Crynodeb

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:33 GMT+1 3 Awst

    Mae wedi bod yn ddiwrnod llawn cyffro ar y maes - degau wedi cael eu hurddo bore 'ma a theilyngdod yng nghystadleuaeth y Goron.

    Heno perfformiad olaf sioe boblogaidd Sefyll ar y Sgwâr yn y pafiliwn ac mae sawl grŵp yn perfformio ar Lwyfan y Maes hefyd - yn ogystal nifer o ddigwyddiadau eraill yn yr ardal.

    Mae gohebwyr Cymru Fyw ar y Maes gydol yr wythnos - dewch yn ôl aton ni 'fory ar gyfer ein llif byw o'r Maes.

    Hwyl am y tro a diolch am eich cwmni.

    martin huws
    Disgrifiad o’r llun,

    Llongyfarchiadau i Martin Huws - un o gyn-newyddiadurwyr Cymru Fyw

  2. Lluniau Dydd Llun ar faes Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Laswedi ei gyhoeddi 17:20 GMT+1 3 Awst

    lluniau dydd llun

    Dydd Llun oedd diwrnod seremoni urddo aelodau newydd Yr Orsedd a'r Coroni yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las yn Llantwd.

    Dyma rai o luniau'r dydd o'r Maes.

  3. Y bardd coronog, Martin Huws, yn cael ei holi ar y maeswedi ei gyhoeddi 17:16 GMT+1 3 Awst

    Disgrifiad,

    Profiad emosiynol enillydd y Goron, Martin Huws

  4. Dwy hapus iawn yn y Coroniwedi ei gyhoeddi 17:07 GMT+1 3 Awst

    Roedd yna ddwy hapus iawn yn seremoni y Coroni y prynhawn 'ma - sef gwraig a merch y prifardd newydd - Y Prifardd Martin Huws.

    e
  5. “Da oedd gweld rhychwant o ymdriniaethau â’r teitl gosod – ‘Adnabod’wedi ei gyhoeddi 16:56 GMT+1 3 Awst

    e

    Wrth annerch o’r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Damian Walford Davies, “Daeth un-a-deugain o gynigion – yn gasgliadau a phryddestau – i law. Nid yw hynny o anghenraid yn dynodi ffyniant a iechyd barddoniaeth gyfoes. Ond gellir dweud yn ddiffuant fod i’r gystadleuaeth eleni gryn gyfoeth – a hynny yn syniadol ac o ran crefft. Roedd hyn, yn ei dro, yn cymell asesiadau cysáct a phenderfyniadau anodd i Nia, Gwynfor a mi o ran categoreiddio’r beirdd yn uchelfannau’r gystadleuaeth.

    “Da oedd gweld rhychwant o ymdriniaethau â’r teitl gosod – ‘Adnabod’ – gyda’r rhai mwyaf soffistigedig yn ymwneud â’r thema mewn ffyrdd cyfoes, cynnil annuniogyrchol, ac annogmatig, ac yn trin testunoldeb fel rhywbeth i’w genhedlu yn hytrach na’i bastynu’n anymwybodol.”

    Wrth drafod gwaith Fan[-]go, dywed ei fod yn “Gasgliad ysgytiol o ran thema, ac o ran crefft a chreadigrwydd beiddgar yr ymdriniaeth. Trafodir un o’r themâu mwyaf heriol posibl – thema ddirdynnol ac oesol, sef cam-drin ac ymyrraeth.

    ‘Mor agos at ei gilydd y deuent . . .’ – aralleiriaf Waldo Williams i gofnodi pa mor gystadleuol oedd y safon ar y brig eleni. Ond ni ellir wrth dair coron. Ac nid oedd amheuaeth o fath yn y byd eleni nad oedd teilyngdod.

    “Yr hyn a’n harweiniondd ni at Fan[-]go wedi trafodaeth bellach oedd y cytundeb fod gan ei hawen feiddgar a’i hymdriniaeth ddigyfaddawd â thema affwysol (ac affwysol newydd yn ein barddoniaeth) rym na ellid dianc rhagddo, ac nad oedd yn bosibl ei ddiystyru. Nid oedd y penderfyniad terfynol i bennu Fan[-]go yn fardd coronog Eisteddfod y Garreg Las yn teimlo fel cyfaddawd.

    “Ydy – mae’n heriol ac yn peri anesmwythyd a hyd yn oed aflonyddwch. Fan[-]go oedd y dewis anodd, y dewis heriol. Coroner Fang[-]o yn llwyr haeddiannol – nid am ei bod yn hawdd i’w mwynhau neu’n rhwydd i’w phrosesu, ond oherwydd ei bod hi’n ysgytwol angenrheidiol, yn mynnu ein hamser – yn hawlio ac yn ad-dalu ein hymdrech.”

    Pafiliwn llawn ar gyfer y Coroni brynhawn Llun
    Disgrifiad o’r llun,

    Pafiliwn llawn ar gyfer y Coroni brynhawn Llun

  6. Martin Huws yn ennill Coron Eisteddfod y Gadair Laswedi ei gyhoeddi 16:43 GMT+1 3 Awst
    Newydd dorri

    martinhuws

    Martin Huws yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni.

    Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Martin Huws yn byw yn Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf, ers mwy na 30 mlynedd. Treuliodd ran helaeth o’i yrfa’n y maes newyddiadurol, gan weithio i Golwg, y Western Mail, ac ITV Cymru, cyn ei benodi a threulio blynyddoedd fel uwch-newyddiadurwr ar wefan BBC Cymru, Cymru Fyw.

    Roedd yn gadeirydd cangen Undeb y Newyddiadurwyr ac yn swyddog iechyd a diogelwch lleyg Cymru gyfan. Mae wedi ymddeol ers deng mlynedd.

    Mae wedi cyhoeddi dwy nofel, dwy gyfrol o straeon byrion, cyfrol o farddoniaeth a llyfryn am hanes Caerdydd. Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a’r Cyffiniau 2007 roedd ei nofel, Mae Heddwch yn Brifo yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen.

    Yr Arwyddfardd yn hebrwng y prifardd buddugol i'r llwyfan
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr Arwyddfardd yn hebrwng y prifardd buddugol i'r llwyfan

  7. 'Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug' yn ysbrydoli'r Goronwedi ei gyhoeddi 16:37 GMT+1 3 Awst

    Cafodd gwneuthurwyr y Goron eleni eu hysbrydoli gan yr hen ddihareb amaethyddol, 'Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug', sy'n cyfeirio at ansawdd gwahanol dirweddau.

    Dywedodd Elen Bowen: "Rydyn ni wedi ceisio cyfleu y tirwedd bryniog yng nghynllun y Goron. Ar fryniau'r Preselau mae cerrig unigol yn sefyll yn browd, ac rydyn ni wedi cynnwys hyn yn y Goron hefyd."

    Dyma'r tro cyntaf i Elen a Dylan gynllunio a chreu Coron ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae'r ddau yn credu ei bod yn anrhydedd fawr, yn enwedig gan mai dim ond ers tair blynedd maen nhw wedi bod yn rhedeg eu cwmni gemwaith - Bowen Jewellery.

    Mae gan y ddau eu rôl benodol yn y gwaith o gynllunio a chreu gemwaith - Elen yn cyfuno technegau gof aur traddodiadol gyda chelf gyfoes a Dylan yn gofalu am ochr dechnegol y gwaith a sicrhau bod pob darn yn strwythurol gadarn.

    coronFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  8. Cadarnhad bod 41 wedi ymgeisio am y Goronwedi ei gyhoeddi 16:33 GMT+1 3 Awst

    Mae'r beirniaid wedi rhannu'r beirdd yn bedair rhan - trydydd dosbarth, haen is ac uwch yn yr ail ddosbarth a'r dosbarth cyntaf.

    Wrth sôn am y dosbarth cyntaf dywed Damien Walford Davies - ni mewn "gofod barddonol dychanol"

  9. Gwynfor Dafydd wedi anfon 👑👑 i'w fam pan gafodd e wybod ei fod wedi ennillwedi ei gyhoeddi 16:26 GMT+1 3 Awst

    Doedd Gwynfor Dafydd, un o feirniaid y Goron eleni, ddim am rannu gormod o wybodaeth am y gystadleuaeth eleni, ond dywed ei fod wedi bod yn "waith caled" gan bod cymaint wedi cystadlu ond "bod digon o amser wedi bod i ystyried a thrafod y cerddi".

    Wrth edrych yn ôl ar ei fuddugoliaeth ei hun ddwy flynedd yn ôl, dywed ei fod yn cofio cael galwad ffôn gan Elen Elis, cyfarwydd artistig y Brifwyl.

    "Wnes i ond dweud wrth fy nheulu agosaf a fy athrawes Gymraeg - Miss Catrin Rowlands. Fydden i ddim wedi ysgrifennu o gwbl oni bai amdani hi.

    "Felly 'nes i anfon neges destun ati i hi a dwy emoji o goron i Mam - 'nes i drio ffonio hi ond o'dd hi'n y gwaith a 'naeth hi ddim ateb!"

    Helen Prosser, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn cofleidio ei mab, Gwynfor Dafydd, ar ôl iddo gael ei enwi fel enillydd y GoronFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Helen Prosser, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn cofleidio ei mab, Gwynfor Dafydd, ar ôl iddo gael ei enwi fel enillydd y Goron

  10. Y Goron eleni yn rhoddedig gan deulu y Parchedig W J Gruffydd (Elerydd)wedi ei gyhoeddi 16:23 GMT+1 3 Awst

    Mae'r Goron eleni yn cael ei chyflwyno gan deulu'r Parchedig W J Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro'r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal.

    Mae'r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan bapur bro Y Cardi Bach er cof am eu cyn-olygyddion Mrs Rhoswen Llewellyn a'r Parchedig Euros Wyn Jones.

    Cafodd y Goron ei chynllunio a'i chreu gan Elen a Dylan Bowen, gŵr a gwraig, yn eu gweithdy yng Nghastellnewydd Emlyn.

    Roedd W J Gruffydd yn Archdderwydd (1984-87) ac yn enillydd Coron Eisteddfodau Pwllheli (1955) a Chaerdydd (1960)Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd W J Gruffydd yn Archdderwydd (1984-87) ac yn enillydd Coron Eisteddfodau Pwllheli (1955) a Chaerdydd (1960)

  11. Cyflwyno cynrychiolwyr y gwledydd Celtaiddwedi ei gyhoeddi 16:16 GMT+1 3 Awst

    Ar ddechrau seremoni y Coroni cyflwynir cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd a Gorsedd y Wladfa i'r Archdderwydd, a'u croesawu i'r eisteddfod.

    Dewi Corn a Gwyn Anwyl fydd yn canu'r Corn Gwlad a Jessica Robinson fydd yn offrymu Gweddi'r Orsedd.

    Mae'r ddau yma yn gynrychiolwyr o Orsedd Llydaw
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r ddau yma yn gynrychiolwyr o Orsedd Llydaw

  12. 'Pobol o'r un anian, o'r un rhuddin, o'r un brethyn'wedi ei gyhoeddi 16:15 GMT+1 3 Awst

    Disgrifiad,

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith wrth ei fodd hefo'r cydweithio sydd wedi bod wrth baratoi

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John 'Cwmbetws Davies' wrth ei fodd hefo'r cydweithio sydd wedi bod wrth baratoi at gyfer yr Eisteddfod.

    Gwrandewch arno'n sgwrsio gyda Ffion Emyr ar Radio Cymru.

  13. Actor Hollywood ac actor Pobol Y Cwm yn cystadlu yng Ngwobr Richard Burtonwedi ei gyhoeddi 16:12 GMT+1 3 Awst

    Disgrifiad,

    Mae Hans wedi bod yn brysur yn paratoi dwy fonolog, ac wedi ysgrifennu un ohonynt ei hun

    Mae Hans Obma a ymddangosodd yn Pobol y Cwm yn gynharach eleni wedi dweud y bydd o'n cystadlu yng Ngwobr Richard Burton.

    Mae'r actor, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers Eisteddfod Boduan yn 2023, yn dweud ei fod o'n "nerfus iawn".

    Ychwanegodd fod dysgu un o fonologau Saunders Lewis wedi bod yn anodd gan ei gymharu â "rhywun sydd ddim â Saesneg fel mamiaith yn ceisio dysgu Shakespeare".

  14. Edrych ymlaen at Ŵyl Cerdd Dant Caernarfonwedi ei gyhoeddi 16:00 GMT+1 3 Awst

    JOHN EIFION

    Mae John Eifion, trefnydd yr Ŵyl Cerdd Dant yn edrych ymlaen yn fawr at Ŵyl Cerdd Dant Caernarfon, 'Cerdd Dant yn Cyrraedd y Doc' ym mis Tachwedd.

    Dywedodd ar stondin Cymdeithas Cerdd Dant Cymru: "Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni.

    Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd - 30 mlynedd ers iddi gael ei chynnal yng Nghaernarfon ddiwethaf.

  15. Trefn a hanner - ddylai pawb gael y wisg iawn ar gyfer y diwrnod iawn!wedi ei gyhoeddi 15:52 GMT+1 3 Awst

    trefnFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhinedd Williams - sy'n cael ei hadnabod fel Rhinedd Mair yn yr Orsedd - yw Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd

    Mae'r Orsedd wedi bod yn rhannu lluniau tu ôl y llen ar y cyfryngau cymdeithasol - ac oes mae 'na drefn bendant!

    Eleni mae galw mawr wedi bod am fod yn rhan o'r Orsedd yn y seremonïau - mae'n Eisteddfod hynod boblogaidd!

    Neithiwr roedd pob tocyn i'r Gymanfa wedi'i werthu ac mae pob tocyn i'r sioe sy'n dathlu gwaddol Ail Symudiad - Sefyll ar y Sgwâr hefyd wedi'i werthu.

    gorseddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  16. Does dim angen cael eich urddo i fod mewn gwisg laswedi ei gyhoeddi 15:47 GMT+1 3 Awst

    Mae nifer o bobl yng ngwisg las Yr Orsedd wedi bod ar y maes heddiw. Ond brynhawn yma, mae dwy mewn ponchos glas addas iawn wedi cyrraedd y maes.

    Call iawn Sue a Renae o Aberystwyth! Boed i chi fwynhau crwydro'r maes yn sych grimp.

    poncho
  17. Ciwio am le yn Y Pafiliwn ar gyfer seremoni'r Coroniwedi ei gyhoeddi 15:42 GMT+1 3 Awst

    ciw
    ciw
  18. Ond rhai eisteddfodwyr yn cysgodi rhag y glawwedi ei gyhoeddi 15:32 GMT+1 3 Awst

    Boed o dan yr ymbarél neu o dan do stondinau, mae Eisteddfodwyr yn llwyddo i fochel rhag y glaw yn ystod cawodydd prynhawn dydd Llun ar faes Llantwd.

    mochel
  19. Dim digon o law i rwystro clonc na chiw!wedi ei gyhoeddi 15:22 GMT+1 3 Awst

    glaw
    ciwFfynhonnell y llun, bbc
  20. 41 o gystadleuwyr ar gyfer y Goron yn gryn recordwedi ei gyhoeddi 15:17 GMT+1 3 Awst

    Un o feirniaid cystadleuaeth y Goron eleni yw Gwynfor Dafydd a enillodd y Goron yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.

    Dywed ei bod yn fraint aruthrol cael beirniadu'r gystadleuaeth.

    "Bu'n rhaid i fi ddarllen yr e-bost yn gofyn i fi feirniadu sawl gwaith," meddai.

    "Dwi'n falch bo' fi'n cael beirniadu gyda dau hen ben (Damian Walford Davies a Nia Powell), ac mae wedi bod yn fraint cael trafodaethau helaeth gyda nhw."

    Fe enillodd Gwynfor y Goron ar ei ail gynnig.

    Dywed bod cael 41 yn cystadlu yn gryn record.

    Mae'n credu bod y nifer fwyaf wedi cystadlu pan gystadlodd y tro cyntaf a phan enillodd Catrin Dafydd - 42 i gyd.

    Gwynfor Dafydd enillodd y Goron yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwynfor Dafydd enillodd y Goron yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf