Beth aeth o'i le i Keir Starmer?

Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU, ar ôl colli cefnogaeth rhai o aelodau allweddol y Blaid Lafur.

Yn dilyn cyfnod cythryblus i'r llywodraeth a chanlyniadau trychinebus i Lafur mewn etholiadau ar draws y DU, fe wnaeth dwsinau o ASau alw'n gyhoeddus am newid gan gynnwys - maes o law - aelodau amlwg o fewn y cabinet.

Ag yntau wedi cael ei ethol yn brif weinidog lai na dwy flynedd yn ôl ar ôl i'w blaid ennill etholiad cyffredinol gyda mwyafrif ysgubol, beth aeth o'i le i Starmer?

Pwy ydy Keir Starmer?

Yn enedigol o Southwark yn Llundain ac wedi'i fagu yn Surrey, roedd Keir Rodney Starmer yn wleidyddol weithgar yn ei arddegau.

Graddiodd yn y gyfraith o Brifysgol Leeds yn 1985 a derbyn gradd ôl-raddedig mewn cyfraith sifil yn Rhydychen yn 1986.

Ar ôl cael ei alw i'r Bar gweithiodd yn bennaf ym maes amddiffyn troseddol, gan arbenigo mewn hawliau sifil.

Gwasanaethodd fel ymgynghorydd hawliau sifil i Fwrdd Plismona Gogledd Iwerddon.

Am gyfnod bu'n gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus a phennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron, gan ymdrin â nifer o achosion mawr - yn eu plith achos llofruddiaeth Stephen Lawrence.

Cafodd ei urddo'n farchog yn 2014 am wasanaethau i'r gyfraith a chyfiawnder troseddol.

Blwyddyn yn ddiweddarach fe gafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin, ble mae wedi cynrychioli Holborn a St Pancras ers 2015.

Syr Keir Starmer yn ystod ymweliad â Choleg Menai yn Llangefni yn 2025Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Syr Keir Starmer yn ystod ymweliad â Choleg Menai yn Llangefni yn 2025

Roedd Syr Keir yn gefnogol o'r ymgyrch i barhau yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016, ac yn llafar dros ail refferendwm posib ar Brexit.

Fe wasanaethodd o dan Jeremy Corbyn fel llefarydd Brexit yr wrthblaid, ac yn dilyn ymddiswyddiad Mr Corbyn ar ôl i Lafur gael eu trechu yn etholiad cyffredinol 2019, fe enillodd Syr Kier y ras arweinyddol i'w olynu yn 2020.

Yna yn 2024, fe arweiniodd y blaid Lafur i fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad cyffredinol, gan ddod â 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol i ben.

Syr Keir Starmer yn lansio strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU yn Nhrelái yn Rhagfyr 2025Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Syr Keir Starmer yn lansio strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU yn Nhrelái gydag Eluned Morgan yn Rhagfyr 2025

Ni fu Syr Keir yng Nghymru rhyw lawer yn ystod ei gyfnod fel prif weinidog y DU.

Ni ddaeth i ymgyrchu i Gaerffili yn ystod yr isetholiad yno yn Nhachwedd 2025, ac roedd dod yn drydydd a chipio dim ond 11% o'r bleidlais yn un o'i chadarnleoedd yn ergyd i Lafur.

Wrth i etholiad y Senedd 2026 nesáu, tyfu wnaeth y bwlch rhwng y ddwy lywodraeth.

Ym mis Rhagfyr 2025 fe wnaeth grŵp o ASau Llafur ym Mae Caerdydd anfon llythyr at Syr Keir yn dweud bod ganddyn nhw "bryder cynyddol" ynghylch methu â chyflawni datganoli pellach yng Nghymru.

Yn ystod ei ymweliad â Threlái ychydig ddyddiau'n ddiweddarach mynnodd Syr Keir ei fod yn "credu'n gryf mewn datganoli".

Ddechrau Mawrth 2026 bu'n rhaid iddo amddiffyn ei ymagwedd tuag at Gymru a'r Alban eto, ddiwrnod ar ôl i lythyr sbarduno cyhuddiadau ei fod yn tanseilio datganoli.

Keir StarmerFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Keir Starmer yn ystod ymweliad â Chanolfan yr Awyrlu Y Fali, Ynys Môn ym Mehefin 2025

Ddechrau Ionawr 2026 fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Eluned Morgan rybuddio Syr Keir y bydd yn rhaid iddo gyhoeddi cynlluniau mawr ar gyfer Cymru os oedd am gael croeso yma yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd.

Ond wrth i rai aelodau yng Nghymru alw am ei ymddiswyddiad yn sgil helynt Peter Mandelson, dywedodd Ms Morgan bod yn rhaid cofio mai hebddo, ni fyddai Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf o ran cyllid i'r wlad.

"Fydden ni ddim wedi cael y cyhoeddiad mawr o ran Wylfa a datblygiad adweithyddion modiwlar bach i drawsnewid economi gogledd Cymru, ac amddiffyn pobl de Cymru lle mae'r hen domenni glo wedi bod," meddai.

"Doedd yr holl bethau yna ddim yno o dan y prif weinidogion Ceidwadol blaenorol ac mae'n dda gweld bod Keir Starmer wedi mynd i'r afael â'r materion yna."

Starmer a MandelsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y penderfyniad i benodi Peter Mandelson yn llysgennad yr Unol Daleithiau yn un o'r rhesymau dros y pwysau ar Syr Keir Starmer

O dan arweinyddiaeth Syr Keir, mae Llywodraeth y DU wedi dod â rhai taliadau tanwydd y gaeaf i ben, wedi cynyddu'r isafswm cyflog ac wedi ceisio mynd i'r afael â gorlenwi carchardai a setlo sawl streic yn y sector cyhoeddus.

Mewn polisi tramor roedd cefnogaeth Starmer i Wcráin yn y rhyfel gyda Rwsia yn gryf.

O ran rhyfel Gaza, fe alwodd am gadoediad a rhyddhau gwystlon, gan gydnabod yn ffurfiol Wladwriaeth Balesteinaidd.

Fe lwyddodd ei lywodraeth Lafur i lunio cytundebau masnach rydd gydag India, yr Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau, yn ogystal â throsglwyddo sofraniaeth Ynysoedd Chagos i Mauritius ar ôl cyngor ddaeth mewn dyfarniad gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.

Andy Burnham mewn crys polo gwyn yn annerch torf o gefnogwyr - mae sawl yn yn dal arwyddion gyda'r logo 'Andy for Us'Ffynhonnell y llun, EPA/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae sôn ers sbel bod Andy Burnham â'i fryd ar herio Syr Keir Starmer i fod yn brif weinidog

Ond daeth ei benderfyniad i benodi Peter Mandelson yn llysgennad yr Unol Daleithiau yn hynod ddadleuol wedi i ddogfennau daflu goleuni newydd ar berthynas Mandelson gyda'r diweddar droseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.

Roedd anniddigrwydd mawr hefyd wedi perfformiad gwael iawn y Blaid Lafur yn yr etholiadau seneddol yng Nghymru a'r Alban, a'r etholiadau lleol yn Lloegr ar 7 Mai.

Cynyddodd y galwadau o fewn y blaid am newid, gydag ASau o Gymru ymhlith dwsinau a alwodd yn gyhoeddus arno i ymddiswyddo.

Wedi buddugoliaeth gyfforddus Andy Burnham yn isetholiad Makerfield yr wythnos diwethaf, mewn ardal ble bu Reform UK yn llwyddiannus iawn yn yr etholiadau lleol fis diwethaf, roedd ambell aelod blaenllaw o'r cabinet yn mynegi amheuon yn breifat ynghylch gallu Syr Keir i barhau wrth y llyw.

Dros y penwythnos, roedd yna arwyddion ei fod yn ystyried amserlen er mwyn ildio'r awenau, wedi wythnosau o fynnu y byddai'n brwydro i barhau fel prif weinidog.

Mae Syr Keir gadael wedi llai na dwy flynedd yn Rhif 10, a bydd golygon Llafur nawr yn troi at benodi olynydd a allai uno'r blaid a thawelu pryderon aelodau dros y wlad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.