Lluniau: Parc Cenedlaethol Eryri

Cader IdrisFfynhonnell y llun, Myfyr Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Cader Idris o Fynydd Moel

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn nodi carreg filltir hanesyddol eleni wrth ddathlu 75 mlynedd ers dynodi Eryri yn Barc Cenedlaethol.

Er mwyn dathlu'r achlysur, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a gwasg Y Lolfa wedi dod ynghyd i gyd-gyhoeddi'r llyfr 'Parc Cenedlaethol Eryri National Park: Etifeddiaeth ar waith – A living legacy'.

Mae'r naw pennod o fewn y llyfr yn seiliedig ar naw Rhinwedd Arbennig Eryri, fel y diffinnir yng Nghynllun Rheoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, 'Cynllun Eryri'.

Dyma rai o'r lluniau trawiadol o Eryri y gwelwch chi yn y llyfr.

Cwm NancolFfynhonnell y llun, Ffotograffiaeth Mari Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Llun Mari Lloyd i Awyrlun Cwm Nantco

Castell DolbaadarnFfynhonnell y llun, Rory Trappe
Disgrifiad o’r llun,

Castell Dolbadarn gan Rory Trappe

CornchwiglodFfynhonnell y llun, Ben Porter
Disgrifiad o’r llun,

Cornchwiglod ar Yr Wyddfa gan Ben Porter

ClawrFfynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Clawr y llyfr sydd wedi'i gyhoeddi gan Y Lolfa

Plu'r GweinyddFfynhonnell y llun, Ffotograffiaeth Mari Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Plu'r Gweinydd gan Mari Lloyd

Waliau CarregFfynhonnell y llun, Myfyr Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Waliau carreg gan Myfyr Tomos

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: