Dau mewn cyflwr difrifol ar ôl galw heddlu arfog i 'anhrefn dreisgar'

Roedd grŵp o ddynion yn rhan o'r digwyddiad ar Mill Road ym Mhontnewynydd tua 19:15 nos Iau
- Cyhoeddwyd
Mae pum dyn wedi cael eu harestio a dau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn yr hyn y mae'r heddlu'n ei ddisgrifio fel "anhrefn dreisgar" nos Iau.
Roedd y digwyddiad yn ymwneud â grŵp o ddynion ar Mill Road ym Mhontnewynydd, ger Pont-y-pŵl, am tua 19:15.
Cafodd swyddogion arfog eu galw a bu cefnogaeth o'r awyr hefyd.
Cafodd pum dyn eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae pedwar ohonyn nhw - 31, 40, 45 a 61 oed - yn dal yn y ddalfa.
Mae'r pumed dyn a gafodd ei arestio, 59, yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth ac mae mewn cyflwr critigol.
Mae dyn arall, 56, a gafodd ei gludo i'r ysbyty, hefyd mewn cyflwr critigol.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â deunydd fideo o'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.