41 wedi cystadlu am Goron Eisteddfod y Garreg Las

- Cyhoeddwyd
Mae 41 wedi cystadlu am Goron Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, a brynhawn Llun yn y pafiliwn byddwn yn cael gwybod a oes teilyngdod.
Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau ar y testun 'Adnabod'.
Damian Walford Davies fydd yn traddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid Gwynfor Dafydd a Nia Powell.

Gwynfor Dafydd enillodd y Goron yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Fe enillodd Gwynfor Dafydd y Goron yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.
Dywed ei bod yn fraint aruthrol cael beirniadu'r gystadleuaeth eleni.
"Bu'n rhaid i fi ddarllen yr e-bost sawl gwaith," meddai.
"Dwi'n falch bo' fi'n cael beirniadu gyda dau hen ben, ac mae wedi bod yn fraint cael trafodaethau helaeth gyda nhw."
Fe enillodd Gwynfor y Goron ar ei ail gynnig, ac mae'n credu bod y nifer fwyaf wedi cystadlu pan gystadlodd y tro cyntaf a phan enillodd Catrin Dafydd - 42 i gyd.
'Trio ffonio Mam, ond 'naeth hi ddim ateb!'
Doedd Gwynfor ddim am rannu gormod o wybodaeth am y gystadleuaeth eleni, ond dywed ei fod wedi bod yn "waith caled" gan bod cymaint wedi cystadlu ond "bod digon o amser wedi bod i ystyried a thrafod y cerddi".
Wrth edrych yn ôl ar ei fuddugoliaeth ei hun ddwy flynedd yn ôl, dywed ei fod yn cofio cael galwad ffôn gan Elen Elis, cyfarwydd artistig y Brifwyl.
"Wnes i ond dweud wrth fy nheulu agosaf a fy athrawes Gymraeg - Miss Catrin Rowlands. Fydden i ddim wedi ysgrifennu o gwbl oni bai amdani hi.
"Felly 'nes i anfon neges destun ati i hi a dwy emoji o goron i Mam - 'nes i drio ffonio hi ond o'dd hi'n y gwaith a 'naeth hi ddim ateb!"

Helen Prosser, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn cofleidio ei mab, Gwynfor Dafydd, ar ôl iddo gael ei enwi fel enillydd y Goron
Roedd y seremoni yn wefreiddiol, ychwanegodd.
"Jyst y cysyniad hwnnw bod rhywun yn codi ymhlith y dorf a neb yn gwybod heblaw cylch cyfyng iawn o bobl - felly mae jyst y rhyddhad wedyn o rannu hynny gyda phawb hefyd yn wefr."
Roedd ei gerdd fuddugol ar gyfer y Goron wedi'i chyflwyno i'w dad-cu, ac mae'n sôn am fywyd yn y cymoedd.
Mae Gwynfor yn parhau i ysgrifennu er bod hi'n "broses anodd ar y dechrau i wneud hynny".
Ar wahân i anogaeth ei athrawes, dywed bod Talwrn y Beirdd hefyd wedi bod o gymorth mawr iddo gan fod yna "destun, deadline a marc allan o 10 gan y Meuryn Ceri Wyn Jones".
Mae seremoni'r Coroni yn cael ei chynnal am 16:00.
Yr wythnos hon yw'r wythnos olaf i'r Archdderwydd Mererid fod yng ngofal y seremonïau, gan fydd ei thymor yn y swydd yn dod i ben wedi seremoni'r Cyhoeddi y flwyddyn nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin

- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
