Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 15:00 GMT+1
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw - diwrnod hanesyddol wrth i Syr Keir Starmer gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU.
I grynhoi:
- Fe wnaeth Starmer gyhoeddi y tu allan i 10 Downing Street y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur, a bydd yn ildio'r awenau fel prif weinidog unwaith y bydd olynydd mewn lle;
- Mae'r prif weinidog wedi wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo dros y misoedd diwethaf, ac fe gynyddodd hynny yn dilyn buddugoliaeth Andy Burnham yn isetholiad Makerfield yr wythnos diwethaf;
- Mae Burnham wedi cadarnhau y bydd yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth, ac mae Wes Streeting - oedd yn cael ei weld fel ymgeisydd arall posib - wedi cefnogi cyn-faer Manceinion;
- Bydd yr enwebiadau i olynu Starmer yn agor ar 9 Gorffennaf. Os mai Burnham yw'r unig ymgeisydd, fe allai fod yn brif weinidog erbyn ganol mis nesaf. Os oes ras arweinyddol, y bwriad yw cael prif weinidog newydd mewn lle cyn 1 Medi.
Mae rhagor o wybodaeth am y datblygiadau heddiw ar gael ar ein hafan, a bydd rhagor o ddadansoddi ar raglen Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru am 17:00.
Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
















