Ennill coron arian olaf Eisteddfod Llandegfan... 30 mlynedd ers ennill y gyntaf

Karen OwenFfynhonnell y llun, Karen Owen
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddiwedd cyfnod i Eisteddfod Llandegfan, wrth iddi gyflwyno'r goron olaf gan John Price, y gof arian o Fachynlleth.

Enillydd y goron yn yr eisteddfod ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf oedd y bardd a'r newyddiadurwraig Karen Owen.

Ond beth sy'n gwneud y fuddugoliaeth yn fwy arbennig yw mai Karen oedd enillydd y goron fach gyntaf i John ei chreu ar gyfer yr eisteddfod honno, a hynny yn ôl yn 1996.

Roedd Karen yn "ofnadwy o falch" pan gafodd hi wybod mai hi oedd enillydd y goron eleni, meddai.

"Doedd o ddim byd i'w wneud efo'r clod na'r seremoni na dal sylw na dim byd felly; roedd o i gyd i'w wneud efo cwblhau y cylch rhwng 1996 pan enillais i goron gynta' John i Eisteddfod Llandegfan, a'r goron ola' roedd o wedi ei pharatoi."

Seremoni goroniFfynhonnell y llun, Alun Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Edward Morus Jones, llywydd y dydd - a chyn-bennaeth Ysgol Llandegfan - yn cyfarch y bardd buddugol

Roedd y bardd coronog yn emosiynol yn ystod y seremoni, ond meddai, "do'dd 'na ddim byd trist amdano fo – roedd o'n rhywbeth hapus ofnadwy".

Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae Karen wedi bod yn byw yn Vienna yn ddiweddar, yn darlithio ar lenyddiaeth Cymru.

Mae hi wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, wedi rhannu ei barddoniaeth yn rhyngwladol ac hyd yn oed wedi byw mewn cwfaint am gyfnod yn Awstria.

'Werth dod allan o ymddeoliad'

Doedd hi ddim yn bwriadu cystadlu mewn unrhywbeth eto... ond roedd y cyfle yn un rhy dda i'w cholli, meddai.

"O'n i'n meddwl mod i wedi ymddeol, ond dwi'n deud ei bod hi'n werth dod allan o ymddeoliad o dro i dro.

Karen OwenFfynhonnell y llun, Alun Roberts

"Dwi wedi bod yn edmygydd mawr o grefft ac ysbrydoliaeth John ar hyd y blynyddoedd. Mae gen i un neu ddwy o goronau eraill mae o wedi eu gwneud ar gyfer Eisteddfodau eraill hefyd.

"O'n i jest yn meddwl gymaint mae Karen Owen wedi newid rhwng 1996 a 2026, a rhywsut neu'i gilydd yn y 30 mlynedd yna, mae 'na lot o eisteddfota, lot o sylwadau beirniaid, a lot o grefftwaith pobl r'un fath â John hefyd wedi bod yn rhan o'r hyn sydd wedi bwydo i mewn i pwy ydw i a sut ydw i'n dweud pethau. Rhywbeth tebyg i hynny oedd yn fy ngyrru i."

Gobaith mawr y ganrif

Ffugenw Karen oedd Gobaith Mawr y Ganrif, cliw i destun y gwaith, sef cywydd coffa i'r diweddar fardd a cherddor, Geraint Jarman.

Karen Owen gyda'i choronau, a Gerwyn Williams, y beirniadFfynhonnell y llun, Siân Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Karen Owen gyda'i choronau, a Gerwyn Williams, y beirniad. Mae'r goron fawr yn eiddo i'r Eisteddfod, ond mae Karen yn cael cadw'r goron fach, sef un olaf John Price

Y Prifardd Gerwyn Williams oedd beirniad y gystadleuaeth, ac roedd wrth ei fodd gyda'r gerdd. Meddai yn ei feirniadaeth, wrth ddyfynnu peth o waith Karen:

"Mae'r gerdd yn llawn cyfeiriadau at ganeuon a cherddi Jarman. Dyma fardd hyderus a chlir ei fynegiant a'i idiom yn perthyn i'r oes sydd ohoni. Mae'n cloi yr un mor argyhoeddiadol drwy hiraethu am yr artist arbennig hwn a dathlu ei dalent:

Heno, mae Tich ei hunan

yn rhoi tiwn o fflamau'r tân,

mae pob colled, oered yw,

yn dweud nad ysbryd ydyw

ac i hwnnw a gano

un Gwesty Cymru yw'r co' …

"Dyma gystadleuydd sydd sbel ar y blaen i weddill y cystadleuwyr a hyfrydwch yw cael cyhoeddi ei fod yn llwyr deilyngu coron yr eisteddfod hon."

Di-goron yn 2027?

Mae'r gof arian, John Price, wedi bod yn creu coronau i nifer o eisteddfodau, gan gynnwys y Brifwyl, ers degawdau. Er ei fod yn byw ym Machynlleth bellach, mae'n wreiddiol o Aberffraw ar Ynys Môn.

Mae coron wedi cael ei chynnig yn Eisteddfod Llandegfan ers 1982, gyda John Price yn darparu'r goron ers 1984. Bardd coronog 1995 oedd Gerallt Lloyd Owen.

Creodd y gof arian goronau bach gydag arian oedd ganddo ar ôl, er mwyn eu cyflwyno i'r beirdd buddugol yn yr eisteddfod; y gyntaf o'r rheiny oedd yr un yn 1996, a'r olaf a gafodd ei gwobrwyo eleni.

Coron Eisteddfod 2017Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Price wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu coronau i eisteddfodau ers blynyddoedd - gan gynnwys hon ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017

Nawr, mae'r eisteddfod, sy'n 102 oed eleni, yn chwilio am goron ar gyfer 2027.

Eglurai Rhian Medi, sy'n aelod o Bwyllgor yr Eisteddfod ac a oedd yn arwain y seremonïau:

"Rydym yn ddi-goron ar gyfer y flwyddyn nesa' oni bai y daw noddwyr ymlaen, neu y cawn rodd o Goron fach.

"Mae pris arian wedi cynyddu cymaint fel mae'n amhosib cael coronau arian pur. Mae cael peth arian, neu plât arian (silver plated) yn llawer haws ei gyrraedd.

"Dyna reswm arall pam fod y seremoni hon wedi bod mor arbennig i ni fel Eisteddfod, a bod bardd, a cherdd mor glodwiw wedi cyrraedd y brig!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.