Nic Parry: 'Gwarthus' nad oes carchar i fenywod yng Nghymru

Nic Parry
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nic Parry yn farnwr cylchdaith am 15 mlynedd, tan iddo ymddeol yn 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-farnwr Nic Parry wedi dweud ei bod yn "warthus" nad oes carchar menywod yng Nghymru a bod y system carchardai yn "dadfeilio".

Dywedodd fod y system gyfiawnder a charchardai angen arian ond bod hynny'n anodd yn wleidyddol gan fod cymaint o alw am wariant mewn meysydd cyhoeddus llai dadleuol.

Er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn, meddai, mae angen datganoli trosedd a chyfiawnder.

Dywedodd llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU eu bod yn cynyddu lleoedd mewn carchardai, yn trafod opsiynau ar gyfer canolfan breswyl i fenywod yn Abertawe a bod pobl Cymru yn elwa o'r trefniant datganoli presennol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai eu huchelgais yw gweld cyfiawnder yn cael ei ddatganoli'n llawn.

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd y cyfreithiwr, oedd yn farnwr cylchdaith am 15 mlynedd, fod y system yn wynebu nifer o heriau.

Dywedodd fod y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn carchardai yn broblem ond bod hynny'n gwella, yn dibynnu ar y carchar.

"Y gwarth arall ydy bod yna ddim carchar i ferched yng Nghymru. Maen nhw i gyd yn gorfod mynd allan o Gymru - ac mae hwnna'n rhywbeth eto, mae yna olwg yn cael ei fwrw arno fo," ychwanegodd.

Tra bod y rhain yn faterion penodol i Gymru a'r Gymraeg, ychwanegodd fod problemau ehangach yn y system oherwydd cynni ariannol.

Disgrifiad,

Mewn cyfweliad gyda Beti George ar faes Eisteddfod y Garreg Las, dywedodd Nic Parry fod yna "greisis carchardai" yng Nghymru

Dywedodd fod barnwyr yn cael eu "cyflyru" i ystyried pob opsiwn cyn carcharu troseddwyr gan fod y carchardai'n llawn, ac os ydyn nhw'n cael eu rhoi dan glo "fydd rhaid iddyn nhw gael eu rhyddhau yn gynnar".

"Mae'n system sydd ar hyn o bryd yn dadfeilio, allwn ni ddim gwadu hynny," meddai.

"Mae yna greisis carchardai, ac mae'r gymhariaeth efo gwledydd fel Norwy a Denmarc, lle mae'r carchardai yn llefydd urddasol.

"Pam ddylen nhw fod [yn urddasol]? Wel, y bwriad ydy bod hynny'n helpu i adfer troseddwyr, achos punishment and rehabilitation ydy o i fod. Beth sydd ganddon ni yw punishment and containment a dim arall.

"A pan maen nhw'n dod allan, dydyn nhw wedi cael fawr ddim help ac mae'r un problemau'n dal yna."

Mae Mr Parry wedi bod yn gweithio ym myd y gyfraith ers yr 1980au.

Cafodd ei dderbyn fel cyfreithiwr yn 1982 cyn cael ei benodi yn farnwr cylchdaith yn 2010.

Fe dreuliodd gyfnod hefyd fel cofiadur ar ddechrau'r ganrif, ac roedd yn gyfarwyddwr ar bwyllgor hyfforddiant Cymru yn y Coleg Barnwrol rhwng 2013 a 2017.

Fe gamodd i lawr fel barnwr yn 2025 wedi 15 mlynedd yn y swydd.

Ar hyn o bryd mae'n Llywydd Llys yr Eisteddfod a chadeirydd y Bwrdd Rheoli ac mae wedi bod yn wyneb a llais cyfarwydd fel sylwebydd pêl-droed ers blynyddoedd.

'Ddim yn gwneud synnwyr' nad yw cyfiawnder wedi ei ddatganoli

Dywedodd Mr Parry fod angen deall y rhesymau dros dor-cyfraith er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.

Ond oherwydd diffyg cydymdeimlad gyda throseddwyr ymysg y cyhoedd a chymaint o alw am gyllid mewn meysydd cyhoeddus eraill, mae'n anodd i wleidyddion wario arian ar leddfu'r broblem a chynnig mwy o gymorth i garcharorion, meddai.

O'i brofiad o, fel cyfreithiwr sydd wedi gweithio drwy gydol ei yrfa yn y maes trosedd ac ysgaru, mae canran uchel iawn o droseddau yn deillio o anghyfiawnder a phroblemau cymdeithasol.

"Maen nhw'n dod yn waelodol o broblemau cymdeithasol - tlodi, diffyg addysg, a dyna pam ddylai'r gyfraith gael ei ddatganoli yng Nghymru," meddai.

"Dim pwynt gwleidyddol, ydi o.

"Mae iechyd wedi cael ei ddatganoli, mae gwasanaethau cymdeithasol wedi cael ei ddatganoli, mae addysg wedi cael ei ddatganoli. Mae'r tri peth yna yn gysylltiedig efo pam fod person yn troseddu.

"Felly, os ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r tair ffrwd yna i wella ymddygiad pobl a gwella eu stad nhw, dydi o ddim yn gwneud synnwyr bod [y gyfraith] wedi datgysylltu a dal i gael ei ddelio efo ym Mhrydain."

'Llywodraeth wedi etifeddu system mewn argyfwng'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod Llywodraeth y DU wedi etifeddu system garchardai oedd mewn argwng ac yn bwriadu darparu cannoedd o leoedd newydd yng Nghymru fel rhan o'r "ehangiad mwyaf o leoedd ers Oes Fictoria".

Meddai: "Rydym wedi ymrwymo i leihau nifer y menywod sydd yn y ddalfa, gan fuddsoddi bron i £32m dros y tair blynedd nesaf mewn gwasanaethau cymunedol i fenywod, ac rydym yn parhau i ystyried opsiynau ar gyfer Canolfan Breswyl Menywod Abertawe."

Ychwanegodd bod pobl Cymru yn elwa o fod yn rhan o system gyfiawnder ehangach o dan y trefniant datganoli presennol, a bod cyllid ar gyfer rhai mentrau cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ddatganoli.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau gweld cyfiawnder yn cael ei ddatganoli'n llawn i Gymru, fel sy'n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Ein nod yw creu system gyfiawnder gydgysylltiedig, sy'n rhoi pwyslais ar atal ac sy'n gweithio'n effeithiol, gan adlewyrchu anghenion Cymru a sicrhau canlyniadau gwell i'n cymunedau," meddai llefarydd.

Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar BBC Radio Cymru am 18:00 ar 16 Awst neu ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Y Podlediad Trosedd

Nic Parry sy'n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf dadleuol Cymru