Cannoedd yn trafod cynllun dadleuol i symud gwelyau ysbytai cymunedol

- Cyhoeddwyd
Roedd mwy na 400 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanidloes nos Fawrth i drafod cynigion a allai arwain at gau gwelyau yn y rhan fwyaf o ysbytai cymunedol Powys.
Fel rhan o gynigion ehangach i ad-drefnu gwasanaethau yn y sir un dewis gafodd ei gynnig gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys sef canoli gwelyau cleifion mewnol mewn dau ysbyty - yn Aberhonddu a'r Drenewydd.
Y nod, yn ôl y bwrdd iechyd, yw cryfhau gwasanaethau cymunedol a darparu mwy o ofal yng nghartrefi pobl.
Ar hyn o bryd mae tua 160 o welyau mewn ysbytai cymunedol ar draws Powys - gan gynnwys yn Llanidloes, Machynlleth, y Trallwng, Llandrindod ac Ystradgynlais.
Byddai cau gwelyau ym mhob ysbyty ac eithrio'r Drenewydd ac Aberhonddu yn golygu lleihau nifer y gwelyau o tua 100.
Mae nifer o gymunedau'n gwrthwynebu'r cynlluniau gan gynnwys Llanidloes.
Nos Fawrth mewn cyfarfod cyhoeddus bu gwleidyddion, meddygon teulu a thrigolion lleol yn mynegi barn.

Roedd Jane Dodds yn falch bod cymaint wedi mynychu'r cyfarfod ac am "sicrhau bod y bwrdd iechyd yn clywed y gwrthwynebiad yn glir ac yn uchel"
Fis diwethaf, ysgrifennodd meddygon teulu o bob rhan o Bowys at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) i wrthwynebu'r cynnig, gan ddweud y byddai gwanhau'r ysbytai cymunedol yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar ysbytai cyffredinol, a byddai'n anoddach fyth i'r staff ryddhau cleifion.
Yn y cyfarfod, a gafodd ei drefnu gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a'i gadeirio gan arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds, nodwyd bod gan PTHB ddiffyg cyllideb o tua £45 miliwn.
Ar ôl y cyfarfod dywedodd Jane Dodds ei bod yn croesawu bod nifer fawr o bobl o'r gymuned leol yn bresennol.
"Un o'r straeon cryf ni'n clywed dro ar ôl tro yw'r stori am ofal lliniarol, a pha mor bwysig yw hi i gadw pobl yn agos at eu perthnasau ac yn eu cymunedau ar ddiwedd eu hoes.
"Ond yr agwedd arall yw'r hyn a elwir yn 'camu i lawr' – hynny yw, pobl yn symud o ysbytai eraill yn ôl i'w cymunedau i wella ac i fynd adref.
"Byddai colli'r gwelyau hynny yn golled sylweddol, a byddwn yn brwydro i sicrhau eu bod yn cael eu cadw."
Cyfeiriodd Ms Dodds hefyd at y llythyr a anfonwyd gan feddygon teulu at y bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf.
"Dywedon nhw mai nid dyma'r ffordd gywir o gynnal ymarferiad i dorri costau," meddai.
"Mae ganddyn nhw syniadau. Maen nhw eisiau cydweithio, a dyna be' ni hefyd yn ei ddweud. A dydyn ni ddim yn deall sut y bydd colli gwelyau yn ein hysbytai cymunedol yn arbed arian.
"Mae'n debygol y bydd yn costio mwy, a dyna pam rydym yn cynnal y cyfarfodydd cyhoeddus yma i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn clywed y gwrthwynebiad yn glir ac yn uchel."

Mae ysbytai cymunedol yn darparu gwasanaethau i gleifion ar ôl iddyn nhw adael yr ysbytai cyffredinol ond cyn iddyn nhw fynd adref
Doedd neb o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn bresennol yn y cyfarfod, ond dywedodd dirprwy gyfarwyddwr y bwrdd iechyd, Adrian Osborne, mewn datganiad: "Rydym yn deall bod gwasanaethau iechyd lleol yn meddwl lot i bobl, ac rydym yn croesawu'r diddordeb mawr sy'n cael ei ddangos yn nyfodol gofal iechyd ym Mhowys.
"Yn ddiweddarach eleni, rydym yn disgwyl lansio ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar opsiynau ar gyfer y dyfodol.
"Bydd unrhyw opsiynau sy'n cael eu hystyried ar gyfer yr ymgynghoriad wedi'u llywio gan filoedd o leisiau ar draws y sir dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n eang ar draws y sir ac yn annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol gofal iechyd ym Mhowys i edrych ar y dystiolaeth, ystyried yr opsiynau, a rhannu eu barn, fel y gall y bwrdd iechyd roi ystyriaeth lawn iddynt cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
"Rydym am greu dyfodol lle mae atal clefydau wrth wraidd popeth, gan helpu pobl i fyw bywydau iachach a hapusach," meddai.
"Rydym eisiau system lle mae gennym wasanaethau cymunedol cryfach, fel bod mwy o bobl yn cael gofal gartref.
"Rydym am fesur ein llwyddiant yn ôl faint o bobl rydym yn eu helpu i aros yn ddigon iach i osgoi'r angen am wely ysbyty. Rydym eisiau i wasanaethau cleifion mewnol ym Mhowys gynnig gofal iechyd gwell, fel bod llai o bobl yn gorfod mynd i Ysbyty Cyffredinol yr Ardal.
"Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn sir wledig fawr fel Powys, o ystyried anghenion cynyddol ein poblogaeth sy'n heneiddio. Ar yr un pryd, mae cyfran y bobl sy'n oedran gweithio yn lleihau.
"Mae'r ffeithiau hyn yn golygu bod yn rhaid i ni drefnu gofal iechyd mewn ffyrdd sy'n parhau i ddiwallu anghenion ein cymunedau am flynyddoedd i ddod.
"Dyna pam mae 'Better Together' yn canolbwyntio'n gryf ar sicrhau gofal iechyd diogel o ansawdd uchel i bobl Powys, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd y bwrdd iechyd y bydd achos busnes cyn ymgynghori yn cael ei ystyried mewn cyfarfod cyhoeddus ar 16 Medi 2026. Yn amodol ar benderfyniadau'r bwrdd, bydd cyfnod o ymgynghori ffurfiol yn dilyn, gan ddechrau o bosibl yn yr hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd3 Ebrill
