Ymchwil arloesol i glefyd llyngyr sy'n gallu lledaenu o gŵn fferm i bobl

Mae Meredydd Jones yn credu ei fod wedi byw gyda chlefyd hydatid am flynyddoedd cyn gorfod cael triniaeth
- Cyhoeddwyd
"Ro'n i wedi byw 'da fe am yr holl flynyddoedd, heb boen a heb wybod – ond wedyn cael poen ofnadwy."
Meredydd Jones, ffermwr 86 oed o Drecastell ym Mhowys, yn disgrifio ei brofiad o glefyd hydatid – cyflwr prin sy'n risg i ffermwyr defaid yn arbennig.
Mae'n credu ei fod wedi byw am flynyddoedd gyda systiau oedd yn tyfu'n araf ar ei ysgyfaint, cyn cael dwy lawdriniaeth i'w tynnu yn 2018 a 2019.
Mae clefyd hydatid yn cael ei achosi gan lyngyr parasitig (parasitic worms).
Mae'r ffordd mae'n cael ei drosglwyddo i bobl yn rhan o brosiect ymchwil arloesol gan Brifysgol Aberystwyth.
Y nod yw deall pa mor gyffredin yw'r clefyd yng nghanolbarth Cymru, lle mae ymchwilwyr yn dweud ei fod wedi bod yn endemig ers y 1970au.
'O'n i wedi clywed digon amdano fe'
Mae Meredydd Jones yn cofio'r noson ym mis Mai 2016 pan aeth i'r ysbyty – roedd i fod i fynd allan i ginio gyda'i wraig Eileen, ond arhosodd gartref gan ei fod yn teimlo'n sâl.
"Ges i boen ofnadw ar draws fy hun," meddai Mr Jones gan gyfeirio at ei frest, "a gorfod galw ambiwlans ganol nos, a helon nhw â fi yn syth i'r ysbyty yn Y Fenni, a fan'na bues i am 10 diwrnod.
"A chwarae teg i'r meddyg craff iawn, oedd e'n amau y diwrnod cyntaf mai hydatid oedd e."
Dywedodd Mr Jones ei fod eisoes yn ymwybodol o'r clefyd.
"O'n i wedi clywed digon amdano fe – oedd e'n gyffredin yn yr ardal yma. Wy'n 'nabod pobl eraill sy' wedi cael e."
O'r ysbyty yn Y Fenni, cafodd Mr Jones ei gyfeirio at "yr awdurdod pennaf ar hydatid" yn Llundain, lle cafodd ddwy lawdriniaeth yn 2018 a 2019 i dynnu'r systiau – un o bob ysgyfaint.
"Dwi wedi cyfnewid dwy bellen am ddwy graith ar yr asennau!" meddai gan chwerthin, gan ychwanegu bod ganddo syst ar ei afu o hyd.
Roedd llawfeddygon wedi penderfynu peidio â'i thynnu.

Dywedodd Eileen, gwraig Meredydd, fod y cyfnod pan aeth i'r ysbyty yn "ofidus"
Mae clefyd hydatid yn cael ei astudio mewn prosiect ymchwil arloesol gan Brifysgol Aberystwyth.
Mae'r haint, a all fod yn anodd ei drin, yn cael ei achosi gan lyngyr sy'n gallu trosglwyddo o gŵn i bobl, gan achosi systiau sy'n tyfu'n araf ar organau mewnol.
Mae'r clefyd wedi'i ganfod fwyaf mewn ardaloedd ffermio defaid.
Dywed ymchwilwyr fod ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus wedi codi ymwybyddiaeth o hydatid tua 25 mlynedd yn ôl, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi triniaeth i waredu llyngyr yn rheolaidd a hylendid dwylo ar ôl trin anifeiliaid.
Ond yn ôl yr ymchwilwyr, mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod clefyd hydatid yn ymddangos eto mewn defaid a chŵn.
Beth yw clefyd hydatid?
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), er bod y clefyd yn anghyffredin yng Nghymru, mae'n parhau i fod yn "bryder o ran iechyd cyhoeddus oherwydd gallai'r canlyniadau fod yn ddifrifol i'r unigolion yr effeithir arnynt".
Dywedodd Dr Chris Williams, epidemiolegydd ymgynghorol gyda ICC: "Gall fod yn ddifrifol iawn i bobl.
"Fe'i hachosir gan lyngyr, ac fel arfer mae'r llyngyr yn trosglwyddo o anifeiliaid fferm fel defaid a gwartheg i gŵn, a'r cŵn wedyn yn ysgarthu wyau.
"Yn anffodus, os yw pobl yn llyncu'r wyau gall rhain ffurfio systiau yn y corff; ac mae rhain yn annymunol iawn, yn achosi chwyddo, poen ac ati, ac yn gofyn am driniaeth lawfeddygol.
"Ffactor arall sy'n cymhlethu pethau yw y gall gymryd nifer o flynyddoedd i'r cyflwr ymddangos.
"Felly, gallai 10 neu 20 mlynedd fynd heibio ers i chi ddod i gyswllt â'r wyau cyn i chi gael diagnosis.
"Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â'r broblem yn gynnar – pan fyddwn yn dechrau dod o hyd iddi mewn cŵn ac mewn carcasau – yn hytrach nag aros nes bod achosion yn ymddangos ymhlith pobl."

Yn ôl Dr Gwenllian Rees, un o amcanion yr ymchwil yw ceisio deall lefelau'r clefyd yn y canolbarth ar hyn o bryd
Mae'r llyngyr sy'n achosi'r clefyd yn cael ei ystyried yn endemig yng nghanolbarth Cymru oherwydd pa mor gyffredin yw ffermio defaid yn yr ardal.
Mae Dr Gwenllian Rees o Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Prifysgol Aberystwyth yn goruchwylio'r ymchwil, fydd yn astudio sut mae pobl a chŵn yn rhyngweithio ac yn dadansoddi samplau ysgarthion.
Dywedodd Dr Rees: "Mae'n bwysig iawn i ni ddeall lefelau'r clefyd hwn yn y canolbarth ar hyn o bryd, y risgiau i ffermwyr, a'r ffordd y mae'r clefyd hwn yn cael ei drosglwyddo – neu beidio – yng Nghymru.
"Bu ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus achlysurol i annog pobl i drin cŵn rhag llyngyr, sy'n ffordd syml ac effeithiol iawn o atal y clefyd hwn.
"Ry'n ni'n gwybod fod y clefyd wedi diflannu yn dilyn yr ymgyrchoedd hyn, ond mae tystiolaeth gynyddol yn dangos ein bod yn gweld y clefyd eto mewn defaid a chŵn, ac ry'n ni'n poeni y byddwn yn ei weld mewn pobl unwaith eto hefyd."

Fel rhan o'r prosiect ymchwil mae teclynnau tracio GPS yn cael eu gosod ar goleri cŵn defaid
Mae un rhan o'r ymchwil yn cynnwys casglu data ar symudiadau cŵn defaid ar ffermydd yn y canolbarth, trwy osod dyfeisiau tracio GPS ar eu coleri.
Dywedodd Keira Washtell, ymchwilydd PhD, y bydd y dyfeisiau tracio yn help i ddeall sut mae cŵn defaid yn symud ar draws y dirwedd.
"Byddan nhw'n anfon signal sy'n dangos i ni yn union ble mae'r ci wedi symud ar draws y caeau, a yw'n mynd i ffermydd eraill, neu'n symud i ardaloedd cŵn fferm eraill o bosibl.
"Drwy wneud hynny, gallwn gael syniad o sut y gallai'r clefyd, a sut y gallai'r llyngyr, gael eu cludo ar draws y tir."
Disgrifiodd Keira gylch bywyd y parasit hydatid – "Mae'n rhaid i'r ci lyncu'r systiau, falle o rannau o gyrff sy' wedi'u heintio o ddafad neu hwrdd sy' wedi marw mewn cae.
"Y gobaith yw, drwy olrhain eu symudiadau, y cawn ni gliwiau ynghylch a yw hynny wedi digwydd mewn gwirionedd."

10 mlynedd ar ôl iddo gael ei drin gyntaf am y clefyd, mae Meredydd yn dal i fynd i'r bryniau gyda chi defaid i helpu ar y fferm
Dywedodd Dr Chris Williams o ICC mai'r prif gyngor yw cadw cŵn yn iach drwy "ddefnyddio triniaeth gwrth-lyngyr [er mwyn] helpu i leihau'r risg i bobl".
"Mae hylendid, y ffordd o drin anifeiliaid ac ymolchi ar ôl gwaith hefyd yn faterion pwysig.
"Mae angen ymchwil fel hyn – gweithio gyda ffermwyr, milfeddygon ac arbenigwyr iechyd i geisio lleihau'r risg o hyn yn dod yn rhywbeth mwy cyffredin."
10 mlynedd ers ei ymweliad cyntaf â'r ysbyty, mae Meredydd Jones yn dal i helpu ar y fferm, gan weithio gyda defaid a chŵn ar y mynydd.
Mae'n ddiolchgar i'r holl feddygon a oedd wedi'i drin, gan ddweud: "I aralleirio Dafydd Iwan, rwy' yma o hyd!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2025
