Uned frys Ysbyty Glan Clwyd 'angen gwella'n sylweddol'

Roedd uned frys Ysbyty Glan Clwyd yn "wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol" rhwng Mai 2022 ac Awst 2024 hefyd
- Cyhoeddwyd
Mae arolygydd iechyd Cymru wedi dweud bod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych "angen ei wella'n sylweddol".
Daw wedi i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gynnal arolygiad dirybudd o'r adran ym Modelwyddan fis Mai eleni.
Mae arolygwyr AGIC wedi mynegi pryder am arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli risg yn yr adran.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod y penderfyniad "yn adlewyrchu pryderon difrifol" a'u bod yn derbyn y canfyddiadau yn llawn ac yn ymddiheuro.
'Gwelliannau heb gael eu cynnal'
Roedd uned frys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei dynodi'n "wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol" rhwng Mai 2022 ac Awst 2024 hefyd.
Yn dilyn gwelliannau fe gafodd y statws ei dynnu oddi ar yr adran.
Ond yn ôl AGIC, mae'r "dynodiad diweddaraf hwn yn dangos nad yw'r gwelliannau a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw wedi cael eu cynnal".
Maen nhw'n "cydnabod y galw sylweddol sydd ar wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng" ond yn dweud bod y penderfyniad yn seiliedig ar "a yw systemau, atebolrwydd a phrosesau goruchwylio yn ddigon cadarn i reoli'r pwysau hynny yn ddiogel a lleihau'r risg o amrywiaeth o ran gofal".

Mae arolygwyr yn pwysleisio y dylai cleifion sydd angen gofal brys barhau i ddefnyddio'r adran
Dywedodd AGIC eu bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers yr adolygiad ac y byddan nhw'n monitro cynnydd yr adran "nes y bydd AGIC yn fodlon bod y gwelliannau angenrheidiol wedi cael eu gwneud".
Mae'r arolygydd yn pwysleisio y dylai cleifion sydd angen gofal brys barhau i ddefnyddio'r adran.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd Rhys Jones o AGIC nad yw'r dynodiad yn "feirniadaeth uniongyrchol ar y staff rheng flaen" a bod "nifer o ffactorau wedi dod ynghyd i ni orfod cymryd y camau hyn".
Bydd yr adroddiad llawn o'r adolygiad dirybudd fis diwethaf yn cael ei gyhoeddi fis Medi.
Dywedodd prif weithredwr AGIC, Alun Jones bod dynodi'r adran fel un sydd angen ei wella'n sylweddol yn "golygu ein bod yn disgwyl gwelliant clir a brys, wedi'i gefnogi gan drefniadau goruchwylio ac atebolrwydd cryfach".
"Er ein bod yn cydnabod y pwysau y mae adrannau achosion brys yn eu hwynebu, mae'n rhaid i wasanaethau roi trefniadau effeithiol ar waith i reoli'r pwysau hynny yn ddiogel."
Canfyddiadau sy'n 'peri pryder'
Dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer bod y "penderfyniad yn adlewyrchu pryderon difrifol ac rydym yn derbyn y canfyddiadau'n llawn".
"Mae'r materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant, diogelwch cleifion, gorlenwi a diogelwch a phrofiad cleifion sy'n aros am ofal," meddai.
"Mae'n ddrwg gennym, mewn rhai meysydd, nad yw safon y gofal wedi bod lle y mae angen bod ar gyfer ein cleifion.
"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn peri pryder i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu ac i'n staff, sy'n gweithio o dan bwysau parhaus, ac rydyn ni am eu sicrhau bod camau gweithredu ar y gweill.
"Mae gennym ddealltwriaeth glir o'r materion a nodwyd ac mae cynllun gwella cryfach eisoes yn cael ei weithredu.
"Mae hyn yn cynnwys lleihau gorlenwi, cryfhau diogelwch cleifion, gwella arweinyddiaeth a goruchwyliaeth o fewn yr adran, a sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel o'r adeg y maen nhw'n cyrraedd, gan gynnwys tra byddan nhw'n aros i gael eu gweld."
Sut mae gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr?
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
Angen gwario tua £1bn ar waith trwsio a chynnal adeiladau iechyd Cymru
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mabon ap Gwynfor ei fod yn "bryderus iawn" am y "methiannau sylweddol yn adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd".
"Mae pobl yng ngogledd Cymru yn disgwyl gwell, ac nid wyf yn fodlon ar y diffyg cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd wrth drawsnewid gwasanaethau gofal brys, ac mae'n rhaid i hynny newid.
"Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gydag AGIC i wneud y gwelliannau angenrheidiol, a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd yn agos."
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, mae'r "methiant" i wella perfformiad yr adran yn yr ysbyty yn "sgandal ac mae cleifion yn cael niwed o ganlyniad".
Dywedodd hefyd nad ydy arweinyddiaeth y bwrdd iechyd nac y llywodraeth â'r "gallu i droi pethau o gwmpas".
Galwodd ar y llywodraeth i "gomisiynu ymchwiliad annibynnol brys i fethiannau yn y GIG yng ngogledd Cymru a darparu'r ysbyty newydd yn y Rhyl a gafodd ei addo i bobl Sir Ddinbych yn wreiddiol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.