Lluniau harddu bro Eisteddfod Y Garreg Las

Mae'r Orsedd yn eu gwisgoedd cywir yn barod yng Nghwm Gwaun
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ardal bro Eisteddfod Y Garreg Las wedi bod yn brysur yn addurno eu milltir sgwar i estyn croeso cynnes i ymwelwyr o bell ac agos i faes y brifwyl yn Llantwd.
Dyma gip ar rai o'r golygfeydd y byddwch yn eu gweld ar y ffordd i'r maes ac wrth grwydro gogledd Sir Benfro a'r cyffiniau.

Ydy wir, mae ysbryd Rebeca'n fyw yn yr Efail Wen o hyd!

Mae Deri a'i thad-cu wedi creu arwydd sy'n deyrnged i un o gewri'r ardal, sef y bardd Waldo Williams, tu allan i'w cartref, Rhosaeron yn Llandysilio.
Dyma gyn-gartref Waldo, a Mewn Dau Gae yw un o'i gerddi enwocaf. A choeliwch neu beidio... mae'r ddau gae a ysbrydolodd Waldo dros ffordd i Rosaeron!

Mae yna dderwyddon yn aros yn eiddgar am fws i faes Llantwd yn Eglwyswrw

Mae plant Ysgol Beca, Efailwen wedi bod yn brysur yn creu trenau Y Cardi Bach

Esta, Teifi a'u mam sydd wedi creu'r arwydd yma yng Nghilrhedyn. Bydd y Welsh Whisperer wrth ei fodd!

A wes heddwch yn Efailwen? Wes!

Croeso cynnes ym Moncath

Mae Poppy ac Ivy o Flaenffos wedi bod yn brysur iawn yn creu arwyddion croeso

Bydd dim dianc rhag yr Orsedd wythnos yr Eisteddfod... maen nhw wedi cyrraedd Crymych hefyd!

Tybed sawl bêl gwair wedi ei addurno fyddwch chi wedi cyfri' yn ystod yr wythnos?

Mae fferm blodau haul 1.5 milltir o'r maes wedi bod yn brysur iawn wrth dorri gwair... edrychwch ar y ddraig yna!

Mae aelodau'r Orsedd yng nghymuned Maenclochog, gan gynnwys Yr Archdderwydd, yn llawn steil

Mae cymuned Pantygrwndy wedi bod yn brysur iawn

Mae yna groeso cynnes a lliwgar iawn yn Abergwaun i Eisteddfodwyr

Beth am alw yn Aberteifi i groesi'r bont enwog?

Mae plant bach cylch meithrin Hermon wedi bod wrth eu boddau'n peintio er mwyn croesawu Eisteddfodwyr hen ac ifanc i'w bro

Mae merched Hwlffordd wedi bod yn brysur iawn yn crosio dros y misoedd diwethaf er mwyn addurno Hwlffordd

Os am hoe o'r Maes beth am fynd draw i Gilgerran ac ymweld â'r castell?

Beth am bostio cerdyn post o flwch post hardd Arberth?
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Mehefin

- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf

