Rhybudd brys am 'berygl difrifol' o dân a'r fyddin yn cael eu galw

Rhybudd tân
  • Cyhoeddwyd

Mae criwiau tân yn mynd i'r afael â thanau ar draws Cymru wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi rhybudd cenedlaethol am danau gwyllt.

Daw'r rhybudd yn sgil nifer o danau gwyllt ar draws Cymru a gweddill y DU wedi cyfnod parhaus o dywydd poeth a sych.

Mewn neges a gafodd ei yrru i bob ffôn symudol ar draws Cymru a Lloegr, dywedodd Llywodraeth y DU "ni ddylai trigolion, tirfeddianwyr nac ymwelwyr ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a allai achosi tân".

Mae hyn yn cynnwys "barbeciwiau tafladwy, pyllau tân, llosgyddion gardd neu dân gwyllt".

Ychwanegodd y neges: "Gall hyd yn oed fflam fach ddatblygu'n gyflym yn dân gwyllt mawr, gan beryglu bywydau, cartrefi, busnesau ac ymatebwyr brys."

Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gofyn am gymorth milwrol i helpu gyda'r ymateb.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener eu bod wedi cytuno i hyn ac yn "hynod ddiolchgar i'r fyddin am ddarparu'r gefnogaeth ychwanegol".

Mae manwerthwyr hefyd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw roi barbeciwiau tafladwy i'r neilltu ar unwaith gan beidio â'u gwerthu am y tro.

Dywedodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod personél milwrol wedi cael eu defnyddio ar gyfer cymorth logistaidd ac i helpu i "leihau'r pwysau ar y llawr".

Tân yn ardal Rhandirmwyn ger LlanymddyfriFfynhonnell y llun, Handel Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i'r tân yn ardal Rhandirmwyn ger Llanymddyfri ers dechrau prynhawn Mercher

Mae nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn tân yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi ei ddynodi'n "ddigwyddiad difrifol".

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio â'r fflamau yn ardal Rhandirmwyn ger Llanymddyfri ers 12:45 brynhawn Mercher.

Yn ôl Gwasanaeth Tân Gorllewin a Chanolbarth Cymru mae'r tân yn effeithio ar 250 hectar o dir, ac mae'n cael ei drin fel digwyddiad difrifol oherwydd "graddfa, cymhlethdod ac effaith bosib" y sefyllfa.

Mewn ymateb i'r tân yn Llanymddyfri mae Cyngor Sir Gâr wedi trefnu lloches yng nghanolfan hamdden y dref ar gyfer unigolion a fu'n rhaid gadael eu cartrefi nos Iau wrth i'r fflamau nesáu.

Bu'n rhaid gwagio'r tai "rhag ofn", medd y gwasanaeth tân "oherwydd agosrwydd y tân".

Cellan Michael
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y fflamau o fewn 50 metr i gartref Cellan Michael

Roedd y fflamau o fewn tafliad carreg i gartref Cellan Michael, a ddywedodd ei fod "wedi bod yn ddau ddiwrnod uffernol".

"Dechreuodd y tân jyst rownd y gornel o'n tŷ ni, aeth e dros y bryn, a wedyn ddoe o'dd e'n dod aton ni o'r ddau gyfeiriad.

"O'dd e o fewn 50 metr pnawn ddoe. O'dd y ddau gar wedi bacio gyda pethau pwysig os oedd rhaid i ni adael ar frys.

"Diolch byth doedd dim eisiau.

"Mae'r wraig a finne methu rhoi digon o ddiolch i'r diffoddwyr tân, i'r ffermwyr lleol sy' 'di bod yn cludo dŵr at y diffoddwyr.

"Erbyn heddiw mae pethau gobeithio wedi tawelu, ond mae wedi bod yn gyfnod anodd dros ben."

Y tân yn ardal RhandirmwynFfynhonnell y llun, Nerys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y tân ar ei anterth yn ardal Rhandirmwyn ddydd Mercher

Dywedodd y cynghorydd lleol Handel Davies bod Coleg Elidyr - coleg preswyl yn Rhandirmwyn "sy'n edrych ar ôl tua 200 o blant ag anghenion ychwanegol... wedi evacuatio ers yn gynnar dydd Mercher".

"Mae pawb yn saff - s'dim neb wedi cael unrhyw ddrwg," dywedodd ar raglen Dros Frecwast, "ond oddi ar hynny mae pethau wedi gwaethygu".

Y Cynghorydd Handel Davies yn sefyll o flaen mynedfa Canolfan Hamdden Llanymddyfri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ardal sydd wedi'i heffeithio yn un heriol i'r ymladdwyr tân, medd y Cynghorydd Handel Davies

Ychwanegodd: "Y frigâd dân, mae'n rhaid i fi ganu eu canmoliaeth nhw - maen nhw wedi dod o bob man.

"O Sir Gâr i ddechrau, yna dros Gymru gyfan - o'dd un yn cyrraedd o Landudno neithiwr.

"Maen nhw wedi gwneud jobyn gwych, a mae'n rhaid hefyd canmol y ffermwyr lleol.

"Maen nhw wedi bod lan â'u tractors a bowsers - tua 15 ohonyn nhw wedi bod yn helpu'r frigâd dân mewn mannau sy' mor anodd i fynd ato fe.

"Mae lot o fynyddoedd uchel, a tirwedd anodd iawn - coed conifer a porfa sych - felly mae'r tân yn symud yn ddi-baid. S'dim byd i'w stopio fe.

"Mae'r mwg yn ofnadwy. Yn y nos mae'n cwympo lawr i waelod y cwm a mae fel niwl ymhobman."

Siôn Briscoe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siôn Briscoe eu bod yn gobeithio helpu i "roi'r tân mas" gan fod hi'n "broblem mawr"

Mae ffermwyr a phobl leol wedi dod ynghyd brynhawn Gwener er mwyn cefnogi'r gwasanaethau brys yn eu hymgyrch.

"Ni 'di dod â tancers lan 'ma i drio helpu i roi'r tân mas," meddai Siôn Briscoe sy'n 18 oed o Landysul.

"Mae'n broblem mawr," meddai.

"Ni'n gobeithio stopio fe. Bydd e'n job mawr ond bydd rhaid inni drial."

Cerbydau'r gwasanaeth tân yn RhandirmwynFfynhonnell y llun, Handel Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaeth tân wedi diolch i'r gymuned leol ac asiantaethau am eu "hamynedd, cefnogaeth a chydweithrediad tra bod criwiau'n ymateb i'r digwyddiad"

Mae'r gwasanaeth tân yn gofyn i'r cyhoedd osgoi'r ardal fel bod y gwasanaethau brys yn gallu gwneud eu gwaith "yn ddiogel ac yn effeithiol".

Mae yna gyngor i aros dan do os yn bosib a chadw drysau a ffenestri ar gau rhag y mwg, ac i yrwyr gymryd gofal ychwanegol wrth deithio yn yr ardal wrth i'r mwg effeithio ar ba mor bell mae'n bosib gweld o'u blaenau.

Maen nhw hefyd yn atgoffa'r cyhoedd i beidio â hedfan dronau yn ardal y tân "gan eu bod yn gallu amharu" ar waith y criwiau tân "ac achosi risg" i'w gwasanaethau brys.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig