Disgyblion Cwmcarn yn symud
- Cyhoeddwyd

Daeth gweithwyr o hyd i asbestos yn yr ysgol
Bydd disgyblion Cwmcarn yn symud lleoliad ddydd Llun er mwyn parhau a'u haddysg ar ôl i asbestos gael ei ddarganfod yn eu hysgol.
Cafodd Ysgol Cwmcarn ei chau fis diwethaf ar ôl i weithwyr ganfod asbestos yno.
Nawr bydd y disgyblion yn cael eu haddysg ar gampws coleg Gwent yng Nglyn Ebwy.
Dywed y cyngor fod y trefniant dros dro yn costio £1.4 miliwn.
Mae'r penderfyniad yn golygu cludo 900 o ddisgyblion i Lyn Ebwy.
'Tasg enfawr'
Cafodd Ysgol Cwmcarn ei chau ar ddydd Gwener Hydref 15, ar ôl i adroddiad ganfod presenoldeb asbestos yn yr adeilad.
Ers hynny mae blynyddoedd 10,11 a 13 wedi cael gwersi yng nghanolfan berfformio'r ysgol
Mewn llythyr i'r rheini dywedodd y brif athrawes, Jacqui Peplinski, fod swyddogion y cyngor wedi treulio'r wythnos yn cwblhau trefniadau trafnidiaeth a bod y dasg wedi bod yn un enfawr.
"Rydym yn gobeithio dechrau'r diwrnod yng Nglyn Ebwy am 9am ond fe fydd yna ychydig o heblygrwydd pe bai bysiau yn hwyr.
Dywedodd Rhiannon Passmore, aelod cabinet cyngor Caerffili â chyfrifoldeb am addysg, bod swyddogion wedi bod yn cydweithio yn agos gyda'r llywodraethwyr a'r ysgol er mwyn sicrhau bod y plant yn cael eu haddysgu.
"Rydym wedi cymeradwyo bro £1.5 miliwn er mwyn cefnogi'r cynllun ac mae hyn yn dangos ein bod yn benderfynol o ddatrys y broblem
Dywedodd fod y cynllun yn ateb gofynion tymor byr yr ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd.
"Ond nawr mae agen edrych i'r dyfodol a phenderfynu sut mae datrys y broblem yn y tymor hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd30 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012
