Ateb y Galw: Gwion Ellis

Gwion yn paffioFfynhonnell y llun, Sweetscience_media
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Gŵr ifanc o'r Bala yw Gwion Ellis. Mae'n baffiwr amatur, yn rhedwr ac yn un o athletwyr ffitrwydd mwyaf talentog Cymru.

Ym mis Rhagfyr, teithiodd i Miami, Florida ar gyfer rowndiau terfynol y byd DEKA; ar ôl dod i'r bedwaredd safle yn y gystadleuaeth 'DEKA Fit', fe aeth ymlaen i ennill pencampwriaeth y 'DEKA Mile'.

Mae ganddo dipyn o ddilyniant ar ei dudalen Instragram, dolen allanol lle mae'n rhannu ei anturiaethau ffitrwydd ar hyd a lled y wlad.

Fe gymrodd saib o'i fywyd prysur i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Roedd Dad yn rasio colomennod blynyddoedd yn ôl a dwi'n cofio bod yn yr ardd yn y loft, sef shed llawn colomennod, yn gobeithio 'swn i'n cael rasio nhw un diwrnod (ond dwi dal heb neud ac mae dad 'di stopio bellach).

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ar gopa Cader Idris ar ddiwrnod braf yn sbîad am y môr a gweld mynyddoedd gogledd Cymru.

Gwion ar gopa Cader IdrisFfynhonnell y llun, Gwion Ellis

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Ffeit bocsio cynta' fi lawr yng Nghaerdydd. Wedi bod yn trainio ers misoedd a neb o'r teulu yn gwybod os o'n i am fod yn focsar bach da (neu yn sobor sâl) a nocio y boi allan yn y rownd cynta' wedyn cael dathlu efo ffrindiau.

Gwion yn paffioFfynhonnell y llun, Sweetscience_media

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Nuts, hapus , direidus.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Eistedd ar balconi mewn gwesty yn Miami yn watsiad yr haul yn machlud ar ôl ennill Pencampwriaeth y Byd DEKA.

Gwion yn MiamiFfynhonnell y llun, Gwion Ellis

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Colli ras y trên bach, Bala.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ambell wsos yn ôl ar ôl cael bach o setback, ond ar ôl cael meddwl yn galed am y peth... fyse pethe yn gallu bod lot gwaeth felly den ni yn lwcus iawn. Dal yn iach, dal yn hapus.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pan dwi'n eistedd ma fy nghoes i yn bownsio (ants in my pants) - dwi'n cael job eistedd rhy hir.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Forrest Gump - dyn syml iawn yn rhedeg i gael heddwch.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Paned efo Mici Plwm.... dyne wir dream come true.

Syr Wynff a Plwmsan
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Gwion gael paned o de efo Mici Plwm

Dyweda rhywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n hoffi canu karaoke a dawnsio - ond dwi yn warthus felly dwi'n gorfod bocsio.

Gwion yn gwneud HyroxFfynhonnell y llun, Hyrox Cardiff
Disgrifiad o’r llun,

Tydy Gwion byth yn stopio!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Gweld pa mor bell allai redeg mewn 24 awr.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Ma'r llun yma yn bwysig oherwydd dyma lle ddechreuodd o i gyd... mewn gym bach yn Rhydymain. Dechre i gael neud Dad a Mam yn prowd.

Gwion yn ifancFfynhonnell y llun, Gwion Ellis

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

'Swn i ddim yn newid i fod yn neb arall. Dwi'n hapus, dwi'n iach... allai'm gofyn am fwy na hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: