Arestio dyn ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol wedi honiad i ferch gael ei herwgipio

Cafodd yr heddlu eu galw i Dreherbert brynhawn Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau bod merch 12 oed wedi cael ei herwgipio yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad yn Nhreherbert brynhawn Mawrth.
Mae dyn o Lancashire wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol a chael cyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.