Eisteddfod: Creu Cylch yr Orsedd o gerrig glas Y Preseli 'dafliad carreg' o'r maes

Y criw o wirfoddolwyr lleol fu'n gosod Cylch yr Orsedd LlantwdFfynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Y criw o wirfoddolwyr lleol fu'n gosod Cylch yr Orsedd Llantwd

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion lleol ardal Eisteddfod y Garreg Las wedi dod at ei gilydd i osod 12 o 'feini glas' a Maen Llog o erwau bro'r Preseli i greu Cylch yr Orsedd.

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Cwmbetws, mae'r cylch "dafliad carreg i ffwrdd" o lle bydd maes y brifwyl yn Llantwd, yng ngogledd Sir Benfro. Dywed y bydd yn "gofnod parhaol" o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno.

Ar ddydd Sadwrn 20 Mehefin, daeth 14 o wrifoddolwyr, o 12 oed i 87 mlwydd oed at ei gilydd ar un o gaeau'r tirfeddiannwr, Eirwyn Harries, er mwyn gosod y cylch.

Dywedodd John Cwmbetws wrth Cymru Fyw: "Dath yr argymhelliad oddi wrth pobl y fro, pobl wledig ardal Llantwd, amaethwyr y rhan fwya' ohonyn nhw, y byddai'n dda o beth ac yn destament parhaol gyda ni i'r Eisteddfod."

Mae'r cylch yn cynnwys 12 o feini glas bro'r Preseli Ffynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cylch yn cynnwys 12 o feini glas bro'r Preseli

Cerrig glas i Eisteddfod y Garreg Las

Ers Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau ym Mharc y Faenol yn 2005, mae Cylch yr Orsedd 'dros dro' yn cael ei gosod ar faes y brifwyl gan ddefnyddio meini plastig.

Bydd y seremonïau i groesawu aelodau newydd i'r Orsedd ar y dydd Llun a'r dydd Gwener yn parhau i gael eu cynnal yng Nghylch yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod, ond dywed John Cwmbetws bod "croeso cynnes" i unrhyw un ymweld â'r cylch o feini glas Y Preseli.

"Mae'r cylch ar batsyn glas o dir agored yn ffinio 'da'r hewl ar y ffordd i'r Maes felly mae cyfle i'r cyhoedd fynd i'w gweld nhw a'u hedmygu nhw," meddai.

"Mae'n gylch hardd a godidog, a beth sy'n gwneud y cylch hyd yn oed yn fwy arbennig yw perthnasedd y cerrig o ble maen nhw wedi dod gyda theitl yr Eisteddfod eleni, sef Y Garreg Las."

Roedd angen nerth bôn braich a nerth bôn peiriant i greu'r cylchFfynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen nerth bôn braich a nerth bôn peiriant i greu'r cylch

Ac mae John yn hynod ddiolchgar i Eirwyn Harries am roi darn o dir ar gyfer y cylch.

"Fe ddywedodd Eirwyn, sydd mor angerddol am y 'Steddfod, 'dwin rhoi'r tir achos dwi am fod yna destament parhaol i'r ardal hon, bod 'Steddfod Y Garreg Las wedi bod ar y tiroedd yma'.

Mwy o waith caled a dilyn y mesuriadau cywir i greu'r cylch perffaithFfynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Mwy o waith caled a dilyn y mesuriadau cywir i greu Cylch yr Orsedd

Mae Sir Benfro yn enwog am ei meini gleision ac mae lle i gredu mai cerrig glas o ardal Carn Menyn ym mynyddoedd Y Preseli a gafodd eu defnyddio i ffurfio Côr y Cewri.

John fu'n egluro sut y cafodd cerrig glas bro'r Preseli eu defnyddio i adeiladu'r cylch yn Llantwd:

"Digwydd bod mae gen i deulu yn ffermio ar odrau'r Preselau ym Mynachlog-Ddu a thrwy eu caredigrwydd a'u haelioni nhw, fe aethon ni'n dair tractor a trailer i nôl rhyw 15 o feini glas o dir ffarm yn ardal Mynachlog-Ddu, sef Fferm-Y-Capel.

"Cludwyd nhw i fyny a dydd Sadwrn dwetha oedd y campwaith o'u rhoi nhw at ei gilydd i ffurfio cylch o 12 a Maen Llog.

Gosod y meini yn y tirFfynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Gosod y meini yn y tir

Ynghanol y cylch mae'r Maen Llog gwastad sy'n gwasanaethu fel llwyfan ar gyfer yr Archdderwydd.

"Ni wedi creu Maen Llog i'r filimetr yn unol â chanllawiau'r orsedd, ac mae'r cylch hefyd yn wynebu'r dwyrain fel mae fod."

Gweithwyr balch ar y Maen LlogFfynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr balch ar y Maen Llog

'Roedd y cymdeithasu mor bwysig â'r gweithredu a'r adeiladu'

Dechreuodd y criw o wirfoddolwyr ar y gwaith am 10 y bore a gorffennwyd y gwaith am dri yn y prynhawn.

"Roedd yn rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn amaethwyr a gawson ni fenthyg dau beiriant gan gwmni Alan James a Gerallt Davies yn lleol am ddim.

"A dyna ni, maen nhw yna a byddan nhw 'na ar ôl ein hamser ni a bydd pobl yn gallu cerdded heibio a dweud 'Mae'n amlwg bod yna 'Steddfod wedi bod yn Llantwd'".

Fe ddaeth Arwyddfardd yr Orsedd, Y Parchedig Beti Wyn James draw i helpuFfynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Arwyddfardd yr Orsedd, Y Parchedig Beti Wyn James draw i helpu a thorchi llawes

Roedd John a'r gwirfoddolwyr gweithgar yn falch o ymweliad a chwmni'r Parchedig Beti Wyn James sef Arwyddfardd yr Orsedd yn ystod y dydd hefyd.

"Gawson ni'r golau gwyrdd a llaw bendith yr Arwyddfardd wrth iddi ddod ar ei thro draw i weld y gwaith yn mynd yn ei flaen," eglurai John.

Ac i gloi diwrnod caled o waith roedd yn rhaid dathlu gyda phicnic yng Nghylch yr Orsedd.

"Aeth y bonheddwr Eirwyn Harries lawr i Aberteifi i archebu sglodion a selsig i ni gyd a'r Arwyddfardd.

"Roedd y cymdeithasu mor bwysig â'r gweithredu a'r adeiladu. Bydd yna nawr i aros ac yn goroesi ein hamser ni ar y ddaear hon."

Sglodion a selsig yng Nghylch yr Orsedd derfyn dyddFfynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Sglodion a selsig yng Nghylch yr Orsedd derfyn dydd

Gydag ychydig dros fis i fynd tan Eisteddfod y Garreg Las, sut mae John yn teimlo ac yntau'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith?

"Rwy'n edrych ymlaen i fwynhau, mae rhestr o dros 1000 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan wahanol bwyllgorau gweithgar," meddai.

"Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser arwain gyda chydweithwyr sydd wedi bod mor hawddgar a mor brysur ar draws tiroedd y dair sir.

"Tîm da sy'n gwneud y freuddwyd yn fyw."

Sglodion i bob gwirfoddolwr yn cael ei weini oddi ar y Maen Llog ar ôl diwrnod caled o waithFfynhonnell y llun, John Cwmbetws
Disgrifiad o’r llun,

Sglodion i bob gwirfoddolwr yn cael ei weini oddi ar y Maen Llog ar ôl diwrnod caled o waith

Englyn gan Cerwyn Davies

O'r mawn a thir y mynydd - y cariwyd

y cerrig ysblennydd,

y gleision lwmp a'u swmp sydd

yn harddu tymor hirddydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.