Anhrefn Pont-y-pŵl: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio

Mae teulu Anthony 'Tony' Jones yn cael cefnogaeth gan swyddogion heddlu arbenigol tra bo'r ymchwiliad i'w farwolaeth yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio fel rhan o ymchwiliad i'r hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel anhrefn dreisgar ym Mhont-y-pŵl.
Cafodd dyn 56 oed o Aberhonddu - Anthony Jones, oedd yn cael ei alw'n Tony - ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond bu farw o ganlyniad i'w anafiadau.
Dywed Heddlu Gwent bod y dyn sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dod o ardal Torfaen.
Yn wreiddiol cafodd 25 o ddynion rhwng 18 a 73 eu harestio mewn cysylltiad â'r anhrefn yn ardal Pontnewynydd y dref nos Iau 6 Awst. Mae chwech yn y ddalfa ac mae 19 wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.

Cafodd swyddogion arfog eu galw i ardal Pontnewynydd y dref yn dilyn adroddiadau o anhrefn dreisgar yno nos Iau, 6 Awst
Roedd y llu wedi apelio ddechrau'r wythnos am gymorth i ddod o hyn i ddyn 40 oed o Flaenafon, Anthony Paul Jones, a fan Ford Transit mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Ddydd Gwener, fe ddywedodd yr uwch-swyddog ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Laura Bartley, fod swyddogion wedi dod o hyd i Mr Jones a bod y fan wedi ei ganfod "y tu allan i ardal Gwent".
Mae'r fan, meddai, yn cael ei asesu "i weld sut mae'n berthnasol i'n hymchwiliad".
Ychwanegodd bod "yr ymchwiliad cymhleth hwn wedi amharu'n sylweddol ar ein cymunedau", a'u bod "yn eithriadol o ddiolchgar am amynedd, cefnogaeth a chydweithrediad" y cymunedau hynny wrth i waith yr heddlu barhau.
Mae'r llu'n parhau i apelio am wybodaeth all fod o gymorth i'w ymchwiliad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
