Llai o gyllid i Gymru oherwydd cynlluniau amddiffyn y DU medd Rhun ap Iorwerth

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "bryderus iawn" y gallai ysgolion, ysbytai a chynlluniau eraill "golli allan ar gyllid hanfodol"

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud y bydd yr arian sydd ganddo i'w wario ar adeiladau newydd a seilwaith yn cael ei dorri oherwydd cynlluniau amddiffyn Llywodraeth y DU.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "bryderus iawn" y gallai ysgolion, ysbytai a chynlluniau eraill "golli allan ar gyllid hanfodol" am flynyddoedd i ddod.

Mae ffynhonnell o Lafur Cymru sy'n agos at Lywodraeth y DU yn dweud y bydd y "cyfraniad" gan Lywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf yn "fach iawn".

Ychwanegodd bod Plaid Cymru yn ymddwyn mewn ffordd "ddiofal" ym maes diogelwch cenedlaethol.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Drysorlys y DU am ffigurau. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "filiynau lawer" ond mai lle'r Trysorlys oedd dweud yn union faint.

Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Syr Keir Starmer fuddsoddiadau newydd ym maes amddiffyn ddydd Mawrth

Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd cynnydd o £15bn mewn gwariant amddiffynnol yn cael ei ariannu drwy dorri cyllidebau buddsoddi mewn meysydd eraill.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu'n bennaf gan Lywodraeth y DU, yn seiliedig ar gyfrifiad o'r hyn sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr.

Os bydd cyllidebau'n cael eu torri yn Lloegr, gall hynny olygu llai o arian i weinidogion Cymru.

'Gwbl annerbyniol'

Mewn llythyr gan y Prif Weinidog at Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Dwi'n gwybod ein bod yn rhannu ymrwymiad i ddiogelwch a sicrwydd ein dinasyddion yng Nghymru a'r DU ehangach, ac mae'n bwysig bod gan y lluoedd amddiffyn offer digonol i wynebu bygythiadau modern.

"Fodd bynnag, roeddwn i'n bryderus iawn o glywed bod cyllidebau cyfalaf Llywodraeth Cymru yn wynebu toriadau eleni ac yn y blynyddoedd dilynol i ariannu'r Cynllun Buddsoddi yn yr Amddiffyn, sy'n golygu y gallai ysgolion, ysbytai a phrosiectau seilwaith yng Nghymru golli cyllid hanfodol o ganlyniad."

Honnodd nad oedd "rhybudd ymlaen llaw o union faint y toriadau hyn" - a dywedodd iddo glywed amdanyn nhw gyntaf yn y cyfryngau.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n gwbl annerbyniol bod cyllidebau cyfalaf Cymru, sydd eisoes dan bwysau, bellach yn cael eu torri o bosibl gan filiynau lawer o bunnoedd yn y flwyddyn ariannol hon - a'r blynyddoedd i ddod - i ariannu cynllun na chawsom unrhyw lais ynddo."

Wrth gael ei bwyso am ragor o wybodaeth, dywedodd llefarydd: "Nid yw'r ffigurau wedi'u setlo eto, ond mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd toriadau sylweddol i gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru o'r flwyddyn hon ymlaen."

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud fod y cynllun yn cynnwys £50m i Gymru, a gafodd ei gyhoeddi'n gynharach eleni a fydd yn anelu at helpu cwmnïau bach a chanolig i dyfu.

Dywedodd ffynhonnell o Lafur Cymru fod ymateb Plaid Cymru "i ddiogelu amddiffynfeydd y wlad yn siomedig ond nid yn syndod".

Dywedodd ffynonellau yn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru fod y Gweinidog Cyllid Elin Jones wedi mynychu cyfarfod lle cafodd y cynlluniau gwariant amddiffyn eu trafod.

Yn ôl y Blaid Lafur roedd y cyfarfod yn cynnwys gweinidogion o'r Trysorlys a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac roedd Jones yn gefnogol yn ystod y cyfarfod a chytunodd pobl y byddai ffigurau yn cael eu hanfon at lywodraeth Cymru.

Daeth y cyfarfod i ben ar delerau da, meddai'r ffynhonnell.

Dywedodd ffynhonnell llywodraeth Plaid Cymru fod y gweinidog cyllid yn bresennol yn y cyfarfod ddydd Mawrth ac wedi ei "synnu na chafodd unrhyw ffigurau eu rhannu gyda hi yn y cyfarfod".

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai £10.3bn yn cael ei symud o adrannau llywodraeth y DU i ariannu gwariant amddiffyn ychwanegol. Bydd yn rhaid dod o hyd i £4.7bn arall yn y gyllideb nesaf, meddai.

Mae Llafur Cymru wedi bod yn rhoi pwysau ar Blaid Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf dros amddiffyn, ac os yw'r blaid yn cefnogi'r gynghrair amddiffyn NATO.

Pan ofynnwyd iddo am aelodaeth NATO yn y Senedd wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yntau na Phlaid Cymru "erioed wedi eirioli dros y DU yn tynnu allan o NATO nac wedi awgrymu hynny".

"Wrth gwrs, byddai'n fater i Gymru annibynnol, yn y blynyddoedd i ddod, benderfynu pa fath o gysylltiad neu aelodaeth fyddai ganddi â NATO," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.