'Neidiais 5,000 troedfedd o awyren - newidiodd fy mywyd am byth'

Does gan Rob Bugden "ddim atgofion o gwbl" o'r ddamwain
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-aelod o'r Awyrlu Brenhinol wedi dweud i'w fywyd newid am byth ar ôl cwympo bron i 1,000 troedfedd yn ystod sesiwn hyfforddiant a aeth o chwith.
Neidiodd Rob Bugden, 40, 5,000 troedfedd o awyren ym mis Ionawr 2016 fel rhan o ymarfer parasiwtio, pan gafodd wrthdrawiad yn yr awyr â chydweithiwr.
Y peth nesaf y mae'n ei gofio yw deffro yn yr ysbyty i ddarganfod bod y gwrthdrawiad wedi achosi iddo blymio i'r ddaear, a'i adael wedi'i barlysu o'r gwddf i lawr.
"Dwi ddim yn ei gofio o gwbl, a wyddoch chi beth? Dwi'n iawn gyda hynny," meddai Rob, 10 mlynedd wedi'r ddamwain.
Ymunodd Rob, o Fro Morgannwg, â'r Awyrlu yn 2008 fel hyfforddwr ymarfer corff, ac arbenigo fel hyfforddwr parasiwtio yn 2015.
Y flwyddyn ganlynol, fe gymrodd ran mewn naid hyfforddi gyda chwe pharasiwtiwr arall.
"Y diwrnod hwnnw, cerddais i lawr yr awyren - y tro olaf i fi gerdded erioed, sy'n rhyfedd iawn pan ry'ch chi'n meddwl amdano," meddai.

Roedd Rob yn hyfforddwr parasiwtio i'r Awyrlu Brenhinol (RAF)
Dywedodd Rob fod y naid wedi mynd "yn dda iawn" i ddechrau "[ond] yna deffrais mewn ysbyty yn Phoenix, Arizona".
Cafodd wybod fod gwrthdrawiad wedi digwydd yn ystod y naid tra roedd tua 1,000 troedfedd yn yr awyr.
"Fe dorrodd y gwrthdrawiad hwnnw fy ngwddf," meddai.
"Cwympodd y canopïau, a chwympon ni tua 900 troedfedd. Yn ffodus, fe wnaethon ni lanio ar dywod, ond yn anffodus, doeddwn i ddim yn y lle gorau."
Roedd y dyn arall yn y gwrthdrawiad yn ffrind iddo.
Cafodd Rob ei daro'n anymwybodol, "sy'n eithaf lwcus mewn sawl ffordd, mae'n debyg ei fod wedi achub fy mywyd".
Roedd ei ffrind yn effro drwy'r cyfan, ond fe dorrodd esgyrn crimog a ffibwla, a rhwygodd ei aren "ond yn fwy na hynny, mae'n cofio popeth," meddai Rob.
Roedd cydweithwyr "talentog iawn ar y ddaear", gan gynnwys aelodau lluoedd arbennig y DU oedd yn ymarfer yn yr un lle.
Ar ôl gweld y gwrthdrawiad, aethon nhw i helpu ar unwaith.
"Hebddyn nhw, dwi ddim yn meddwl y byddwn i'n fyw, felly diolch i bob un ohonyn nhw," myfyriodd Rob.
" Mae'n ymddangos yn air mor ddibwys, ond ie, beth arall alla'i ei ddweud?"

Dywedodd Rob ei fod "mor ddiolchgar" o'i deulu a'i ffrindiau
Cafodd Rob sawl llawdriniaeth yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys traceotomi i'w helpu i anadlu, peg yn ei stumog i'w fwydo, gosod rheolydd calon, triniaeth i soced llygad ac i'r gwddf.
Erbyn hyn roedd Rob wedi'i barlysu'n llwyr ond i "mewn a mas o ymwybyddiaeth drwy'r amser" oherwydd meddyginiaeth gref, felly nid yw'n cofio "llawer iawn".
Ar ôl tua thair wythnos, cafodd ei gludo'n ôl i'r DU ac i Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham, lle "dechreuodd y daith hir" at adferiad.
Dyma, medd Rob, ble y darodd realiti'r sefyllfa ei fod "methu symud".
"Roeddwn i'n dipyn o lanast," meddai.
Dysgodd fod ei llinyn cefn wedi'i wasgu'n ddifrifol a bod ei freichiau a'i goesau wedi'u parlysu.
"Yn y bôn, dyw fy mreichiau na fy nghoesau ddim yn gweithio," eglurodd.
Fe gymrodd amser hir iddo ddeall pa mor wahanol fyddai ei fywyd.
Serch hynny, dywedodd ei fod "yn ystyfnig iawn. Rwy'n credu fy mod bob amser yn iawn... roedd hefyd yn golygu nad oeddwn i'n mynd i roi'r gorau iddi."
Ymhen amser, roedd Rob yn gallu anadlu heb gymorth a dechreuodd gael rhywfaint o symudiad yn ôl yn ei ysgwyddau. Ar ôl blwyddyn, roedd yn gallu bwydo'i hun.
"Hyd yn oed wedyn, roeddwn i'n gollwng y rhan fwyaf ar fy nghrys-T, ond doedd dim ots, oherwydd roeddwn i'n ei wneud fy hun," meddai.
Y cam nesaf oedd lleihai maint yr help yr oedd ei angen ar gyfer pethau fel defnyddio'r tŷ bach, ac ar ôl dwy flynedd roedd yn gallu trin ei gathetr ei hun, a oedd yn teimlo fel cam mawr.
'Mor ddiolchgar'
Heddiw, mae angen gofal ar Rob drwy'r amser, ond mae'n gallu mwynhau gweithgareddau hamdden fel mynd i'r gampfa, treulio amser gyda'i gi Denzel, a mynd i'r dafarn gyda'i ffrindiau.
Tynnu coes mae Rob wrth ddisgrifio Denzel fel "ci diffyg cymorth, am ei fod yn anobeithiol".
"Os oes ieir o gwmpas, dyna ni. Dyw e ddim yn mynd i wrando," chwarddodd.
"Ond mewn gwirionedd, dwi ar goll yn llwyr hebddo. Fy ffrind gorau yw e. Fy amddiffynwr yw e. Mae wedi caniatáu i fi wneud ffrindiau newydd a mynd mas."
Yn ystod ei adferiad hir, cafodd Rob gefnogaeth gan Gronfa Elusennol yr Awyrlu Brenhinol, elusen sy'n cefnogi personél a chyn-bersonél yr Awyrlu a'u teuluoedd.
Roedd Rob newydd brynu ei fflat cyntaf cyn ei ddamwain ond nid alla'i ddychwelyd yno gan fod angen cartref arbenigol wedi'i addasu, felly prynodd ac addasodd ymddiriedolaeth tai'r gronfa gartref iddo.
"Mae gen i fynediad llawn i'r tŷ gydag ystafelloedd gwlyb. Mae gen i ddau declyn codi - un yn fy ystafell wely, un yn fy ystafell fyw - felly gallaf fynd ar fy soffa. Ac rwy'n byw drws nesaf i dafarn, sy'n gyfleus iawn."
Mae Rob wedi gadael yr Awyrlu ac addasu i ffordd o fyw hollol wahanol, ond dywedodd ei fod "mor ddiolchgar" i gael grŵp gwych o ffrindiau a theulu o'i gwmpas i sicrhau nad yw byth ar ei ben ei hun.
Stori ddirgelwch am jet RAF, Ynys Enlli a'r Archdderwydd...
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2025
Dilys Price: Nain, parasiwtydd a model
- Cyhoeddwyd22 Awst 2018
Teyrnged i beilot fu farw mewn damwain paragleidio yn Llanberis
- Cyhoeddwyd18 Medi 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.