Datgelu rhestr fer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Enillwyr Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2025
- Cyhoeddwyd
Mae 32 o bobl a grwpiau o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2026 y BBC.
Bwriad y gwobrau yw dathlu pobl sy'n helpu eraill ac yn cyfrannu i'w cymunedau lleol.
Cafodd y rhai sydd ar y rhestr fer eu dewis o bron i 500 o enwebiadau dros wyth categori.
Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru Wales, Garmon Rhys: "Mae'r gwobrau hyn mor bwysig o ran tynnu sylw at arwyr tawel Cymru, ac rydym ni'n edrych ymlaen at ddathlu'r unigolion gwych sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y seremoni yn nes ymlaen eleni."
Cafodd y gwobrau eu cynnal yng Nghymru am y tro cyntaf y llynedd, ac roedd yr enillwyr yn cynnwys siop gymunedol yn Bwcle, elusen er cof am fachgen tair oed, ci therapi, campfa mewn sied ar fferm, ac ymgyrchydd ifanc dros yr amgylchedd.
Gwobr Egnïol
Gobr i unigolyn neu grŵp sydd wedi defnyddio gweithgarwch corfforol neu chwaraeon i wella bywydau pobl yn eu cymuned.
Ray Woolley, Sir y Fflint
Mae Ray wedi codi arian i Cancer Research UK ers dros 50 mlynedd. Fel rhan o hynny, mae'n cwblhau her flynyddol drwy rwyfo o Gei Connah i Gaer.
Emma Parry, Abertawe
Sefydlodd Emma brosiect ADHD Calon ar ôl colli ei merch. Mae'r prosiect yn trefnu gweithgareddau fel ioga, bocsio a dringo dan do, ac yn cynnig lle i deuluoedd ddod at ei gilydd.
Raymond Barnes, Wrecsam
Mae Raymond yn dysgu bowls i bobl o bob gallu, gan gynnwys pobl sy'n gwella ar ôl strôc, pobl ddall neu rannol ddall, a phobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Trawsnewidiodd lawnt bowlio adfeiliedig yn glwb cymunedol.
Rehnaz Khan, Clwb Rhedeg Caerdydd i Bobl â Nam ar eu Golwg, Caerdydd
Creodd Rehnaz glwb rhedeg i bobl â nam ar eu golwg yn 2025. Mae'r clwb yn dod â rhedwyr a thywyswyr gwirfoddol at ei gilydd.
Gwobr Anifeiliaid
Dyma wobr i anifail sy'n gwella bywydau pobl, neu i unigolyn neu grŵp sy'n gwella lles anifeiliaid.
Mili y ci therapi gwirfoddol, Gwynedd
Mae Mili yn ymweld ag ysgolion, ysbytai, prifysgolion a llyfrgelloedd. Mae hefyd yn ymweld ag unedau gofal dwys.
Gareth Richards, Abertawe
Mae Gareth yn gweithio dros les morloi, gan gynnwys ymgyrchu i wahardd cylchoedd hedfan plastig. Mae'n rhedeg elusen Grŵp Morloi Gŵyr ac yn gwirfoddoli gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Lloches Ceffylau Woodfield, Abertawe
Mae'r lloches yn achub anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael neu eu hesgeuluso, ac yn gofalu amdanyn nhw.
Dylan Allman, Blaenau Gwent
Ar ôl dod o hyd i ddraenogod yn ei ardd, dechreuodd Dylan ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Mae ei waith wedi cynnwys perswadio gweithgynhyrchwyr i roi sticeri rhybudd ar beiriannau gardd.
Y llynedd fe wnaeth Sion Telor y ci ennill wobr am ei waith yn nosbarth Dawns ar Gyfer Parkinson's Pontio, Bangor
Gwobr Grŵp Cymunedol
Gwobr i grŵp sydd wedi helpu i newid bywydau pobl yn eu cymuned.
Meddwl.org, Sir Gaerfyrddin
Elusen iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yw Meddwl.org. Mae'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ac yn rhannu gwybodaeth am gymorth iechyd meddwl.
Gwirfoddolwyr Tir Dewi, cenedlaethol
Mae Tir Dewi yn cefnogi ffermwyr a'u teuluoedd ledled Cymru. Mae gwirfoddolwyr yr elusen wedi cyfrannu miloedd o oriau o gymorth.
The Queer Emporium, Caerdydd
Mae The Queer Emporium yn cynnig lle i bobl ddod at ei gilydd, gan gynnig caffi, silffoedd llyfrau, digwyddiadau cymdeithasol, nosweithiau comedi a chlybiau crefft.
Cwtch Baby Bank, Rhondda Cynon Taf
Sefydlodd Hilary Johnson Cwtch Baby Bank ar ôl 20 mlynedd o faethu plant. Mae'r elusen yn cefnogi teuluoedd ifanc ac agored i niwed drwy ddarparu offer, dillad a hanfodion i fabanod.
Gwobr Codi Arian
Dyma wobr i unigolyn neu grŵp sydd wedi codi arian at achos da.
Megan Jones-Roberts, Aberystwyth
Mae Megan yn trefnu digwyddiadau i godi arian i elusennau yng Nghymru. Mae hi hefyd yn weithgar gyda Chymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Raymond Roberts, Caerdydd
Mae Raymond wedi trefnu pedwar digwyddiad elusennol bob blwyddyn ers dros 45 mlynedd. Mae'r digwyddiadau wedi codi arian at achosion fel gofal canser, cymorth dementia ac ysbytai lleol.
Chris Daniel, Merthyr Tudful
Dechreuodd Chris godi arian er cof am ei wraig, Rita Daniel. Mae'n dringo i gopa Pen y Fan ac yn ôl dair gwaith y dydd, bum diwrnod yr wythnos, i godi arian i Bowel Cancer UK.
Abdul Seckam, Caerdydd
Mae Abdul wedi codi degau o filoedd o bunnoedd i elusennau dros fwy na 10 mlynedd. Mae ei waith wedi cynnwys ymgyrchoedd cardiau Nadolig, gwerthu gwaith celf a threfnu cyngherddau elusennol.
Gwobr Amgylcheddol
Gobr i unigolyn neu grŵp sy'n gwella neu'n gwarchod eu hamgylchedd lleol.
Environment Centre Swansea, Abertawe
Mae'r ganolfan wedi gweithio ym maes cynaliadwyedd yn Abertawe ers dros 30 mlynedd. Mae ei gwaith yn cynnwys prosiectau i leihau gwastraff a gwella mannau gwyrdd.
Maya Bimson, Powys
Sefydlodd Maya Zero Carbon Llanidloes Di-Garbon. Mae'r prosiectau'n cynnwys Llyfrgell Pethau, lle mae pobl yn rhannu eitemau, a gwaith i gynyddu bioamrywiaeth leol.
Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr, Ynys Môn
Mae'r grŵp yn gofalu am goetir ar Ynys Môn. Mae'r gwaith yn cynnwys gwarchod cynefinoedd a sicrhau bod y coetir ar gael i'r gymuned.
Andrew "Ted" Williams, Sir Gaerfyrddin
Mae Ted wedi gweithio i drawsnewid cyrtiau tennis a'r tir o'u cwmpas ym Mharc y Betws yn ardd gymunedol a bywyd gwyllt.
Gwobr Cymydog Arbennig
Dyma wobr i unigolyn sy'n helpu i wneud eu cymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddo.
Julian Thomas, Sir Benfro
Mae Julian yn helpu pobl yn ei gymuned wledig yn Llanddewi Felffre, gan gynnwys gwaith fel clirio coed sydd wedi disgyn.
Kelly Hayes, Torfaen
Mae Kelly yn trefnu mentrau cymunedol ym Mhont-y-pŵl. Mae'r rhain yn cynnwys blychau elusennol Nadolig i deuluoedd mewn angen.
Delwen Williams, Sir Benfro
Ar ôl symud i Saundersfoot yn 2023, sefydlodd Delwen Gôr y Môr. Mae'r côr yn rhoi cyfle i fenywod 50 oed ddod at ei gilydd.
Sally Thomas, Merthyr Tudful
Mae Sally yn cefnogi pobl yn ei chymuned, gan gynnwys mynd â chymdogion i apwyntiadau a rhoi cymorth pan fydd pobl yn sâl neu wedi cael anaf.
Gwobr Gwirfoddoli
Gwobr i unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned drwy roi o'i amser i helpu eraill.
Christopher Rees, Sober Ninjas, Gwynedd
Sefydlodd Christopher gymuned Sober Ninjas i gefnogi pobl mewn argyfwng. Mae hefyd wedi sefydlu Caffi'r Ogia, sef lle i ddynion siarad am eu hiechyd meddwl.
Wyn Thomas, Ceredigion
Mae Wyn, sy'n gyn-athro ysgol, yn gwirfoddoli ar sawl pwyllgor yng Nghastell Newydd Emlyn.
Kaz Jefferies, Sir Gaerfyrddin
Mae Kaz yn helpu i redeg Canolfan Llanelli ar gyfer Pobl Fyddar. Mae'r ganolfan yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain ac yn cynnig lle cefnogol i bobl ddod at ei gilydd.
Jack Bridger, Pen-y-bont ar Ogwr
Sefydlodd Jack Gerddorfa Gymunedol Porthcawl pan oedd yn 15 oed. Erbyn hyn mae gan y gerddorfa 70 o aelodau, ac mae'n perfformio mewn digwyddiadau cymunedol a chartrefi nyrsio.
Gwobr Arwr Ifanc
Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl ifanc dan 16 oed sydd wedi cael effaith gadarnhaol yn eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
Maisie Humphreys, Ceredigion
Dechreuodd Maisie godi arian i brynu offer synhwyraidd i'w chwaer fach. Mae hi bellach yn trefnu'r ail Nel's Rainbow Run.
Macy Grace Bates, Gwynedd
Mae Macy wedi bod yn codi arian ers pan oedd yn saith oed. Mae hi wedi trefnu partïon plant, rhoi hamperi i gartref preswyl lleol, a chymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol.
Morgan Mace, Gwynedd
Mae Morgan wedi cydlynu ymgyrch i adfer rheilffyrdd hanesyddol yn ardal Caernarfon.
Noa-Rose Alderman, Caerffili
Mae Noa-Rose, sy'n saith oed, wedi codi arian i Meningitis Now ac wedi codi ymwybyddiaeth o lid yr ymennydd.
Y seremoni
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn, 19 Medi mewn seremoni yng Nghaerdydd.
Lucy Owen o BBC Radio Wales a Caryl Parry Jones o BBC Radio Cymru fydd yn arwain y noson.
Mae'r gwobrau'n cael eu beirniadu gan gyflwynwyr o bob rhan o'r BBC, gan gynnwys Owain Wyn Evans o BBC Radio 2, Bablu Shikdar o BBC Asian Network, a'r actores Rakie Ayola.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2025

- Cyhoeddwyd3 Medi 2025

- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2025
