Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer yn cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo

KSFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Syr Keir Starmer yn Brif Weinidog y DU ym mis Gorffennaf 2024, pan enillodd y Blaid Lafur yr etholiad cyffredinol gyda mwyafrif ysgubol

  • Cyhoeddwyd

Mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog y DU, ar ôl colli cefnogaeth rhai o aelodau allweddol y Blaid Lafur.

Daw ei gyhoeddiad yn dilyn cyfnod cythryblus i'r llywodraeth, sydd ond mewn grym ers Gorffennaf 2024.

Dywedodd Starmer y byddai'n parhau yn y swydd wrth i'r blaid ddewis ei olynydd.

Bydd enwebiadau am yr arweinyddiaeth yn agor ar 9 Gorffennaf, a'r broses honno i'w chwblhau erbyn toriad yr haf wythnos yn ddiweddarach, gyda disgwyl y bydd arweinydd newydd wedi ei ddewis erbyn i Dŷ'r Cyffredin ddychwelyd ym mis Medi.

Wedi canlyniadau trychinebus i Lafur mewn etholiadau ar draws y DU, fe wnaeth dwsinau o ASau alw'n gyhoeddus am newid gan gynnwys - maes o law - aelodau amlwg o fewn y cabinet.

Fe wnaeth y pwysau gynyddu ar y prif weinidog wedi i gyn-Faer Manceinion, Andy Burnham ennill is-etholiad Makerfield ddydd Iau diwethaf, gyda Mr Burnham wedi cadarnhau fore Llun y bydd yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth.

Andy BurnhamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Andy Burnham yn Aelod Seneddol rhwng 2001 a 2017, cyn treulio naw mlynedd fel Maer Manceinion

Mr Burnham yw'r ffefryn amlwg i olynu Syr Keir, ond mae'n ansicr ar hyn o bryd a fydd cystadleuaeth iddo am arweinyddiaeth y blaid Lafur.

Roedd y cyn-ysgrifennydd iechyd, Wes Streeting yn cael ei weld fel ymgeisydd posib arall, ond dywedodd fore Llun y bydd yn cefnogi ymgais Andy Burnham i ddod yn arweinydd.

Mae enw Angela Rayner - y cyn-ddirprwy brif weinidog - wedi cael ei grybwyll hefyd fel un allai fod eisiau'r arweinyddiaeth.

Daeth staff Rhif 10 ac aelodau'r cabinet i wrando ar ddatganiad Keir Starmer fore LlunFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth staff Rhif 10 ac aelodau'r cabinet i wrando ar ddatganiad Keir Starmer fore Llun

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates, fod Keir Starmer "wedi arwain y wlad drwy amseroedd anodd tu hwnt gydag urddas".

"Daeth Keir â'n plaid ni yn ôl o ebargofiant, gydag un o'r buddugoliaethau mwyaf a welodd y Blaid Lafur erioed," meddai.

"O dan ei arweinyddiaeth, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn yr isafswm cyflog, hwb i'r pensiwn gwladol a hawliau cyflogaeth cryfach.

"Derbynion ni hefyd y setliad datganoli mwyaf erioed a chynlluniau unwaith mewn cenhedlaeth o £14bn ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru."

Galwodd nawr ar ei blaid i "ddod ynghyd" er mwyn sicrhau fod Llafur yn parhau i wasanaethu pobl Cymru a'r DU.

Prif Weinidog Cymru, Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth yn galw ar i olynydd Syr Keir Starmer gydnabod fod Cymru angen perthynas newydd gyda San Steffan

Mae Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth wedi dymuno'n dda i Keir Starmer, ond dywedodd ei fod yn "siomedig fod gallu Llywodraeth Cymru i drafod gyda Phrif Weinidog y DU ar faterion sydd o bwys i bobl Cymru yn cael eu rhwystro gan yr helynt yn San Steffan".

"Rydw i eisiau gweld ei olynydd yn cydnabod fod Cymru angen perthynas newydd gyda San Steffan, gyda ffocws ar fwy o bwerau, ariannu teg, a pharch i'r mandad democrataidd sydd wedi'i roi gan bobl Cymru.

"Fe fydda i a fy llywodraeth wastad yn ceisio cael perthynas adeiladol gyda phwy bynnag sydd yn Rhif 10, ond mae gennym ddisgwyliadau clir bod yn rhaid i'r parch fynd y ddwy ffordd."

'Angen mwy na phrif weinidog newydd'

Dywedodd David Chadwick AS, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru na fydd newid y person ar y top yn newid llawer, "oni bai bod Llafur - o'r diwedd - yn wynebu'r problemau strwythurol sydd yn parhau i ddal Cymru yn ôl".

Er canlyniadau "catastroffig" Llafur yn etholiadau'r Senedd eleni, prin yw'r arwyddion fod agwedd Llafur yn San Steffan tuag at Gymru wedi newid, meddai.

"Bydd yn rhaid i'r prif weinidog nesaf ddysgu'r wers mae'r pump diwethaf wedi ei anwybyddu: allwch chi ddim tyfu'r economi yn gynaliadwy heb berthynas agosach â'r Undeb Ewropeaidd, neu gyflwyno fformiwla ariannu decach i Gymru, sydd yn cydnabod anghenion unigryw ein poblogaeth.

"Mae Cymru angen mwy na phrif weinidog newydd. Rydyn ni angen llywodraeth yn San Steffan sydd yn cymryd Cymru o ddifri'."

'Methiannau Llafur yn parhau'

Dywedodd arweinydd y Ceidwdawyr Cymreig, Darren Millar AS bod "methiannau Llafur yn parhau", er bod Syr Keir Starmer yn gadael.

"Y peth olaf y mae Cymru a gweddill y DU ei angen ydi arweinydd Llafur arall fydd ddim yn sefyll i fyny i ASau Llafur ar les, ynni, gwariant ar amddiffyn a gweithredu ar gostau byw.

"Mae ei benderfyniad yn ein hatgoffa mai Kemi Badenoch ydi'r unig arweinydd ar blaid wleidyddol yn y DU sydd â'r asgwrn cefn i wneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod Prydain yn gweithio unwaith eto."

Arweinydd Reform UK yng Nghymru, Dan ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd Reform UK yng Nghymru, Dan Thomas wedi galw am etholiad cyffredinol

Galwodd arweinydd plaid Reform UK yng Nghymru, Dan Thomas AS am etholiad cyffredinol, gan ddadlau mai dyna'r unig ffordd o "dorri'r cylch o brif weinidogion sy'n mynd a dod o Rif 10 heb fandad clir gan y cyhoedd.

"Yn fwy pryderus, doedd olynydd tebygol Starmer, Andy Burnham, ddim hyd yn oed yn AS pan gafodd y llywodraeth Lafur bresennol ei hethol," meddai.

"Mae'n rhaid i'r cyhoedd ddewis pwy sy'n llywodraethu, nid aelodau Llafur.

"Mae Reform yn mynnu etholiad cyffredinol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.