Susie Dent: 'Rwy'n benderfynol o ddysgu Cymraeg rhyw ddydd'

Susie DentFfynhonnell y llun, Getty Images
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Susie Dent yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ers 1992, gan eistedd yn dictionary corner ar raglen Countdown ar Channel 4.

Mae'r geiriadurwr yn siarad pedair iaith yn rhugl; Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg, a hefyd yn siarad Ffinneg i safon eithaf da.

Ond yn siarad ar raglen Lucy Owen ar BBC Radio Wales ddydd Sadwrn, dywedodd Dent ei bod hi hefyd eisiau dysgu Cymraeg.

susie dentFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daw Susie Dent o Woking yn Surrey, ac fe astudiodd ieithoedd yn Rhydychen ac yn Princeton yn New Jersey

Yn trafod ei hoff eiriau Cymraeg, a geiriau sy'n cael eu defnyddio yn Saesneg ond sydd o dras Gymraeg, dywedodd Dent:

"Mae 'pengwin' yn sicr yn un ohonyn nhw - yn bennaf achos fod Colin Murray (prif gyflwynydd Countdown) wrth ei fodd gyda nhw! Mae ein gwylwyr yn anfon darluniau neu gerfluniau pengwin wedi eu gwneud o china neu o bren.

"Mae 'corgi' yn air arall mae pobl yn synnu sy'n dod o'r Gymraeg - y cŵn corrach bach.

"Ac mae'n ddrwg gen i am fod yn ystrydebol, ond fel llawer o bobl mae 'hiraeth' yn air mae pawb yn ei garu, ond dwi'n meddwl mai ond siaradwyr Cymraeg all wir ddeall y gair.

"Mae'r gair 'cwtsh' yn un arall. O'n i'n arfer meddwl fod 'cwtsh' yn golygu hug, ond mae gymaint mwy na hynny. Mae'n ymwneud â'r ymdeimlad 'ma o ddiogelwch a lloches, ac mae hefyd yn golygu cubby hole hefyd wrth gwrs – y teimlad 'ma o fod mewn man saff."

Cymorth Gethin Jones

"Dwi wedi dweud ers talwm ei fod ar fy bucket list i ddysgu Cymraeg. Mae'r iaith wedi ei siapio drwy ryw fframwaith o berthyn ac mae'n bwerus iawn – nid jest y sŵn ond yr eirfa hefyd.

"Mae rhywbeth arbennig a hynod o ddwys am y Gymraeg, ac mi faswn i wrth fy modd i ddysgu mwy amdano."

Dywedodd fod cyflwynydd adnabyddus arall yn gallu bod o gymorth ar brydiau pan mae rhai geiriau'n heriol i'w dweud.

"Pryd bynnag rwy'n siarad â Gethin Jones mae o'n addo ei fod o am ddysgu Cymraeg i mi – pan fydda i'n ffeindio hi'n anodd ynganu rhywbeth mae o'n gyrru voicenote i fi, lle bo fi'n disgyn yn fflat ar fy ngwyneb.

"Dwi'n benderfynol o ddysgu Cymraeg un dydd!"

Pwy a ŵyr, efallai y tro nesaf y bydd Susie Dent yn cael ei chyfweld gan BBC Cymru, bydd y sgwrs ar Radio Cymru yn hytrach na Radio Wales...

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.