'Marwolaeth fy ngŵr tra'n disgwyl am ambiwlans ddim yn deg'

Carol Field
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carol Field bod marwolaeth ei gŵr wedi bod yn "hollol ddinistriol" i'r teulu

  • Cyhoeddwyd

Mae gweddw dyn fu farw wedi iddo ddisgwyl awr am ambiwlans ar ôl cael ataliad ar y galon wedi dweud bod marwolaeth ei gŵr "ddim yn deg".

Bu farw'r cigydd David Field yn ei gartref yn Llanfair-ym-muallt ar 7 Rhagfyr 2024.

Dywedodd ei wraig Carol ei bod wedi galw'r gwasanaethau brys ar ôl i'w gŵr ddatblygu poenau yn ei frest a throi'n "llwyd".

O'r alwad gyntaf honno, dywedodd ei bod wedi cymryd awr a hanner i ambiwlans gyrraedd.

Bu farw Mr Field er gwaethaf ymdrechion ei deulu a chymdogion, fu'n perfformio CPR arno tra'n disgwyl i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod yn ymchwilio i'w ymateb i achos Mr Field, ac y bydd y canfyddiadau yn cael eu rhannu wedi i'r ymchwiliad ddod i ben.

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd y maen nhw'n ymateb i alwadau 999 ers 2024, a'u bod yn dal i weithio er mwyn lleihau amseroedd aros.

David Field Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw David Field yn ei gartref yn Llanfair-ym-muallt ar 7 Rhagfyr 2024

Yn siarad am y diwrnod hwnnw fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd Ms Field ei bod wedi galw am ambiwlans wedi i'w gŵr gwyno am boenau yn ei frest, a'i bod wedi cael gwybod y byddai'n cymryd "tair i chwe awr" i gyrraedd.

Dywedodd Ms Field ei bod wedi cael gwybod y byddai'n rhaid iddi ei gludo i'r ysbyty ei hun - tair 45 munud dros y ffin i Henffordd.

Pan ofynnodd beth ddylai hi wneud pe bai'n cael ataliad ar y galon ar y ffordd, y cyngor, meddai, oedd y dylai stopio a galw am ambiwlans.

"'Naeth e eistedd yn y gadair a dechrau cael ataliad, ac wedi hynny fe ddechreuon ni gyda'r CPR," meddai Ms Field.

"Roedden ni ar y ffôn gydag ambulance control, felly roedden nhw'n gwybod y sefyllfa a pha mor wael oedd pethau, ac fe wnaeth hi dal gymryd awr a hanner i'r ambiwlans gyrraedd ni ers yr alwad gyntaf.

"Dyw hynny ddim yn iawn. Pam ddylai e fod wedi gorfod dioddef fel 'yna?"

'Pam ddylen i orfod gadael?'

Roedd Mr Field, oedd wedi cael stent wedi'i osod yn ei galon yn gynharach yr wythnos honno, wedi dechrau cael ataliad ar y galon tua awr cyn i'r ambiwlans gyrraedd, meddai ei wraig.

Mae hi'n mynnu y dylai ei driniaeth ddiweddar fod wedi golygu ei fod yn cael ei ystyried yn "berson risg uchel".

"Roedden ni ar y ffôn yr holl amser, yn cael cyngor ar sut i roi CPR. Roedden nhw'n gwybod pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa," meddai Ms Field.

"Roedd gen i nyrs yn y tŷ oedd yn perfformio CPR ac roedd cymydog - swyddog tân wedi ymddeol - yn helpu, felly roedd ganddyn nhw hyfforddiant meddygol a chymorth cyntaf, a wnaethon nhw dal ddim gyrru ambiwlans."

Wedi i'r ambiwlans gyrraedd, dywedodd Ms Field ei bod hi a'i theulu wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i roi'r gorau i'r ymdrechion i achub ei gŵr, gyda niwed wedi'i achosi i'w ymennydd.

Disgrifiodd ei gŵr fel "wyneb" Llanfair-ym-muallt - rhywun y byddai pobl "wastad yn gweld ar y stryd".

"Mae wedi bod yn hollol ddinistriol i ni," meddai.

"Dyma fy nghartref. Ges i fy ngeni yn Llanfair-ym-muallt a rydw i wedi byw yma trwy gydol fy mywyd.

"Pam ddylen i orfod gadael a bod yn nes at ysbyty os ydw i angen gofal iechyd?"

Yr ardal wedi'i 'hesgeuluso'

Ychwanegodd ei bod yn teimlo fod yr ardal yn cael ei "hesgeuluso" gan wasanaethau ambiwlans ac iechyd.

"Os ydyn ni angen ambiwlans, ni angen ambiwlans," meddai Ms Field.

"Does gennym ni ddim gwasanaethau tacsi yma - mae angen i ni ddibynnu ar ein ceir ein hunain os allwn ni ddim cael ambiwlans.

"A'r bobl hynny sydd angen ambiwlans ar gyfer sefyllfaoedd difrifol - strôc, ataliad ar y galon neu ddamweiniau difrifol - allan nhw ddim cael ambiwlans."

Cerbyd y gwasanaeth ambiwlansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd y maen nhw'n ymateb i alwadau 999 ers 2024

Daeth sylwadau Ms Field wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r ystadegau diweddaraf ar amseroedd ymateb ambiwlansys a rhestrau aros am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd.

Tra bod pryderon yn parhau am rai o ffigyrau amseroedd aros bwrdd iechyd y gogledd, mae'r chwe bwrdd arall yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yng nghyfanswm y triniaethau sydd eto i'w cwblhau.

Ond mae pedwar bwrdd iechyd wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth.

Mae disgwyl y bydd problemau gydag adrodd rhai o ffigyrau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael eu datrys erbyn mis nesaf.

Roedd y Gweinidog Iechyd, Jeremy Miles, wedi addo na fyddai neb yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth erbyn diwedd mis Mawrth 2026 ac roedd yn "hyderus" y byddai modd cyrraedd y targed.

Ond mae prif weithredwr newydd GIG Cymru, Jacqueline Totterdell wedi dweud na fydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cyrraedd y targed hwnnw erbyn y gwanwyn.

Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y galwadau mwyaf brys i'r gwasanaeth ambiwlans, ond mae amseroedd ymateb ar gyfer y ddau gategori mwyaf brys wedi gwella.

'Cymryd camau i leihau oedi'

Yn ymateb i achos David Field dywedodd Liam Williams, cyfarwyddwr gweithredol ansawdd a nyrsio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Ry'n ni'n dal i gydymdeimlo'n arw gyda Ms Field a'i theulu yn y cyfnod anodd yma.

"Rydyn ni'n dal i drafod gyda'r teulu ac yn ymchwilio i'n hymateb i achos Mr Field, ac wrth gwrs byddwn yn rhannu ein darganfyddiadau gyda nhw unwaith y daw'r ymchwiliad hwnnw i ben.

"Ers 2024 rydyn ni wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd yr ydym yn ymateb i alwadau 999.

"Dan y drefn newydd mae sgrinio cyflym gan barafeddygon a nyrsys yn yr ystafell reoli hefyd yn helpu ni adnabod cyflyrau sydd angen ymateb brys fel trawiadau ar y galon yn gyflymach er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.

"Mae byrddau iechyd yn dal i gymryd camau i leihau'r oedi y mae criwiau yn ei wynebu wrth drosglwyddo cleifion i'n cydweithwyr mewn ysbytai.

"Mae hyn yn gam pwysig er mwyn sicrhau bod ein hambiwlansys ar gael i ymateb i fwy o achosion yn y gymuned."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig