Gyrwyr wnaeth ddifrodi ardal warchodedig wedi eu dal trwy fideos TikTok

Dangosodd cyfrifon TikTok sy'n gysylltiedig â'r grŵp luniau a fideos ohonyn nhw'n achosi "difrod difrifol"
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi'u cael yn euog ar ôl i fideos ohonyn nhw'n achosi difrod i ardal warchodedig mewn cerbydau 4x4 gael eu postio ar TikTok.
Roedd John Robinson, Michael Williams a Joseph Hodgson yn rhan o grŵp a yrrodd y cerbydau o Lerpwl i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Berwyn, Sir Ddinbych.
Cafodd Robinson a Williams ddirwy o dros £2,000 yr un a'u gwahardd rhag gyrru am ddeufis.
Ni wnaeth Hodgson ymddangos yn y llys, ond fe'i cafwyd yn euog o achosi difrod troseddol.
Dywedodd Kirsty Roberts o Gyfoeth Naturiol Cymru, fod Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu gwarchod oherwydd eu bod yn cynnal bywyd gwyllt bregus a rhai o'r rhywogaethau pwysicaf yn y DU.
Clywodd Llys Ynadon Wrecsam ddydd Iau fod saith cerbyd 4x4 wedi teithio o Lerpwl i'r safle – sy'n cael ei warchod o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad – ar 1 Mehefin 2025.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y cerbydau wedi teithio ar draws tir preifat i gopa Moel Fferna, gan adael "olion teiars enfawr a difrod" mewn mawndiroedd a chorsydd, sy'n "brin ac wedi'u gwarchod".
Cafodd clo giât ei dorri a chafodd arwyddion eu "rhwygo i lawr" i alluogi i'r cerbydau gael mynediad, er gwaethaf "arwyddion clir" yn gwahwardd cerbydau preifat.
Dangosodd cyfrifon TikTok sy'n gysylltiedig â'r grŵp luniau a fideos ohonyn nhw ar y safle yn achosi "difrod difrifol" i'r ardal, ac yn "gadael olion dwfn wrth fynd i mewn i'r cors".
Mae'r cynnwys hefyd yn dangos bod yn rhaid i'r grŵp dynnu dau o'r cerbydau ar ôl iddyn nhw fynd yn sownd, gan achosi rhagor o niwed i'r amgylchedd.
Dosbarthodd CNC y difrod mwyaf difrifol fel effaith Categori 2, sy'n cael ei ddiffinio fel "niwed sylweddol" i gynefin gwarchodedig, "gyda rhychau dwfn yn achosi difrod hydrolegol hirdymor nad oes modd ei ddadwneud, sy'n cyfyngu ar adferiad naturiol".
Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wedi'u gwarchod yn gyfreithiol oherwydd eu bod yn cynnwys nodweddion arbennig, gan gynnwys cynefinoedd dan fygythiad, rhywogaethau prin neu ddaeareg bwysig.
Yn ogystal â chynnwys ardaloedd helaeth o gorgors – math prin o dir mawn – mae'r ardal yn y Berwyn hefyd yn bwysig ar gyfer adar sy'n bridio, ac yn cynnal rhywogaethau gan gynnwys y grugiar ddu a'r gylfinir.
'Tanseilio ymdrechion cadwraeth hirdymor'
Plediodd Robinson yn euog i achosi difrod troseddol, ac fe gyfaddefodd Williams ei fod wedi difrodi'r safle hynafol mewn gwrandawiad cynharach.
Clywodd y llys fod Hodgson – a fethodd y gwrandawiad – wedi derbyn yn flaenorol ei fod wedi achosi difrod i'r safle. Mae gwarant i'w arestio er mwyn ei ddedfrydu.
Dywedodd Kirsty Roberts o CNC, fod corgors yn rhan hynod fregus o fywyd gwyllt y DU.
"Unwaith y mae o'n cael ei rwygo gan rychau dwfn, gall y cydbwysedd dŵr newid am flynyddoedd, gan ddiraddio'r cynefin a lleihau'r gallu i storio carbon," meddai.
"Mae gyrru anghyfreithlon hefyd yn effeithio ar ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n rheoli'r tirweddau preifat hyn, gan amharu ar waith ffermio, cynyddu costau, a thanseilio ymdrechion cadwraeth hirdymor."
Bydd timau arbenigol CNC hefyd yn gwneud gwaith adfer tir mawn i helpu i adnewyddu'r safle.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.