Owain Rhys: Yr ysbrydoliaeth tu ôl i gerddi'r Goron 2025

Coronau: Owain Rhys gyda'i fam Manon Rhys a'i lystad Jim Parc Nest
- Cyhoeddwyd
Y llenor Manon Rhys a'i mab Owain Rhys yw'r unig fam a mab i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol erioed.
Enillodd Owain y Goron llynedd yn Eisteddfod Wrecsam ac roedd ei fam, Manon Rhys, yn fuddugol degawd ynghynt yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015 gyda chasgliad o gerddi am y thema Breuddwyd.
Ar gychwyn Eisteddfod y Garreg Las, bu Owain yn siarad ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru am ei waith ac am ei fam sy'n byw gyda dementia erbyn hyn. Y cyflwr yma oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i'w gerddi buddugol Adfeilion llynedd.
Ac er gwaethaf y tristwch wrth ysgrifennu am gyflwr iechyd ei fam, mae gan y bardd o Gaerdydd atgofion arbennig am ennill y llynedd: "Y diwrnod mwya' anhygoel yn fy mywyd i. Dw i'n gorfod dweud diwrnod fy mhriodas a geni'r plant, wrth gwrs. A falle bod y diwrnod yn edrych ar Gymru yn chwarae pêl-droed yn Bordeaux yn agos.
"Ond oedd y profiad yn anhygoel. Rollercoaster o emosiynau am ychydig ac erbyn i'r diwrnod gyrraedd roeddwn i wedi cyrraedd rhyw fath o zen ac yn gallu ymlacio a mwynhau'r profiad."

Rollercoaster emosiynol
Profiad emosiynnol oedd ysgrifennu am ei fam, sy'n awdures nofelau gan gynnwys Cysgodion a Cwtsho.
Cafodd Manon Rhys yrfa lwyddianus yn sgriptio cyfresi poblogaidd i'r teledu hefyd ac yn cyd-olygu'r cylchgrawn Taliesin. Enillodd ei nofel Neb ond Ni y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011, 14 mlynedd cyn i'w mab ennill y Goron yn Wrecsam.
Roedd ysgrifennu am bwnc mor bersonol yn anodd ar adegau, fel mae Owain yn sôn: "Roedd hwnna'n cyfri yn ychydig o'r rollercoaster emosiynol.
"O'n i wedi ysgrifennu'r cerddi yma ac oedden nhw wedi dod yn eithaf naturiol ac yn dod o rywle o'n i'n gallu ei gyrraedd yn hawdd.
"'Nes i anfon nhw mewn i'r Goron i weld pa safon o'n i a phan nes i ennill, nes i feddwl 'o na, mae'r rhain mynd i fynd yn gyhoeddus' a ges i byliau o euogrwydd a theimlo yn annifyr.
'Rhoi llais i'r profiad'
"Ond wrth gwrs, wrth i'r amser basio, o'n i'n derbyn bod y cerddi yma yn bersonol, maen nhw hefyd yn berthnasol i gymaint o bobl dyddiau yma yn anffodus.
"Ges i bobl yn dod i fyny ata'i ar y maes yn dweud, diolch am roi llais i'r profiad.
"Felly, dwi'n falch bod fi wedi rhoi rhyw fath o gysur i bobl am hynny."

Coron Eisteddfod Wrecsam 2025
Adfeilion oedd testun y cyfres o gerddi gyda phob un o'r cerddi yn adlewyrchu digwyddiad go iawn.
Eleni, yn Eisteddfod y Garreg Las mi fydd Owain yn cael ei urddo ar y dydd Llun ac yn cyfarch bardd y Goron yn y seremoni yn y prynhawn: "Fe gysylltodd yr Eisteddfod gyda fi i ofyn i fi sgwennu cerdd gyfarch i'r Goron.
"Ac mae honno wedi dod i fwcwl erbyn hyn a gobeithio bod yr Eisteddfod a'r beirdd yn hapus gyda hi.
"Mae Coron y Garreg Las yn goron anhygoel ac mae wedi cael ei ysbrydoli gan hen ddihareb amaethyddol, sef: O dan yr hedyn, aur. O dan yr eithin, arian. O dan y grug, newyn.
"Felly dyna beth mae'r gerdd yn gyfeirio ato. A dwi'n gobeithio y bydd telyngdod achos bydd pwy bynnag enillith y Goron yna yn falch iawn o gael hi yn eu cartref."
Mae Coron Wrecsam yn cael ei chadw'n ddiogel yng nghartref Owain mewn bocs gwydr yn y gegin, meddai: "Ac os oes rhywun yn galw heibio, weithiau maen nhw'n cael ei thrio hi. Ond dim pawb."

Manon Rhys, enillydd y Goron Eisteddfod Genedlaethol Meifod, 2015
Mae gan Owain a'i fam le arbennig yn hanes Coron yr Eisteddfod Genedlaethol fel yr unig fam a mab i ennill. Ac nid yn unig Manon Rhys o'r teulu sy' wedi cyflawni'r gamp: "Mae fy llystad Jim Parc Nest wedi ennill dwy Goron... A dwy Gadair. Felly does dim lle i droi yn ei tŷ nhw.
"Ond oedd e yn od hefyd pan es i nôl i ddarllen cerddi Mam ar ôl anfon fy ngherddi i fewn. Mae yna gysylltiadau yn honno, yn ei cherddi hi o beth ydw i'n gyfeirio ato, neu ella bod yna bach o'r un arddull weithiau.
Gwthio ffiniau
"Oedd e bach yn spooky i fod yn onest. Ond yn amlwg bod Mam wedi bod yn arbrofi gyda llên meicro a gwthio ffiniau o ran beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhyddiaith a barddoniaeth.
"A Jim, wrth gwrs, yn gwthio ffiniau rhwng rheolau'r pedair mesur ar hugain a'r wers rhydd gynganeddol. Felly dwi ddim yn gwybod beth ydy o, ella bod yna rhyw fath o ddiawlineb yno ni yn trio gwthio ffiniau ac yn torri'r rheolau ella."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd4 Awst 2025

- Cyhoeddwyd17 Awst 2015

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2024
