Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod y Garreg Las

- Cyhoeddwyd
Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Nhyddewi a oedd yn rhan o lansiad dathliadau 850 mlwyddiant yr Eisteddfod.
Cafodd y Goron ei chynllunio gan Elen a Dylan Bowen, a'r crefftwr lleol Tomos Lewis sydd wedi cynllunio a chreu'r Gadair.
Bydd modd gweld y Gadair a'r Goron mewn arddangosfa arbennig yng Nghastell Aberteifi tan ddiwedd Gorffennaf ac yna bydd y ddwy'n cael eu cludo i faes Eisteddfod y Garreg Las.
Y Goron
Mae'r Goron yn cael ei chyflwyno gan deulu'r Parchedig W J Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro'r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal.
Mae'r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan bapur bro Y Cardi Bach er cof am eu cyn-olygyddion Mrs Rhoswen Llewellyn a'r Parchedig Euros Wyn Jones.
Cafodd y Goron ei chynllunio a'i chreu gan Elen a Dylan Bowen, gŵr a gwraig, yn eu gweithdy yng Nghastellnewydd Emlyn.
Mae'r Goron yn cael ei chyflwyno am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y testun 'Adnabod'.
Y beirniaid eleni yw Damian Walford Davies, Gwynfor Dafydd a Nia Powell.

Cafodd y Goron ei chynllunio a'i chreu gan Elen a Dylan Bowen
Cafodd gwneuthurwyr y Goron eleni eu hysbrydoli gan yr hen ddihareb amaethyddol, 'Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug', sy'n cyfeirio at ansawdd gwahanol dirweddau.
Dywedodd Elen: "Rydyn ni wedi ceisio cyfleu y tirwedd bryniog yng nghynllun y Goron. Ar fryniau'r Preselau mae cerrig unigol yn sefyll yn browd, ac rydyn ni wedi cynnwys hyn yn y Goron hefyd."
Dyma'r tro cyntaf i Elen a Dylan gynllunio a chreu Coron ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae'r ddau yn credu ei bod yn anrhydedd fawr, yn enwedig gan mai dim ond ers tair blynedd maen nhw wedi bod yn rhedeg eu cwmni gemwaith - Bowen Jewellery.
Mae gan y ddau eu rôl benodol yn y gwaith o gynllunio a chreu gemwaith - Elen yn cyfuno technegau gof aur traddodiadol gyda chelf gyfoes a Dylan yn gofalu am ochr dechnegol y gwaith a sicrhau bod pob darn yn strwythurol gadarn.
Y Gadair
Cafodd y Gadair hefyd ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod y Garreg Las nos Wener.
Y crefftwr, Tomos Lewis sy'n gyfrifol am gynllunio a chreu'r Gadair, ac mae'n cael ei chyflwyno gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae'r wobr ariannol o £750 yn cael ei rhoi gan Geraint a Siân James, perchnogion siop Awen Teifi, Aberteifi.
Testun y Gadair eleni yw 'Llinell neu Llinellau', a'r beirniaid yw Idris Reynolds, Mererid Hopwood a Carwyn Eckley.

Y crefftwr, Tomos Lewis sy'n gyfrifol am gynllunio a chreu'r Gadair
Daw'r coed ar gyfer y Gadair eleni, ynghyd â'r defnydd ar gyfer y glustog a charreg y Nod Cyfrin o ddalgylch Eisteddfod y Garreg Las, a bu hanes a diwylliant yr ardal yn ysbrydoliaeth fawr i Tomos Lewis wrth iddo fynd ati i gynllunio.
Dywedodd Tomos: "Mae blaen y Gadair wedi'i ysbrydoli gan gadair yr Arglwydd Rhys, sydd i'w gweld yng Nghastell Aberteifi. Gosodir y rhifau 2026 allan yn union fel y rhifau 1176 â siâp sgwâr cadarn.
"Mae cefn y Gadair wedi'i greu drwy uno tri darn o bren i gynrychioli'r siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, sef dalgylch Eisteddfod y Garreg Las."
Daw Tomos Lewis yn wreiddiol o Langlydwen.
Mae'n gweithio fel athro Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Caer Elen, Hwlffordd, ac yn rhedeg busnes sy'n arbenigo mewn crefftwaith pren a gwaith ysgythru, sef Dail Pren.
Cyfle i eisteddfodwyr 'ddweud eu dweud' ar ddyfodol y Brifwyl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Cyhoeddi llywyddion anrhydeddus Eisteddfod y Garreg Las
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Bydd seremoni'r Coroni yn cael ei chynnal ddydd Llun 3 Awst am 16:00 a seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener 7 Awst am 16:00.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.