ei ffeindio a ffonio Mam am 1yb i ddweud bod e'n saff gyda nhw.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Llyfr: The Bell Jar gan Sylvia Plath. Waw. 'Nes i waith cwrs ar hwn, a fi dal yn caru fe.

Ffilm: Hot Fuzz. Fi'n cofio gwylio hwn am y tro cyntaf a bod yn hollol amazed gan y steil. Mae fe mor glyfar a witty a fi'n caru cyfarwyddo Edgar Wright. Mae Little Shop of Horrors yn ail agos iawn; fi'n caru Steve Martin!

Albwm: Mae hwn yn newid pob dydd! Ond os oedd rhaid i fi ddewis, mae'n siŵr mai Mae'n hawdd pan ti'n ifanc gan Mellt yw hi. Bois o Aber yn 'neud cerddoriaeth yn cŵl. Fi'n credu bod fi'n gwybod pob gair i bob cân!

Podlediad: Off Menu gan James Acaster ac Ed Gamble, y podcast cynta' 'nes i ddechre gwrando i! Bwyd a comedi – be' well? Fi hefyd yn ffan mawr o Bald and the Beautiful gyda Trixe a Katya hefyd. Fi'n gwrando ar hwnna yn y bath.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod a pham?

Tad-cu, byse fi 'di rili joio mynd i'r Red ym Mhontrhydfendigaid 'da fe am beint! Oedd e'n joio mynd am ddiod yna, a fi'n credu byse fi 'di mwynhau mynd 'da fe.

Dyweda rywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fi ddim yn dda iawn am gadw pethe yn dawel am fy hun, ha! Oversharer i'r max!

Fi'n hiiiiwj Doctor Who ffan!! Amy Pond oedd fy arwr yn tyfu fyny. O'n i'n ysu i fod yn y gyfres.

Glain yn blentyn gyda'r Tardis ar set Doctor WhoFfynhonnell y llun, Glain Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Glain fach yn y TARDIS

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Eistedd ar draeth Ynys Las, gyda fy nheulu a ffrindie yn bwyta picnic a gwylio'r haul yn machlud!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Glain yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn 2026Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Hoff lun Glain. Ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn 2026

Fi dal mewn sioc am hwn. Hon oedd y ddrama lawn gynta' i fi sgwennu, a fi methu credu bod pobl yn mwynhau darllen gwaith fi!

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fydden nhw?

Bob Mortimer. Mae'r hanesion sy 'da fe am ei fywyd yn boncyrs! Y diwrnod perffaith fyse bod yn Bob yn ystod gwobrau y Brits yn 1996 – iykyk. Lej.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol