Ail Symudiad: Teyrngedau celf i Richard a Wyn Jones

- Cyhoeddwyd
Gyda Eisteddfod Y Garreg Las ar gychwyn mae pobl yr ardal wedi bod yn brysur yn addurno eu milltir sgwar i groesawu ymwelwyr i'r brifwyl yn Llantwd.
Ac yng nghanol y celfwaith mae nifer o deyrngedau wedi bod i Richard a Wyn Jones, y ddau frawd o'r ardal bu farw yn 2021.
Roedd cyfraniad y ddau i fyd cerddoriaeth ac i ddiwylliant yng Nghymru yn fawr, drwy'r grŵp pync poblogaidd, Ail Symudiad ac hefyd drwy sefydlu label recordiau annibynnol Fflach a stiwdio recordio yn Aberteifi.
Meddai Dafydd Jones, mab Wyn: "Mae gweld yr holl gelfwaith a'r palets wedi'u addurno fel teyrnged i Ail Symudiad wir yn amazing, a dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi mynd i'r ymdrech i greu rhywbeth er cof am dad a Wyn.
"Er ei bod nhw'n codi tamaid o hiraeth, mae fe'n twymo'r galon i weld faint oedden nhw'n ei olygu i bobol yr ardal. Diolch yn fowr i chi gyd."
Dyma flas o'r teyrngedau gan bobl ardal y Garreg Las:
Sioe Sefyll ar y Sgwâr yn deyrnged i Richard a Wyn o Ail Symudiad
Mari Elen, un o'r awduron, yn trafod y sioe gyda Ffion Emyr















Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
