Apêl heddlu wedi i ddyn farw ar ôl anhrefn ym Mhontnewynydd

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Mill Street ym Mhontnewynydd, ger Pont-y-pŵl, am 19:15 nos Iau yn dilyn adroddiadau o anhrefn treisgar
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn wedi i 10 person gael eu harestio yn dilyn marwolaeth dyn yn Sir Torfaen.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Mill Street ym Mhontnewynydd, ger Pont-y-pŵl, am 19:15 nos Iau yn dilyn adroddiadau o anhrefn treisgar.
Cafodd swyddogion arfog eu galw a bu cefnogaeth o'r awyr hefyd.
Cafodd Anthony 'Tony' Jones, 56 oed ac o Aberhonddu, ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad ac mae bellach wedi marw.
Dywedodd y llu bod saith dyn - 31, 33, 34, 40, 40, 59 a 73 oed - yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio mewn cysylltiad â'r anhrefn.

Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod eisiau siarad gydag Anthony Paul Jones, 40 oed o Flaenafon, Torfaen
Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod eisiau siarad gydag Anthony Paul Jones, 40 oed o Flaenafon, Torfaen, wrth i'w hymholiadau barhau.
Mae swyddogion hefyd yn chwilio am gerbyd Ford Transit glas, gyda'r rhif cofrestru MA23 FLC mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd yr uwch-swyddog ymchwilio, yr Uwch-arolygydd Ditectif Laura Bartley: "Rydym yn cydnabod y bydd adroddiadau o'r fath yn achosi pryder yn ein cymunedau, ond mae ein swyddogion yn gweithio ddydd a nos ac yn cynnal ymholiadau fel rhan o'r ymchwiliad hwn sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
"Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau'r dioddefwr."
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw sydd ag unrhyw wybodaeth am Anthony Paul Jones neu'r Ford Transit glas i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
