Nic Parry
Beti George yn holi Nic Parry yn Eisteddfod y Garreg 2026. Beti George interviews Nic Parry, former Crown Court judge at Eisteddfod y Garreg Las 2026.
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau.
Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn sylwebu ar gemau pêl-droed ac yn dad ifanc. Ers hynny, mae wedi dringo i frig ei broffesiwn gan ddod yn Farnwr, tra'n parhau â'i waith fel un o sylwebwyr pêl-droed mwyaf adnabyddus Cymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd Llys yr Eisteddfod ac, erbyn hyn, yn daid balch.
Yn ystod y sgwrs mae cyfle i edrych yn ôl dros daith ryfeddol o dri degawd, gan olrhain y datblygiadau yn ei yrfa a'i fywyd personol ers ei ymddangosiad cyntaf ar y rhaglen.
Hefyd, mae'n trafod yr heriau sy'n wynebu carchardai ym Mhrydain, cyflwr y system gyfreithiol, a'i bryder cynyddol am effaith newid hinsawdd.
Ar y Radio
Darllediadau
- Dydd Sul 18:00BBC Radio Cymru
- Dydd Iau Nesaf 18:00BBC Radio Cymru
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people
