Gweithio i gwmni cemegol yn 'ofnadwy', medd cyn-weithiwr wedi rhaglen Sheen

Michael SheenFfynhonnell y llun, BBC/Wall to Wall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymateb wedi bod yn eang i raglen ddogfen yr actor Michael Sheen sy'n ymchwilio i honiadau bod cymunedau Cymru'n cael eu gwenwyno

GanMeleri Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-weithiwr cwmni cemegol yn ne Cymru'n dweud nad oedd yn gwybod beth oedd y gwastraff gwenwynig yr oedd yn helpu i'w gladdu tra'n gweithio yno, a bod ei offer amddiffyn yn "rhad".

Roedd Stephen Constance, 61, yn gweithio yn ffatri fawr Monsato yng Nghasnewydd yn yr 1990au.

Fe gysylltodd gyda BBC Cymru ar ôl i raglen ddogfen Buried: with Michael Sheen dynnu sylw at waddol gwastraff gwenwynig Cymru.

Ond dim ond crafu'r wyneb y mae'r 14 safle sy'n cael eu crybwyll yn y rhaglen, yn ôl Athro Emeritws o Brifysgol Abertawe. Dywedodd Sue Jordan ei bod hi'n "amser i weithredu nawr".

Cyn i'r rhaglen gael ei darlledu dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu cyflwyno strategaeth Cymru gyfan ar gyfer adfer tir ôl-ddiwydiannol.

Dyw Monsanto ddim yn bodoli bellach a ni wnaeth cwmni cemegau Eastman - sy'n gyfrifol am rai o'u cyn-safleoedd yn y Deyrnas Unedig - ymateb i gais y BBC am sylw.

Mae Mr Constance yn un o ddwsinau o bobl sydd wedi cysylltu â BBC Cymru ar ôl i'r rhaglen agor cil y drws ar Monsanto a'r honiadau am ollwng cemegau polychlorinated biphenyls (PCBs) ddegawdau yn ôl.

Fe wnaeth y cyn-ymgynghorydd amaethyddol, Douglas Gowan, dreulio hanner canrif yn ceisio perswadio awdurdodau i ymchwilio i honiadau o ddympio cemegau, gan gynnwys PCB.

Maen nhw bellach wedi'u gwahardd yn fyd eang.

'Neb yn gwybod yn iawn am y peryglon'

Roed gweithio i gwmni Monsanto yn "ofnadwy" yn ôl Mr Constance.

Wrth edrych yn ôl, dywedodd: "Mae'n eithaf amlwg na chafodd neb wybod yn iawn am y peryglon posib yr oedden nhw'n agored iddo."

Fe gafodd ddiagnosis o ganser follicular lymphoma, ac mae'n gwella erbyn hyn.

"'Dw i ddim yn awgrymu mewn unrhyw ffordd ei fod yn gysylltiedig, ond fe wnes i feddwl am y peth," dywedodd.

Yn y rhaglen ddogfen, mae'r newyddiadurwyr Dan Ashby a Lucy Taylor yn datgelu dogfen gan Monsanto sy'n dyddio 'nôl i 1972 - mae'n dangos bod y cwmni'n gwybod bod PCBs yn beryglus i iechyd pobl, a'u bod yn cau safle yn yr Unol Daleithiau.

Ond ar ôl hynny, fe wnaeth y cwmni barhau i ehangu eu gwaith yn eu ffatri yng Nghasnewydd.

"Dywedodd y llywodraeth yn y DU wrth y diwydiant, 'dy'n ni ddim am roi unrhyw gyfyngiadau ar fewnforio PCBs'," meddai Mr Ashby,

"Felly dyma nhw'n dechrau mewnforio o bob cwr o'r byd, cannoedd o dunnelli o PCBs."

Dywedodd y gwyddonydd yn y rhaglen, Dr Dave Megson, fod y wlad "mewn lle ofnadwy".

"Mae wedi gwneud i mi deimlo'n eitha' anghyfforddus ynghylch rhai o'r safleoedd hynny a'r hyn allai fod wedi digwydd i ffrindiau ac anwyliaid yr holl bobl hynny."

John Browne
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyfreithiwr John Browne yn "drist, ond heb ei synnu" wrth wylio'r rhaglen, meddai.

Mae John Browne yn gyfreithiwr o Bort Talbot sy'n arbenigo mewn clefyd diwydiannol.

"Rydw i wedi delio â hawliadau gan bobl oedd wedi dioddef mathau prin o ganser ac a oedd wedi gweithio yn Monsanto yng Nghasnewydd," dywedodd.

"Beth sy'n gwbl annerbyniol yw'r diffyg atebolrwydd a'r ddiystyriaeth amlwg o iechyd a lles cymunedau eang iawn ledled y wlad. Mae'n arswydus."

Sue Jordan
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond crafu'r wyneb y mae'r ymchwil yn y rhaglen ddogfen, yn ôl Athro Sue Jordan

Dywedodd yr Athro Emeritws Sue Jordan, sy'n ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe, bod angen rhagor o fonitro ac ymchwilio.

Ychwanegodd nad oes dealltwriaeth lawn eto ynghylch pam fod rhai canlyniadau iechyd, gan gynnwys annormaleddau cynhenid ​​ac achosion o farw-enedigaethau, yn ymddangos yn uwch yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU, ac mae hi'n credu bod angen rhagor o ymchwil.

"Hoffwn i'r gweinidog ddweud wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru y byddan nhw'n edrych ar hyn," meddai.

"Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw beth gael ei guddio."

'Dim tystiolaeth ar hyn o bryd'

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod eu huned gwybodaeth a gwyliadwriaeth canser yng Nghymru wedi casglu a dadansoddi "pob achos unigol o ganser" ers y 1970au.

Ychwanegodd: "Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, nid oes unrhyw arwydd bod llygredd amgylcheddol hanesyddol yn gyfrifol am risg uwch o ganser, nac unrhyw glefyd neu salwch arall, yn yr ardaloedd hyn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mynd i'r afael â thir llygredig yn flaenoriaeth.

"Daeth arolwg o awdurdodau lleol gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2015 i'r casgliad bod mwy na 9,000 o safleoedd posib angen ymchwiliadau pellach.

"Tra na fydd bob un o'r safleoedd yma yn peri risg i iechyd y cyhoedd na'r amgylchedd, mae'r ffigwr yma yn dangos graddfa'r sefyllfa sy'n wynebu rheoleiddwyr yng Nghymru.

"Ry'n ni nawr yn bwriadu datblygu strategaeth Gymru gyfan er mwyn adfer tir ôl-ddiwydiannol."

Fe wnaeth y Llywodraeth y DU gyfeirio'r BBC at Lywodraeth Cymru pan ofynnwyd am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.