Y ddigrifwraig a'r athrawes Mair Garnon James wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Mair Garnon James
Disgrifiad o’r llun,

"O'dd hi'n dipyn o gymeriad, ac mae 'na nifer o straeon eitha' doniol amdani!"

Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r ddigrifwraig a'r athrawes Mair Garnon James sydd wedi marw.

Yn enedigol o Landudoch ger Aberteifi mae hi wedi cael ei disgrifio fel "rhan ganolog" o'i chymuned ac yn "graig o Gymreictod".

Gweithiodd fel athrawes fro yn Llandudoch tan iddi ymddeol yn y 1990au, a bu'n rhan o sefydlu'r ysgol feithrin a changen Merched y Wawr yno.

Roedd hi'n fwyaf adnabyddus fel digrifwraig ac arweinydd nosweithiau llawen, a bu hithau fel Dai Jones a fu farw ddydd Gwener yn arwain y rhaglen Noson Lawen ar S4C.

cyfrol Mair GarnonFfynhonnell y llun, Lolfa

"O'dd hi'n dipyn o gymeriad," meddai'r bardd a'r cyn-brifathro Terwyn Tomos wrth BBC Cymru Fyw, "ac mae 'na nifer o straeon eitha' doniol amdani!"

Ysgrifennodd lyfr Hiwmor Sir Benfro fel rhan o gyfres 'Ti'n Jocian' gwasg y Lolfa, a chyhoeddodd ei hunangofiant, Ody'r Teid yn Mynd Mas?, yn 2013.

Bu'n feirniad mewn sawl eisteddfod a bu hefyd yn Ynad Heddwch a phregethwr cynorthwyol yn Llandudoch.

'Hynaws, caredig a llawn bywyd'

Wrth roi teyrnged i Mair Garnon James ddydd Sadwrn, dywedodd Terwyn Tomos: "O'dd hi'n berson ei chymuned."

"O'dd hi 'di byw yn yr un tŷ o'i genedigaeth tan ei henoed - a'i thad-cu ei hunan o'dd wedi adeiladu'r tŷ hyd yn oed.

"Roedd pawb yn y gymuned - boed yn Gymry Cymraeg wedi'u magu yna erioed, neu yn Saeson dŵad - o'n nhw i gyd yn 'nabod Mair."

Dywedodd fod ganddo sawl atgof melys ohoni - llawer ohonynt yn ddoniol.

Wrth sefydlu Eisteddfod Llandudoch, fe aeth Mr Tomos at Mair Garnon James am gyngor.

"Aethon ni â'r rhestr testunau ati, a 'wedodd hi - ma' fe'n dda, ond ma' fe lawer rhy hir... gad e gyda fi.

"Erbyn es i yn ôl... o'dd e'n hirach na beth o'dd e cynt!"

"O'dd hi'n meddwl y byd o bentref Llandudoch. 'Swn i'n meddwl y byse hi'n hoffi cael ei chofio fel un o ferched 'Llandoch,' yn bendant."

'Menyw gadarn'

Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Peter Hughes Griffiths, un arall o gyfranwyr y rhaglen Noson Lawen fod ganddo "atgofion melys a difyr iawn am gydweithwraig ddawnus tu hwnt a mor hwyliog".

Dywedodd John Davies, cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro ei bod hi'n "gadarn o gyfansoddiad, cadarn ei ffydd a chadarn ei pharch gan bawb oedd yn ei hadnabod.

"Mae'r teid wedi mynd mas am y tro olaf ar un o gymeriadau mawr Lland'och. Coffa da amdani."

Mae hi'n gadael tri o blant, Carys, Meinir ac Emyr. Bu farw ei diweddar ŵr, Jeff James, yn 2008.

Straeon perthnasol