Gweilch y Pysgod wedi magu cywion am y tro cyntaf ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae dau gyw gwalch y pysgod wedi eu geni ar Ynys Môn - a hynny am y tro cyntaf erioed, yn ôl arbenigwyr.
Fe wnaeth y cywion ddeor yn gynharach yn yr haf, ac maen nhw bellach wedi gadael y nyth, gyda gobaith y byddan nhw'n dychwelyd yn y dyfodol.
Dywedodd Cyfeillion Gweilch y Pysgod, y grŵp sy'n monitro'r safle preifat, eu bod wrth eu bodd gyda'r newyddion ac yn gobeithio ei fod yn arwydd o ddyfodol disglair i'r adar ar yr ynys.

Mae'r cywion bellach wedi gadael y nyth, ond mae gobaith y byddan nhw'n dychwelyd
Y gred yw bod y pâr sydd wedi magu'r cywion yn un o 300 pâr yn y DU - gyda thua 20 ar draws Cymru.
Mae'r gwryw wedi dod o nyth Glaslyn ger Porthmadog, a'i bartner benywaidd yn dod o nyth ger Carrbridge yn Yr Alban.
Dywedodd y naturiaethwr oedd yn monitro'r nyth, Sion Emlyn Davies fod yr "iâr yma wedi torri record o fod yr iâr ieuengaf yng Nghymru i gael cywion - ac mae'n wych ei bod hi 'di dewis Ynys Môn i 'neud hynny".

Bydd y cywion yn cryfhau dros yr wythnosau nesaf ar gyfer y daith i Affrica
Fe wnaeth y fenyw ddeor yn 2024, a dywedodd Darren Moore o Gyfeillion Gweilch y Pysgod fod ei hoedran yn elfen hanesyddol arall.
"Rydyn ni wrth ein boddau oherwydd hi yw'r aderyn dwyflwydd oed cyntaf erioed i fridio'n llwyddiannus yng Nghymru."
Ychwanegodd ei fod yn "garreg filltir enfawr".
"Rhyngddyn nhw, maen nhw wedi llwyddo i fagu dau gyw iach iawn yn eu tymor cyntaf gyda'i gilydd."
Gweilch Gwarchodfa Glaslyn yn ôl gyda'i gilydd ar nyth newydd
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2025
Gweilch Llyn Brenig: Gobaith wedi siom 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2022
Dathlu 20 mlynedd o wylio gweilch yn Nyffryn Glaslyn
- Cyhoeddwyd12 Awst 2023
Fel arfer mae Gweilch yn mudo i orllewin Affrica, dros 3,000 o filltiroedd i ffwrdd, cyn dychwelyd i Brydain yn y gwanwyn.
Mae Darren yn gobeithio y bydd y cywion yn dychwelyd i Gymru yn y dyfodol.
"Mae'r ddau gyw wedi gadael y nyth yn llwyddiannus yn ystod y dyddiau diwethaf.
"Byddan nhw'n treulio'r wythnosau nesaf yn cryfhau ac yn paratoi ar gyfer mudo i orllewin Affrica, cyn, gobeithio, dychwelyd i Gymru ymhen ychydig flynyddoedd i fridio."
Mae Darren, sy'n byw ym Mhenrhyndeudraeth, wedi bod yn rhan o'r grŵp cadwraeth ers 1999, ac mae'n credu mai dyma un o'r uchafbwyntiau yn ystod y cyfnod.
"Mae hwn ymhlith y pethau gorau rydyn ni wedi gweld. Cawson ni bâr bridio flynyddoedd yn ôl, ond mae hyn wedi rhoi hwb gwirioneddol i ni i gyd."

Dyma'r par cyntaf i fridio ar Ynys Môn, yn ôl arbenigwyr
Mae Sion Emlyn Davies yn naturiaethwr a fideograffydd bywyd gwyllt ac mae wedi bod yn helpu i gadw llygad ar y nyth.
Dywedodd bod hyn yn "hanesyddol" i'r ynys.
"'Da ni 'di cal rhai'n hedfan heibio ond erioed 'di nythu yma ar yr ynys.
"Dwi wrth fy modd efo'r adar," meddai. "Maen nhw'n fawr wrth gwrs," ond yr olygfa wrth iddyn nhw bysgota sy'n "anhygoel".
"Maen nhw'n plymio lawr gyda'u dau grafangau yn cydio mewn pysgodyn a ffwr' a fo... ond mae o'n hedfan i ffwr' gyda'r pysgodyn yn pwyntio ymlaen er mwyn gwneud hi'n haws hedfan."
Oherwydd oedran y pâr doedden nhw ddim yn disgwyl cywion mor fuan esboniodd cyn nodi bod yr iâr wedi torri record drwy fod yr iâr ieuengaf yng Nghymru i gal cywion.
"Pan welon ni ddau ben bach yn codi o'r nyth odd hynny'n foment enfawr," meddai.
Mae disgwyl i'r Gweilch ddechrau ar eu taith yn ôl i Affrica'n fuan ond mae Sion yn dweud bod y niferoedd yn cynyddu yma yng Nghymru.
"Blwyddyn diwethaf oedd yna 21 o ardaloedd bridio yng Nghymru a 36 o gywion.
"Blwyddyn yma ar ôl cyfri bob un mae 'na 25 o safleodd bridio a 47 o gywion."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.