Teyrnged i 'ŵr a thad annwyl' fu farw wedi anhrefn ym Mhontnewynydd

Anthony JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Anthony Jones ei fod "yn fwy na dim, yn ŵr a thad annwyl a ffyddlon"

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw wedi anhrefn treisgar yn Sir Torfaen wedi ei ddisgrifio fel "gŵr a thad annwyl a ffyddlon".

Cafodd yr heddlu eu galw i Mill Street ym Mhontnewynydd, ger Pont-y-pŵl, am 19:15 nos Iau, 6 Awst yn dilyn adroddiadau o anhrefn treisgar.

Bu farw Anthony 'Tony' Jones, 56 oed o Aberhonddu, ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad.

Mae ymchwiliad llofruddiaeth wedi'i lansio, gyda Heddlu Gwent yn dweud dydd Llun bod saith dyn - 31, 33, 34, 40, 40, 59 a 73 oed - yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio mewn cysylltiad â'r anhrefn.

Heddlu ym Mhontnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion arfog eu galw i'r digwyddiad ym Mhontnewynydd nos Iau, 6 Awst

Dywedodd yr heddlu fod eu "hymchwiliad yn datblygu'n gyflym" a'u bod yn credu bod yr anhrefn treisgar "yn ymwneud ag aelodau dau Glwb Beic Modur gwaharddedig sydd mewn cystadleuaeth â'i gilydd, y Vikings a'r Hell's Angels".

Ychwanegon nhw eu bod yn "canolbwyntio ar ddarganfod faint oedd gan aelodau'r clybiau hyn i'w wneud â'r digwyddiad".

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, Ditectif Uwch-arolygydd Laura Bartley: "I ddechrau, estynnwn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau'r dioddefwr, sy'n parhau i dderbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

"Rydyn ni'n deall y bydd y digwyddiad hwn yn achosi pryder sylweddol i'r gymuned.

"Hoffwn sicrhau'r cyhoedd bod swyddogion a staff yn gweithio ddydd a nos i symud yr ymchwiliad yn ei flaen, canfod pawb a oedd ynghlwm â'r digwyddiad a dwyn y rhai cyfrifol gerbron y llysoedd.

"Rydyn ni'n eithriadol o ddiolchgar am amynedd, cefnogaeth a chydweithrediad ein cymunedau wrth i'r gwaith hwn barhau."

'Caru ei blant yn fwy na dim'

Dywedodd teulu Anthony Jones ei fod "yn fwy na dim, yn ŵr a thad annwyl a ffyddlon".

"Roedd Sarah a'r plant wrth galon ei fyd, ac roedd yn dwlu arnyn nhw," medden nhw mewn datganiad.

"Roedd yn falch iawn o'i blant ac yn eu caru nhw yn fwy na dim. Roedd Anthony yn dad-cu annwyl iawn hefyd, ac roedd ei wyrion yn cyfeirio ato gyda'r enw cariadus 'Grumpy'.

"Roedd yn addoli ei wyrion ac yn ofnadwy o falch ohonyn nhw. Roedd bod yn 'Grumpy' iddyn nhw yn rhan arall o'r bywyd teuluol yr oedd yn ei garu cymaint."

Ychwanegodd y teulu: "Beth bynnag arall sy'n cael ei ddweud, 'does dim byd yn newid y gŵr, tad a Grumpy yr oedd Anthony i'w deulu na pha mor annwyl oedd e iddyn nhw.

"Gofynnwn yn barchus i bobl adael i Sarah, y plant a theulu ehangach Anthony gael y preifatrwydd a'r tosturi sydd ei angen arnyn nhw i alaru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig